Thema dywyll Thema golau

Codi bwganod am bobl y cychod

Annwyl Olygydd,

Roeddwn braidd yn siomedig i ddarllen ysgrif Guto Harri yn nhudalennau Barn Hydref, yn codi bwganod am y cychod bychain, ac yn atseinio agweddau’r papurau Llundeinig a ariennir gan filiwnyddion asgell dde. A ydi’r ffaith fod rhai miloedd o unigolion yn cyrraedd glannau de Lloegr mewn cychod bychain yn rhywbeth i gadw darllenwyr Barn yn effro’r nos? Mae’n debyg (yn ôl ystadegau Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin) mai 33,000 o bobl a gyrhaeddodd yn y modd hwn yn y flwyddyn hyd Fehefin 2026 (i lawr o 46,000 yn 2022, pan oedd Mr Johnson wrth y llyw am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, a Mr Harri yn ei gynghori). Cymharer y rhifau hyn gydag ystadegau ein gwlad ni sy’n dangos bod oddeutu 210,000 o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Pa ystadegyn sy’n peri’r perygl mwyaf i’n cymdeithas a’n dyfodol ni?

Ateb Mr Harri i’r bygythiad gan y trueiniaid hyn sy’n cyrraedd yn erfyn am loches yw eu hanfon i wlad annymunol yr unben Kagame. Wrth gwrs, ceisiodd llywodraeth Johnson gyflawni hyn a methu’n llwyr, yn union fel llywodraeth Sunak drachefn. O ddifrif, ni ddylai Barn roi ocsigen cyhoeddusrwydd i gynlluniau creulon, ffôl, diegwyddor fel hyn.

Gethin Matthews
Caerdydd

Previous Post

Trawma wedi’r terfysg

Next Post

Y Blaid Werdd – cywirdeb neu effeithiolrwydd?