Thema dywyll Thema golau

Yn sgil lladd Lyra McKee

erthygl-mehefin-2019-1974-908 erthygl-mehefin-2019-1974-908
Os ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad oedd byw yng Ngogledd Iwerddon yn ystod blynyddoedd yr Helyntion, yna darllenwch Milkman – nofel wych Anna Burns a enillodd wobr Man Booker llynedd. Mae’r nofel wedi ei gosod mewn dinas ddienw, ond un sy’n debyg iawn i Felffast. Drwy’r cymeriadau, a’r stori a’i defnydd o iaith, llwydda Anna Burns i gyfleu’r paranoia sy’n bodoli mewn cymdeithas lle mae ’na wastad bethau cudd a phethau sydd ddim yn cael eu dweud, a lle nad yw trais byth ymhell. Efallai fod Milkman wedi cael y fath argraff arnaf am fy mod wrthi’n ei darllen ar yr union adeg y trodd pethau’n hyll yn Derry gyda llofruddiaeth y newyddiadurwraig ifanc, Lyra McKee. Fe gafodd ei lladd gan fwled a daniwyd yn ystod noswaith o derfysg ar stad Creggan ar 18 Ebrill.. Yn ei thrydariad olaf cyn cael ei tharo, fe anfonodd Lyra lun o’r fflamau a’r mwg gyda’r neges ‘Derry heno. Gwallgofrwydd llwyr’.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2019-1973-907

Gorymdaith annibyniaeth

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2019-1975-909

Troi tlodi’n adloniant