Thema dywyll Thema golau

‘Yma o Hyd’ yma o hyd

erthygl-mai-2021-2223-1127 erthygl-mai-2021-2223-1127
Os mai arwydd o gân dda yw ei gallu i olygu pethau gwahanol i bobl wahanol, heb amheuaeth mae ‘Yma o Hyd’ – sydd wrth reswm yn cael ei thrafod gan Dafydd Iwan yn ei gyfrol newydd Rhywle Fel Hyn: Atgofion Drwy Ganeuon (Carreg Gwalch) – yn ffitio’r diffiniad yn berffaith. Fe wnes i ddechrau perfformio ‘Yma o Hyd’ fel rhan o fand Dafydd Iwan yn 1993. Erbyn hynny roedd y gân eisoes wedi ei sefydlu ei hun fel un o’i rai mwyaf poblogaidd. Wedi’r cyfan, roedd hi’n ddeng mlynedd ers i Dafydd ac Ar Log recordio’r gân am y tro cyntaf. Fe’i cyfansoddwyd ganddynt yn 1983 i gyd-fynd â ‘Taith Macsen’. Roedd y daith yn dathlu parhad y genedl Gymreig dros un ganrif ar bymtheg, gan gydio yn y syniad – un a hyrwyddwyd gan Gwynfor Evans – mai Magnus Maximus, yr ymerawdwr Rhufeinig a adawodd Brydain yn 383, oedd tad y genedl Gymreig. Roedd angen arwyddgan ar gyfer y daith, ac felly y ganed ‘Yma o Hyd’.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2021-2221-1126

Y pla arall

Ymlaen >
erthygl-mai-2021-2224-1128

Pobl Ddu a’r Gymru Gymraeg