Thema dywyll Thema golau

Heddlua 1969

Dafydd Iwan yn areithio yng Nghilmeri 1969, ac OP Huws Dafydd Iwan yn areithio yng Nghilmeri 1969, ac OP Huws
Y dydd o’r blaen, roedd fy nghyfaill O.P. Huws o Ddyffryn Nantlle yn sôn wrthyf am ei atgofion am y tri mis a arweiniodd at arwisgo darpar frenin Lloegr yng Nghastell Caernarfon yng Ngorffennaf 1969, a gwnaeth hynny imi ystyried o ddifri beth oedd cost y mesurau ‘diogelwch’ a roddwyd yn eu lle cyn y seremoni ofer honno, a beth mewn difri oedd eu pwrpas. Roedd OP yn un o nifer o genedlaetholwyr ar hyd a lled Cymru a ddewiswyd gan yr awdurdodau fel rhai i gadw golwg arnynt, a gosodwyd byddin o blismyn o Loegr ar waith i’w canlyn bob awr o’r dydd a’r nos gydol y tri mis cyn y seremoni frenhinol. Roedd OP ar y pryd yn berchen ar ffatri gywion ieir yn Nebo (roedd Nebo yn fangre o bwys cyn i Manon Steffan Ros ei anfarwoli). Mae Nebo yn nodedig am y waliau cerrig uchel sy’n amgylchynu pob cae, a chan fod OP yn byw yn y ffermdy ger y ffatri, roedd y waliau hyn yn gwneud gwaith plismyn yr Arwisgo yn dipyn mwy anodd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Login

Cofrestru


A link to set a new password will be sent to your email address.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein privacy policy.


 

Previous Post
Merch yn ei harddegau yn defnyddio colur

Myned yn iau wrth fyned yn hŷn

Next Post
Arddangosfa Codi Cymru yn Mhrifysgol Bangor

Neges rymus y dwrn pren