Thema dywyll Thema golau

Ym Mhawen y Wasg

 Y fi fyddai’r cynta’ i gyfaddef nad wyf y ffan mwya’ o sioeau cerdd – yn aml iawn dwi’n eu cael yn rhy ystrydebol a chyfleus. Fodd bynnag, cefais fy siomi ar yr ochr orau y tro yma a drwyddi draw roedd  Heb ei Fai… yn gynhyrchiad hynod lwyddiannus. Roedd y sioe wedi’i gosod yng Nghaerdydd yn 1910 ac yn trafod effaith llofruddiaeth yn ardal y dociau ar gymuned yr ardal honno – cymuned sy’n cael ei rhwygo yn sgil yr ymdrech i ddal y llofrudd a’i ddwyn o flaen ei well. A ninnau yng nghanol brwydr etholiadol, roedd thema’r sioe – rôl y wasg yn llywio’r farn gyhoeddus, a’r perygl o gorddi’r dyfroedd ar sail rhagfarn a thwyll – yn hynod amserol, a chafwyd perfformiadau gwirioneddol safonol. Yn ddi-os, cân hyfryta’r sioe oedd y ddeuawd ‘Ti’ rhwng Gwydion Rhys Griffiths (Niall) a Lynwen Haf Roberts (Gwenno), ond os mai honno oedd y ddeuawd gryfa’, yna’r gân a lwyddodd i roi gwên lydan ar wep y mwyafrif o’r gynulleidfa oedd ‘Amen!’ gan M.O.M. Davies a’r Ymgymerwyr. Er nad oedd efallai yn glywadwy berffaith, yn weledol roedd y gân yn berl ac yn werth pob ceiniog o’r tâl mynediad ynddi’i hun.

 Llwyddodd y cynhyrchiad hwn i gadw diddordeb, er y byddai’r sgript ar ei hennill pe bai wedi cael ei thocio a’i thynhau. Weithiau roedd rhywun yn ymbalfalu am yr ateb i’r cwestiwn holl bwysig: stori pwy oedd hi? Derbyniaf ei bod hi’n anodd llunio sgript oedd yn cynnig cyfleoedd i’r holl fyfyrwyr, ond ambell dro roedd y stori fel petai’n mynd i sawl cyfeiriad, ac o ganlyniad roedd y ffocws a’r trywydd yn cael ei golli. Pe bai’r cyfan wedi cael ei dynhau ryw gymaint, byddai’r cynhyrchiad fel cyfanwaith wedi elwa.

Er efallai nad oedd mor slic a llwyddiannus â Clymau, cynhyrchiad yr un cwmni y llynedd, rhaid cofio mai criw o bobl ifanc oedd yn gyfrifol am bob agwedd o’r cynhyrchiad – o’r rhaglen i’r actio – ac mae hynny’n gamp ynddo’i hun. Fe ddylai pawb a fu’n gyfrifol am lwyfannu’r cynhyrchiad hwn ymfalchïo yn y gwaith gorffenedig. 

 Yn ystod penwythnos y Pasg cafwyd sgwrs radio ddifyr iawn rhwng Huw Ffowcs, Betsan Powys a Gwyn Hughes Jones, ac ymhlith y pynciau a drafodwyd yr oedd apêl gweithio yng Nghymru o’i gymharu â gweithio tu hwnt i Glawdd Offa. Yn annisgwyl efallai, nododd y ’fenga o’r tri, Huw Ffowcs, ei fod yn fwy na hapus yng Nghymru, ac nad oedd â’i fryd ar fynd i Lundain neu ymhellach i ymarfer ei grefft. Er ei bod yn bwysig ein bod yn ymhyfrydu yn llwyddiannau’r unigolion ifanc hynny sy’n gwneud eu marc dros Glawdd Offa (megis Iwan Rheon ac Aneurin Barnard), mae’r un mor allweddol ein bod yn gwarchod ac yn cefnogi’r rhai hynny sy’n penderfynu aros a dilyn gyrfa ym myd y cyfryngau yng Nghymru. Mewn oes lle mae anobaith a phesimistiaeth fel petaent yn teyrnasu, mae’n ddyletswydd arnom i hyrwyddo ac annog y genhedlaeth ifanc i ddefnyddio’u dawn creadigol, a chynnig llwyfan teilwng iddynt gael ymarfer a pherffeithio eu crefft yng ngwlad eu mebyd, a hynny er lles y Theatr yng Nghymru a’r genedl yn gyffredinol.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Yn ôl i Zimbabwe

Ymlaen >

Cwrs Y Byd - Hogiau Del