Thema dywyll Thema golau

Ysgrif goffa Catrin (Kathleen) Dafydd (1938-2010)

Roedd yr ardal yn fwrlwm o weithgareddau o’r pumdegau i’r wythdegau, a bu hi yn ymhel â phob un – yn aelod o gôr yr Urdd a’r cwmni drama buddugol yn Eisteddfod yr Urdd yn Abertridwr yn 1955. Roedd dau gwmni drama yn Aber-soch, sef Cwmni’r Neuadd a Chwmni’r Capel, a bu hi a’i thad yn aelodau o’r ddau. Yn 1967/68 ymddangosodd gyda Chwmni’r Gegin, Cricieth yn y ddwy gomedi-sefyllfa gyntaf yn yr iaith Gymraeg ar Deledu Harlech, sef Ma’ Pawb Isio Byw a Dai a Henri gan yr anfarwol Wil Sam. Er iddi orfod rhoi’r gorau i actio’n lleol wedi iddi dderbyn cerdyn ‘Equity’, bu’n ddiwyd yn hyfforddi plant y fro i gydadrodd ac actio. Y siop fyddai’r ystafell ymarfer a byddai’n eu gwobrwyo gyda phaced o greision neu ‘Cherry Lips’. Trwy hyn i gyd, bu’n aelod selog ac yna’n flaenor yng Nghapel y Graig, ac yn danbaid dros gadw’r drws ar agor.

Ymddangosodd mewn llu o gynyrchiadau megis Gwen Tomos, Mae’n Wyllt Mr. Borrow, Madam Wen a Hafod Haidd. Hi oedd un o sêr Bysus Bach y Wlad ac, wrth gwrs, C’mon Mid-ffîld. Yn ystod ffilmio’r cyfresi byddwn yn mynd ati bob bore i ofyn sut hwyl oedd arni. Yr un fyddai’r ateb bob tro: ‘Yn nerfus ’mwyn tad, er dyn â wyr pam chwaith!’ A phan fyddai’r cof yn pallu o bryd i’w gilydd (fel sy’n digwydd inni i gyd) mi fyddai’n troi ataf a dweud, ‘Dwi yn ’i wbod o’n iawn ’sti – ddim yn ’i gofio fo ydw i!’ Dyna, greda’ i, un o wirioneddau mawr bywyd.
Portreadu Lydia Tomos oedd pinacl ei gyrfa fel actores. Cafodd ei geni i’r rhan. Hi oedd Lydia Tomos. O wisgo ‘joc-strap’ am ei phen (barodd i Alun Ffred Jones a innau adael y set oherwydd ein bod yn chwerthin cymaint – ddwywaith!) i eistedd ar drawst y gôl fel yr angel Gabriel liw nos, roedd hi’n drwpar!

Wrth ffarwelio ô Kathleen, Catrin a Lydia, ni allaf ond gobeithio bod y tair bellach yn sefyll wrth Byrth y Nefoedd gyda’u breichiau ar led, ac yn cyhoeddi,  'Dyma ni yno!’

Bu farw Catrin Dafydd ar 11 Tachwedd 2010

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

O'r Alban - Lawr â fo

Ymlaen >

Beth yw Buddugoliaeth?