Llyfrgelloedd Mewn Peryg
Wrth iddo ymddeol o’i swydd fel Pennaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r awdur yn rhoi her inni wrthsefyll pob ymgais i wneud i ffwrdd â llyfrgelloedd cyhoeddus. Yn ôl ysgolheigion, Ashurbanipal, brenin Asyria yn y seithfed ganrif cyn Crist, a sefydlodd y llyfrgell fawr gyntaf y gwyddom amdani, yn ei balas yn Ninefe. Byth er hynny mae llyfrgelloedd wedi goroesi fel casgliadau defnyddiol o wybodaeth gofnodedig ac ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffordd o addysgu ac ysbrydoli pobl o bob rhan o’r gymdeithas.
15 April 2013
ganAndrew Green
Llafur Ofer David y Tori
"Digon i godi’r felan ar yr anorak cyfansoddiadol mwyaf"yw disgrifiad yr awdur o dystiolaeth Llywodraeth Llundain i Gomisiwn Silk. Ond er mai atal twf y Wladwriaeth Gymreig yw bwriad David Jones nid yw’n dilyn o gwbl mai dyna fydd yn digwydd.
5 April 2013
Cwrs y Byd – Troedigaethau?
Cymro o Gaerdydd, Ivor Novello, oedd cyfansoddwr Keep the Home Fires Burning (’Till the Boys Come Home), cân a fu’n gymaint o gysur i anwyliaid y bechgyn a frwydrai yn uffern y Rhyfel Mawr. Trosiadol, wrth reswm, yw’r tanau y cyfeirir atyn nhw. Ond rywsut rywfodd mi ydan ni hefyd wedi llwyddo’n llythrennol i gadw’r tanau ynghyn ar ein haelwydydd drwy’r can mlynedd, bron, a aeth heibio ers cyfansoddi’r gân yn 1914. Fu hynny ddim yn hawdd bob amser. I’r gwrthwyneb. Bu’n felltigedig o anodd. Sigwyd Cymru rhwng y ddau ryfel byd gan ddirwasgiad a gychwynnodd yn gynt ac a barodd yn hirach yma nag yn unman arall yng ngwledydd Prydain.
5 April 2013
Chwaraeon – Pam Nad Oes Mulod Ar Brom Y Rhyl
Heblaw’r gêm rygbi dyngedfennol rhwng Cymru a Lloegr, y mae’n drist cofnodi mai un o brif bynciau trafod byd y bêl – gron a hirgron – y mis diwethaf oedd penderfyniadau dyfarnwyr. Datganodd Syr Alex Ferguson – nage, Sur Alex Ferguson – fod Manceinion Unedig – nage, Manic-gwynion Unedig – wedi colli yn erbyn Real Madrid y 5ed o Fawrth am fod yr asgellwr Nani wedi cael ei anfon o’r maes. O leiaf, buasai wedi datgan hynny pe na buasai, druan, yn rhy drallodus i siarad yng nghynhadledd y wasg yn union ar ôl y gêm. Bu’n rhaid i’w ddirprwy, Michael Phelan, siarad drosto. Yn rhyfedd iawn, doedd Mr Phelan ddim yn rhy drallodus i siarad â’r wasg. (Ni ellir gwadu bod Fergie yn un o’r rheolwyr gorau yn hanes pêl-droed, ond ni ellir gwadu chwaith ei fod yn o’r cwynfanwyr mwyaf sarrug a fu erioed o flaen – neu ddim o flaen – meicroffon, ac yn llyncwr digon o fulod i esbonio pam nad oes yr un ar ôl ar bromenâd y Rhyl.)
5 April 2013
Ffransis y Cyntaf – Pab Cyntaf De America
Fedr y Pab newydd adfer ffydd Iwerddon yn Eglwys Rufain? O’i blaid mae’r ffaith nad oedd ganddo ddim i’w wneud â’r ymdrechion cywilyddus, o’r Fatican i lawr, i roi lles Pabyddiaeth o flaen lles y cannoedd os nad miloedd o blant a gam-driniwyd yn rhywiol gan offeiriaid y Weriniaeth. Ond faint wnaeth y Pab Ffransis i herio rheolaeth lofruddiaethol y Cadfridogion dros ei famwlad?
5 April 2013
