Thema dywyll Thema golau

Y tocsig Tate

Andrew Tate Andrew Tate
Enw cymharol ddiarth i mi oedd Andrew Tate tan ryw fis neu ddau yn ôl. Enw a oedd yn cael ei grybwyll (yn foliannus) ar gyfrifon Facebook rhai o’r bobol sy’n gwrthwynebu’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, felly sgrolio heibio a rowlio’n llygaid o’n i. Mi gododd ei enw o eto wedyn mewn sgyrsiau pryderus am fechgyn ysgol yn ei ddyfynnu a’i ddynwared, ac yn fuan roedd ei enw ym mhobman ar ôl iddo gael ei arestio yn Rwmania ar amheuaeth o fasnachu pobl. Mae Tate wedi gwneud ei farc mewn sawl maes, fel cic-focsiwr, seren teledu realaeth a dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol ymhlith pethau eraill. Mae’n fisogynydd ar ei gyfaddefiad ei hun ac yn pedlera ei syniadau hyll i filiynau o ddilynwyr am sut y dylai dynion a bechgyn ymddwyn. Ymhlith ei syniadau am ferched mae o’n dweud mai adra mae ein lle ni, na ddylen ni gael gyrru ac mai eiddo dynion ydan ni.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Dwy o gyfranwyr Gogglebox Cymru

Ffraethineb y soffa-sylwebwyr

Ymlaen >
Yr haul yn machlud dros adeiladau San Steffan

Amgloddiad cyfansoddiadol – term newydd, hen benbleth