Beth all Cymru ei ddysgu ym myd addysg gan Seland Newydd? Ym maes hanes fe all ddysgu llawer iawn yn ôl awdur yr erthygl hon.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth Seland Newydd y byddai hanes y wlad yn dod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ysgol, roedd llawer yn rhagweld y byddai’r newid yn creu dadlau. Roedd rhai yn poeni am gynnwys y cwricwlwm, eraill am y pwyslais ar berthynas y Māori â’r wladwriaeth, ac roedd nifer yn cwestiynu a oedd ysgolion yn meddu ar yr adnoddau a’r arbenigedd angenrheidiol i gyflwyno’r pwnc newydd. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n amlwg fod Seland Newydd wedi wynebu’r heriau hynny yn llawer mwy llwyddiannus nag yr ydym wedi’u hwynebu yng Nghymru. Nid oherwydd bod eu hanes yn fwy diddorol na’n hanes ni, nac oherwydd bod eu hathrawon yn fwy galluog na’n hathrawon ni, ond oherwydd eu bod wedi deall gwir natur y broblem. Nid yw newid cwricwlwm yn ddigon ynddo’i hun. Os ydych am i bobl ifanc ddysgu hanes eu cenedl, rhaid buddsoddi yn yr athrawon sy’n gyfrifol am ei addysgu.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
