Thema dywyll Thema golau

Ysgol Gymraeg Llundain yn 60

erthygl-tachwedd-2018-1924-857 erthygl-tachwedd-2018-1924-857
Criw o dadau a ddechreuodd y cyfan. Roeddent yn anfon eu plant am wersi Cymraeg ar foreau Sadwrn ac yn awyddus iddynt gael addysg drwy gyfrwng yr iaith. Gwireddwyd eu breuddwyd, wedi cryn frwydr, yn 1958 pan agorodd Ysgol Gynradd Gymraeg Llundain ei drysau am y tro cyntaf gyda deg ar hugain o blant. Eleni mae’n dathlu ei phen-blwydd yn drigain oed. Bu’r ysgol ar grwydr o gwmpas prifddinas Lloegr dros y blynyddoedd cyn cyrraedd ei chartref presennol yng Nghanolfan Gymdeithasol Hanwell yng ngorllewin Llundain. Hen wyrcws yw’r ganolfan lle bu Charlie Chaplin gynt yn ddisgybl ac mae ’na lun gwengar ohono yn y cyntedd. Yn goron ar ddathliadau’r pen-blwydd arbennig eleni, mae adroddiad diweddar gan Ofsted yn diffinio’r sefydliad fel un ‘Da’ gydag elfennau ‘Rhagorol’. Nid bod angen rhyw gorff biwrocrataidd i gadarnhau’r hyn y mae’r rhieni yn ei deimlo’n barod am yr ysgol hynod hon.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2018-1923-856

Ethol Adam: Plaid Cymru’n newid cywair

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2018-1925-858

Argyfwng cerddoriaeth Cymru