Thema dywyll Thema golau

Hysbysebu yn Barn

Sut y byddai hysbysebu yn Barn yn helpu eich busnes, eich sefydliad neu’ch gwasanaeth chi?

Cysylltu eich brand ag un o leisiau mwyaf dibynadwy a dylanwadol Cymru

Ers 1962, mae Barn yn enwog ledled Cymru am ei hygrededd ym maes materion cyfoes Cymreig a’i ysgrifennu graenus. Mae’n fisolyn pwysig, dylanwadol ac uchel ei barch, a bydd enw da eich brand yn tyfu drwy hysbysebu ynddo.

Cyrraedd cynulleidfa ddeallus a chwilfrydig

Mae darllenwyr yn troi at Barn am ei ddadansoddi treiddgar a’i sylwebaeth finiog. Bydd hysbysebu ynddo’n mynd â’ch neges at bobl sy’n gwerthfawrogi sylwedd a dyfnder – cynulleidfa sy’n fwy tebygol o sylwi ar hysbysebion, eu hystyried a gweithredu arnynt.

Cefnogi a chysylltu â’r gymuned Gymraeg

Drwy hysbysebu mewn cyhoeddiad cyfrwng Cymraeg uchel ei barch fel Barn, byddwch yn dangos ymrwymiad i’r iaith a’r diwylliant. Mae’n arwydd o barch eich sefydliad at dreftadaeth ieithyddol Cymru a’ch cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Cyfathrebu â phobl o amrywiaeth eang o feysydd proffesiynol

Ymysg darllenwyr selog Barn mae academyddion, addysgwyr, gweision sifil, gwleidyddion, newyddiadurwyr, cyfreithwyr, actorion, cerddorion, ac artistiaid. Bydd yn cyrraedd dros 2,500 o ddarllenwyr yn fisol mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol.

Gosod eich brand mewn cyd-destun arbennig

Mae ein cyfranwyr yn sylwebu ar amrywiaeth o bynciau, o wleidyddiaeth, diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a gwyddoniaeth i faterion cyfoes rhyngwladol. Gallwn osod eich hysbyseb yn y cyd-destun perffaith i’ch brand chi, gan ennyn diddordeb cynulleidfa ddeallus ac eangfrydig Barn.

Hysbysebu yn y cylchgrawn print

Prisiau a meintiau

  • Clawr cefn: £300 (gan ymestyn dros ymylon y dudalen = 216mm ar draws x 284mm)
  • Clawr cefn: £300 (heb ymestyn at ymylon y dudalen = 196mm ar draws x 248mm)
  • Tudalen lawn: £250 (gan ymestyn dros ymylon y dudalen = 216mm ar draws x 284mm)
  • Tudalen lawn: £250 (heb ymestyn at ymylon y dudalen = 196mm ar draws x 248mm)
  • Hanner tudalen: £150 (siâp portread = 96mm ar draws x 248mm)
  • Hanner tudalen: £150 (siâp tirlun = 196mm ar draws x 122mm)
  • Chwarter tudalen: £80 (siâp portread = 96mm ar draws x 122mm)

Rydym yn croesawu hysbysebion parod ond mae modd inni hefyd ddylunio hysbyseb ar eich cyfer os dymunwch, o dderbyn testun a gwaith celf priodol mewn da bryd (gweler yr amserlen isod).

Amserlen ar gyfer archebu gofod hysbysebu yn y cylchgrawn

Mae angen archebu gofod hysbysebu ac anfon yr holl gynnwys atom erbyn y 10fed o’r mis blaenorol ogydd, er mwyn sicrhau ei fod yn ymddangos yn rhifyn y mis dilynol. Gan fod rhifynnau Gorffennaf/Awst a Rhagfyr/Ionawr yn rhai dwbl, rhowch wybod erbyn 10 Mehefin ar gyfer rhifyn Gorffennaf/Awst a 10 Tachwedd ar gyfer rhifyn Rhagfyr/Ionawr.

Hysbysebu ar y wefan

Prisiau a meintiau

728 x 90 picsel, baner ar ffurf jpeg ac un linc i wefan allanol

  • 1 mis: £150
  • 3 mis: £400

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu hysbyseb anfonwch neges at swyddfa@barn.cymru