Thema dywyll Thema golau

Y Teigr yn y Castell

Y teigr yn eistedd wrth le tân yng Nghastell Powys Y teigr yn eistedd wrth le tân yng Nghastell Powys
Yn Oriel Davies, y Drenewydd, mae pedwar ffotograff yn dangos dyn mewn gwisg teigr. Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect ‘Teigr yn y Castell’ gan yr artist Daniel Trivedy, sy’n ymdrin â’r trysorau a ysbeiliwyd o India gan Robert Clive (1725–1774) a’i ddisgynyddion. Yng Nghastell Powys dair blynedd yn ôl y clywodd Daniel Trivedy gyntaf am y gwrthrychau gwerthfawr o’r dwyrain. Roedd y casgliad ymhlith y pynciau a drafodwyd mewn cyfres seminarau ar-lein Imperial Subjects a drefnwyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe. Ac yntau o dras Indiaidd ei hunan, synnai nad oedd yn ymwybodol cyn hynny o Amgueddfa Clive ger y Trallwng. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n gwarchod yr amgueddfa, dyma ‘un o gasgliadau pwysicaf y DU o arteffactau Indiaidd ac Asiaidd-Ddwyreiniol sy’n dyddio o tua 1600 i’r 1830au’. Pan ddaeth y cyfnod clo i ben penderfynodd yr artist, sy’n byw ger Castell-nedd, ymweld â’r castell a chasgliad Clive.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Pencadlys Ewrop cwmni Google ar Silicon Docks, Dulyn

Gwlad yn llifeirio o ewros ac ewros

Ymlaen >
Siân Phillips ar raglen deledu This is Your Life a chlawr y cofiant gan Hywel Gwynfryn

Cofiant i Siân Phillips – holi Hywel Gwynfryn