Thema dywyll Thema golau

Ysbryd Beca yn parhau

erthygl-rhagfyr-2018-i-ionawr-2019-1937-868 erthygl-rhagfyr-2018-i-ionawr-2019-1937-868
O’r diwedd mae arddangosfa Beca wedi cyrraedd. Ers i mi ddod yn ymwybodol o’r grŵp chwyldroadol pan oeddwn yn fyfyrwraig yng Ngholeg Menai yn ôl yn 2012, dwi wedi bod yn ysu i weld y gwaith celf yma. Dyma gyfle felly, yn Storiel, Bangor, i gael gwneud hynny, a ches i mo fy siomi. Celfyddyd sydd â Chymreictod yn ganolog iddi yw gwaith Beca, grŵp a sefydlwyd yn y 1970au, wedi’i enwi ar ôl Merched Beca. Mae’n ymdrin â’r pethau sy’n siapio ein bywyd ni fel cenedl. Peidiwch, da chi, â disgwyl tirluniau a phortreadau traddodiadol yn ‘Gwrthryfel Beca’, sy’n yn dod â gwaith dau frawd, Peter a Paul Davies, dau o hoelion wyth y grŵp, at ei gilydd (mae’r arddangosfa yn Storiel tan 5 Ionawr). Yn hytrach, fe welwch chi sut y defnyddiodd Beca, dros y blynyddoedd, fap Cymru gyfan fel tirlun, mewn amryw gyfrwng, nes iddo ddod, bellach, yn arwyddlun y grŵp.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2018-i-ionawr-2019-1935-867

Haint ticio bocsys

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2018-i-ionawr-2019-1938-869

Mae dysgwyr yn donic