Thema dywyll Thema golau

Yr economi’n crebachu’n arw

erthygl-gorffennaf-2020-2112-1021 erthygl-gorffennaf-2020-2112-1021
Roedd yn rhaid i sylwebyddion godi’n gynnar ar 12 Mehefin oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ffigyrau am saith o’r gloch y bore hwnnw parthed maint economi (GDP) y Deyrnas Gyfunol ym mis Ebrill. Hwn oedd yr adroddiad cyntaf i adlewyrchu’n llawn effaith Covid-19 ar yr economi. Roedd disgwyl y byddai’r ystadegau’n dangos gostyngiad mawr, ac felly y bu, gyda chrebachiad o 20.4 y cant yn Ebrill, yn dilyn cwymp o 5.8 y cant ym Mawrth. Dros y ddau fis, felly, roedd yr economi wedi crebachu 25 y cant. Dyma’r cwymp mwyaf ers dechrau cofnodi ffigyrau GDP. Serch hynny, roedd y cwymp i’w ddisgwyl. O’r gweithlu o tua 33 miliwn ar ddechrau’r flwyddyn, roedd traean naill ai ar furlough neu o dan drefn debyg ar gyfer yr hunangyflogedig. Y ffigyrau cyfatebol i Gymru oedd gweithlu o 1.4 miliwn a thua 418,000 yn derbyn cymorth arbennig.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-gorffennaf-2020-2110-1020

Y Blaid Geidwadol Gymreig – neu Blaid ‘mae popeth yn well yn Lloegr’

Ymlaen >
erthygl-gorffennaf-2020-2113-1022

Arglwydd, be ydi’r gêm?