Yn dilyn hynna ddylai ei gyhoeddiad i roi’r gorau i fod yn aelod seneddol ddim o’n synnu o gwbl, na ddylai? Yr amseriad yn fwy na’r cyhoeddiad oedd yn syndod. Ond ag yntau wedi ennill un o ysgoloriaethau Fulbright, gyda’r uchaf eu bri o holl ysgoloriaethau’r byd, doedd ganddo ddim dewis ond cyhoeddi ei fwriad i adael y Senedd a mynd i America am flwyddyn i astudio.
Mae cyhoeddi ei fwriad i ildio ei sedd adeg yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn rhoi cyfle hefyd i Blaid Cymru ddewis ymgeisydd i’w olynu yn yr etholaeth. Ac mae’n caniatáu i Adam Price feithrin y person hwnnw neu honno, ac annog ei ddilynwyr cadarn i ymddiried yn ei olynydd. Does dim amheuaeth bod Adam Price yn yr wyth mlynedd a aeth heibio ers iddo drechu’r haeddiannol anghofiedig Dr Alan Williams wedi denu pleidlais bersonol sylweddol. Ond mae deiliaid carismataidd yn gallu perswadio eu cefnogwyr i drosglwyddo eu teyrngarwch i’w darpar olynwyr. Enghraifft nodedig o hynny oedd y modd diwnïad a llyfn y paratowyd y ffordd gan Dafydd Elis Thomas ar gyfer Elfyn Llwyd yn 1992. Gallaf glywed rhai ohonoch chi’n protestio’n groch nad yr hen Feirionnydd Nant Conwy yw Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ond mae Adam, drwy rym ei bersonoliaeth a’i ddoniau gwleidyddol cydnabyddedig ledled y Deyrnas, wedi ei gwneud hi’n sedd ddiogel i’r Blaid. Mater o amser yn unig fyddai hi wedi bod cyn iddo ymuno â’r criw dethol hwnnw o aelodau San Steffan sy’n cael dros 50% o’r bleidlais yn eu hetholaethau.
Ymhlith y ceffylau blaen i’w ddilyn, rhesymol yw dyfalu y bydd Jonathan Edwards o Rydaman. Yn un o’r to o strategaethwyr galluog a deheuig a wnaeth gymaint i drawsnewid peirianwaith y Blaid, fe ddylai Jonathan fod yn ymgeisydd peryg. Clywais enwi eisoes hefyd fwy nag un aelod o dylwyth niferus Gwynfor Evans. Does gen i ddim ond gobeithio bod y Blaid ar ei newydd wedd yn ddigon aeddfed a disentiment i beidio â gadael i ystyriaethau o’r fath ddylanwadu ar y dewis. Nid, yn enw pob rheswm, y dylai perthyn i Gwynfor anghymhwyso neb! Does wiw ychwaith cael i’r sefyllfa honno sy’n sawdl Achilles democratiaeth – sefyllfa lle mae methu dewis rhwng dau ymgeisydd cryf yn agor y drws i ddewis ymgeisydd gwannach. Gocheler hefyd rhag y sefyllfa felltigedig lle mae dewis un ymgeisydd ar draul ymgeisydd arall yn creu rhwyg angheuol yn rhengoedd y Blaid. Cofier mai hynny a gyflwynodd etholaeth Ynys Môn i Lafur yn 2001.
Rhown y gorau am y tro, fodd bynnag, i ddyfalu pwy fydd y Blaid yn ei ddewis i geisio olynu Adam Price. Pan ddaw’r ‘dysgedicaf yn ein mysg’ – na, nid at Lywydd y Cynulliad, fel sy’n arferol, y cyfeiriaf – pan ddaw Adam yn ôl i Gymru o America, rhoddodd wybod mai bod yn Aelod Cynulliad yw ei nod. Nod cwbl resymol. Fe gytunai pawb call, o bob plaid, mai hwb i gredinedd y Cynulliad fyddai presenoldeb gwleidydd o alluoedd Adam Price yn ein Senedd.
Ond... Lle mae o’n mynd i sefyll? Does gan Rhodri Glyn Thomas ddim bwriad o fath yn y byd i ildio ei sedd yn y Cynulliad i Adam. A dwi’n eithaf sicr nad oes yr un bwriad gan neb o fewn Plaid Cymru i geisio ei orfodi o i wneud hynny. Does dim sedd amlwg ar y rhestr ychwaith ar gyfer Adam Price. Ar hyn o bryd, felly, a derbyn y gall pethau newid yn hollol annisgwyl rhwng rwan ac ymadawiad Adam â San Steffan a’i ddychweliad i Gymru o America, mae dewisiadau Adam yn eithaf cyfyng.
Anodd yw anghytuno â’r farn mai etholaeth Castell Nedd yw’r etholaeth fwyaf tebygol iddo ei llygadu. Yn fab i löwr, gellir dychmygu Adam yn llwyddo’n gymharol rwydd i ennill ymddiriedaeth pleidleiswyr bröydd ôl-lofaol etholaeth Castell Nedd, yn union fel y gwnaeth yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Mae Castell Nedd yn ddewis mwy deniadol fyth os oes gwirionedd yn y sibrydion fod Aelod Cynulliad presennol yr etholaeth, Gwenda Thomas, yn bwriadu ymddeol. Fyddai hynny ddim yn syndod i mi. Byddai Gwenda â’i llond ceg o Gymraeg glân gloyw, a’i gofal diflino dros yr anghenus, yn gyfrannydd cyson a chymeradwy i’r rhaglenni y byddwn i’n eu llywio ar gychwyn S4C, ymhell dros chwarter canrif yn ôl. Cyfeiriaf at hynny yn unig er mwyn dangos bod Gwenda yn llawn haeddu ymddeoliad hapus wedi oes o wasanaeth cyhoeddus. Hawdd iawn yw dychmygu mai Adam Price fyddai etifedd naturiol pleidlais bersonol gref Gwenda Thomas mewn llefydd fel Blaendulais, ymhlith eraill, yn yr etholaeth.
Bid a fo am hynny. Codi i’r wyneb mae hufen yn ei wneud. Rhywbeth dros dro, gellir bod yn sicr o hynny, fydd ymadawiad Adam o’n bywyd gwleidyddol.
Beth sy’n arwyddocaol yw’r ffaith nad Adam Price yw’r unig un sy’n llygadu’r Cynulliad. Yn sesiwn Barn ym Mhrifwyl y Bala mynegodd Elfyn Llwyd yr awydd i symud maes o law o San Steffan i Senedd Cymru. Wedi blino – yn gwbl ddealladwy – aros am wahoddiad i’r Arglwyddi, mae Dafydd Wigley hefyd eisiau dychwelyd i Fae Caerdydd. Ac fe wnaeth Ron Davies – ie, y Ron Davies – yn eithaf clir na fyddai dychwelyd i’r Cynulliad fel Aelod Plaid Cymru yn groes graen iddo yntau. I’r gwrthwyneb yn llwyr. Derbyniodd wahoddiad i Gynhadledd Plaid Cymru i fod ar banel a oedd yn trafod rhagolygon Cymru yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2010. Roedd Ron yn amlwg wedi ei gyffwrdd i’r byw gan y croeso cynnes a didwyll a gafodd o gan y Blaid. Ron Davies yn ymuno â Phlaid Cymru? Ron Davies yn dod yn Aelod Cynulliad dros y Blaid? Synnwn i ddim.
Mae sawl un ohonom ni o hyd yn credu y byddai’r Cynulliad wedi bod ar ei ennill yn aruthrol pe na byddai, yn ei babandod, wedi colli Ron Davies a Dafydd Wigley. Dyw cenhedloedd bychain ddim yn gallu dygymod â’r fath golledion.
Ond fe ddysgwyd gwersi, gobeithio.
Does wiw i’r Cynulliad yn 2011 golli’r cyfle i groesawu Adam Price yn ôl i brif-ffrwd ein gwleidyddiaeth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

