Thema dywyll Thema golau

Ystof ac anwe – celfyddyd y garthen

erthygl-tachwedd-2021-2287-1183 erthygl-tachwedd-2021-2287-1183
Adolygiad o arddangosfa ‘O Dan y Gorchudd’, Oriel Davies Arogl saim gwlân sy’n bwrw’r ymwelydd wrth agor drysau arddangosfa O Dan y Gorchudd yn Oriel Davies, y Drenewydd. Mae rheng ar ôl rheng o garthenni yn meddiannu’r oriel – rhai yn hongian o’r nenfwd ac eraill yn addurno’r waliau ac wedi’u pentyrru ar flychau gwyn. Amcan yr arddangosfa yw dangos rhagoriaeth ym myd gwehyddu cyfoes. Mae’n cynnwys darnau gan wneuthurwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt, o waith gwŷdd llaw i enghreifftiau wedi’u cynhyrchu â pheiriant. Mae’r deunydd crai yn amrywio o wlân oen ac alpaca i sidan a chotwm, llin a defnydd wedi’i ailgylchu. Dyma ddathliad o batrymau sy’n basiant o linellau, sgwariau, diemwntau, trionglau a chylchoedd – rhai unlliw ac amryliw, mewn edafedd llwydion a lliwiau’r pridd a lliwiau llachar. Mae’n briodol fod taith arddangosfa sy’n ymwneud â’r garthen wedi cyrraedd y Drenewydd – tref a welodd lewyrch mawr yn sgil twf y diwydiant gwlân.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2021-2286-1182

Meddwl ddwywaith cyn cerdded adref

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2021-2289-1184

Morfudd a Dyddgu a fi