Lle Mae’r Llwythau’n Dod Ynghyd
Mae drama Gymraeg gyntaf awdur ifanc o Gaerdydd yn archwilio Cymreictod gan ddefnyddio noson allan pum Cymro hoyw fel cyfle i wneud hynny. Os bydd drama newydd Sherman Cymru, Llwyth, sydd ar daith yn ystod y mis hwn a’r mis nesaf, yn creu penawdau – ac mae’n bur debyg y bydd hi – yna’r elfennau mwy cignoeth ohoni sy’n sifir o ddenu sylw. Mae’n ddrama am bum Cymro hoyw ar noson allan yng nghlybiau a thafarndai Caerdydd: mae’n cynnwys iaith gref, mae’r cymeriadau’n trafod eu profiadau rhywiol, maen nhw’n cymryd cyffuriau, ac yn siarad Wenglish. Digon felly i godi aeliau rhai ymhlith y gynulleidfa draddodiadol. Ond byddai canolbwyntio ar yr elfennau hynny yn golygu colli golwg ar brif thema Llwyth, sydd, yn ôl awdur y ddrama, Dafydd James, yn archwiliad o Gymreictod. Mae’r teitl yn cyfeirio lawn cymaint at y Cymry Cymraeg a llwyth y teulu ag y mae at y llwyth hoyw, ac mae’r ddrama’n edrych ar y ffordd y mae’r cymeriadau’n perthyn i fwy nag un garfan ar yr un pryd.
31 March 2010
Dydd y Farn – heb y tân a’r brwmstan
Ddechrau Mawrth, fel rhan o ddathliadau’r Academi yn hanner cant oed, cynhaliwyd cynhadledd i drafod beirniadaeth yng Nghymru heddiw. Difyr ond dof oedd y trafod, yn ôl un a fu yno Diwrnod difyr oedd yr un a gynhaliwyd gan yr Academi yn Aberystwyth ddechrau’r mis diwethaf i drafod sefyllfa beirniadaeth yng Nghymru. Roedd y gynhadledd yn llawn dop, a’r trafod yn fywiog, ac fel islais i’r trafodaethau clywid rhyw anfodlonrwydd gyda theneurwydd beirniadaeth Gymraeg, a chyda’i diffyg gonestrwydd. Mae’n rheidrwydd arnaf innau, felly, i ddweud y gwir plaen, sef nad oedd neb fawr callach erbyn diwedd y diwrnod, ac mai cyfle i ollwng stêm oedd y gynhadledd yn bennaf, heb ddim oll i ddangos cyfeiriadau newydd, nac i greu daeargrynfâu dan gadarn goncrid Philistia.
31 March 2010
Yr Ornest
"Dave" y paffiwr ifanc yn y gornel las a enillodd y rowndiau cynnar. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae Brown, yr hen focsar o’r gornel goch, yn ergydio’n galed. Ond pwy sy’n dal i fwrw ei chysgod dros y cylch?... A minnau bellach yn byw nid nepell o stadiwm athletau Lecwydd yng Nghaerdydd, dwi’n eu gweld nhw’n gyson yn ymarfer. Mae rhywbeth go ryfedd mewn gweld ein hathletwyr mwyaf talentog yn ymarfer eu drills. Er eu bod nhw i gyd yn chwim i’w ryfeddu – o leiaf i’n llygaid ni, feidrolion – maen nhw’n treulio oriau lawer yn symud yn bwyllog o amgylch y trac rhedeg. Codir pen-glin dde a braich chwith i’r awyr gyda’i gilydd. Yna gollyngir nhw a chodir yn eu lle y pen-glin chwith a’r fraich dde. Ac felly ymlaen. Am yn ail. Am hydoedd. Pwrpas yr ymarferiad, yn ôl a ddeallaf, yw plannu’r symudiadau hyn yn ddwfn yn y cof fel bod technegau rhedeg cywir yn dod yn ail natur i’r athletwyr.
31 March 2010
Cwrs y Byd – Ymweld â’r gorffennol
Fe dreuliais i’r rhan helaethaf o saithdegau’r ganrif ddiwethaf yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n ifanc. Ac fe wnes i fwynhau’r ddinas. Sylwer mai’r ddinas ddywedais i. Nid y brifddinas. Doedd Caerdydd y cyfnod ddim yn ymarweddu fel prifddinas. Yn ei hunangofiant, Baglu ’Mlaen, mae Paul Flynn yn dyfynnu’r hyn a ddywedodd ei fam dreiddgar wrtho ar yr aelwyd yn Grangetown yn y pedwardegau. Bodolai tair gradd o Gymreictod, meddai’r fam. Roedd y Flynniaid, ‘mwngreliaid Gwyddelig/Sbaenaidd/Eidalaidd Caerdydd’ yn Welsh. Pobol y Cymoedd oedd y Real Welsh. Ac wedyn, meddai Mrs Flynn, roedd y Proper Welsh, sef y Cymry Cymraeg: ‘Protestaniaid pybyr oedd nid yn unig yn estroniaid ond yn byw hefyd ar ryw blaned arall’.
31 March 2010
