Thema dywyll Thema golau

Yr hirdaith ers 1993 – holi Laura McAllister

Portread o Laura McAllister Portread o Laura McAllister
Laura McAllister

Un o gymeriadau mwyaf dylanwadol, os nad Maciafelaidd, pêl-droed Cymru yn y 1980au a’r 1990au oedd y diweddar Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Bêl-droed. Roedd rhywbeth yn ei osgo yn dwyn i gof rai o fixers gogoneddus oes y Tuduriaid, rhai fel Thomas Wolsey a Thomas Cromwell.

Yn 1993, daeth tair pêl-droedwraig i gysylltiad ag ef, tair oedd yn ddigon gwleidyddol effro i ddeall nad oedd pethau’n gallu digwydd ym myd y bêl gron yng Nghymru heb ei gydsyniad ef. Ers 1973, roedd gan Gymru dîm pêl-droed merched a chwaraeai’n achlysurol. Ond roedd y tair – Michelle Adams, Karen Jones a Laura McAllister – am weld y tîm yn dod yn rhan ffurfiol o’r Gymdeithas Bêl-droed. Ac roedd eu greddf wleidyddol yn gwbl gywir – o gael Alun Evans o’u plaid, pwy allai fod i’w herbyn? Ymhen dim, cafwyd sêl bendith yr awdurdodau oddi uchod ac roedd tîm cenedlaethol Cymru’n cystadlu cyn diwedd 1993 o dan adain y Gymdeithas Bêl-droed yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth merched Ewrop. 

Mae’r daith o 1993 i fod yno ym mhencampwriaeth merched UEFA yn y Swistir wedi bod yn un hir a throellog.

< Yn ôl
Merch ifanc yn edrych dros glogwyn ar draeth Barafundle

Gwenoliaid a chywion y gog – gair am dwristiaeth

Ymlaen >
Aelodau band 'Kneecap'

Kneecap yn taro’r penawdau rhyngwladol