Thema dywyll Thema golau

Yr iasol a’r dirdynnol

Cleddau. Llun: S4C

Croesawu cyfres dditectif yn ôl y mae ein colofnydd y tro hwn, ac mae hi hefyd wedi bod yn gwylio rhaglen ddogfen am un o’r trychinebau diwydiannol mwyaf torcalonnus yn hanes Cymru.

Mae’n dymor y cyfresi ditectif, sy’n ymddangos unwaith yn rhagor fel cyrff o’r cloddiau. Mae’r body‑count yn cynyddu wrth i’r dyddiau fyrhau. Daw ail gyfresCleddau i’r sgrin yn fuan ym mis Hydref, a dyma ni’n ôl yn Aberdaugleddau eto. Mae’n ymddangos fod pawb yn dal i ofni’u cysgodion yn y dref hon, gan gynnwys mab y Ditectif Rick Sheldon sy’n meddwl bod bwci‑bo’n byw yn ei gwpwrdd. Paid â becso, Macsen, dim ond dy dad sydd yno, yn ymddangos fel cysgod llwyd, lleddf dros fywydau ei deulu wedi iddo flawdo pethe gyda’i wraig Helen. Bu Rick, yn y gyfres gyntaf, yn ceisio cynnau tân ar hen aelwyd gyda’r Ditectif Ffion Lloyd a secondiwyd o Lundain i weithio yn yr ardal. Druan â Rick, achos fe fyddai’n gwneud unrhyw beth i adfer ei briodas, medde fe.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y seren gyflymaf a’r Twll Du

Ymlaen >

Gwynn Francis Evans 1938‑2026