Cyhoeddwyd gan Cyhoeddiadau BARN Cyf
Diweddarwyd ddiwethaf: Medi 2025
Mae’r polisi hwn yn egluro sut rydym yn casglu, defnyddio, storio a diogelu’ch data personol wrth i chi ddefnyddio gwefan BARN.
1. Pwy ydym ni?
Cyhoeddiadau BARN Cyf yw rheolwr y data a brosesir drwy’r wefan hon.
- Enw cwmni: Cyhoeddiadau BARN Cyf
- Cyfeiriad: 65 Maesyfelin, Pontyberem, Llanelli. SA15 5ET
- E-bost: swyddfa@barn.cymru
Swyddog Diogelu Data (DPO): Nid oes angen DPO arnom yn ôl y gyfraith, ond cysylltwch â’r cyfeiriad uchod ar gyfer ymholiadau diogelu data.
2. Pam rydym yn casglu data personol a beth yw’r sail gyfreithiol?
Rydym ond yn casglu ac yn defnyddio data personol pan fo sail gyfreithiol glir:
| Diben | Enghraifft | Sail gyfreithiol (Erthygl 6 GDPR) |
| Darparu gwasanaethau | Tanysgrifiadau, archebion, creu cyfrifon | Cytundeb |
| Cyfathrebu | Anfon newyddion, diweddariadau neu gylchlythyrau | Caniatâd |
| Monitro a gwella gwasanaethau | Dadansoddi defnydd gwefan, arolygon darllenwyr | Buddiannau cyfreithlon |
| Cydymffurfio â’r gyfraith | Cofnodion treth, anfonebau | Cyfrifioldeb cyfreithiol |
3. Pa ddata personol rydym yn ei gasglu?
- Cyfrifon a thanysgrifiadau: enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, manylion talu (drwy ddarparwr taliadau diogel megis GoCardless).
- Cwcis a thechnolegau tebyg: gwybodaeth dechnegol am eich porwr a’ch dyfais.
- Dadansoddi gwe (Matomo): gwybodaeth dienw am ymddygiad defnyddwyr (URL, maint sgrîn, rhif IP wedi’i anonymeiddio).
- Gweinydd gwe: cofnodion technegol megis rhif IP at ddibenion diogelwch a datrys problemau.
4. Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i wella profiad defnyddwyr.
- Cwcis hanfodol: mewngofnodi, ffurflenni tanysgrifio.
- Cwcis dewisiadau: cadw gosodiadau defnyddiwr.
- Cwcis erthyglau: adnabod erthyglau a olygwyd.
- Hysbysebion: cwcis systemau hysbysebu sy’n hanfodol i’r feddalwedd, ond ni fyddant yn olrhain ymddygiad defnyddwyr.
Rydym yn cydymffurfio â PECR: byddwch yn cael cyfle i dderbyn neu wrthod cwcis nad ydynt yn hanfodol drwy faner cwcis ar y wefan.
Gallwch newid eich dewisiadau unrhyw bryd drwy osodiadau’r porwr neu’r ardal ddewis cwcis ar ein gwefan.
5. Gyda phwy rydym yn rhannu data?
- Ni fyddwn yn rhannu’ch data personol â thrydydd partïon oni bai:
- ei fod yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth (e.e. gwasanaethau talu, argraffu, gwasanaethau cludo fel Royal Mail).
- bod gennym eich caniatâd penodol.
- Rydym yn sicrhau bod unrhyw drydydd parti sy’n derbyn data yn cydymffurfio’n llawn â GDPR drwy gytundeb prosesu data.
- Os caiff data ei drosglwyddo y tu allan i’r DU neu AEE, byddwn yn defnyddio cymalau cytundeb safonol neu fesurau diogelu cyfatebol.
6. Am ba hyd rydym yn cadw’ch data?
Rydym yn cadw data personol dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol:
- Tanysgrifiadau: cyhyd ag y mae’r tanysgrifiad yn weithredol + 6 mlynedd am resymau cyfreithiol/treth.
- Cofnodion taliadau: 6 mlynedd (yn unol â’r ddeddfwriaeth treth).
- Cyfrifon defnyddwyr: tan i’r defnyddiwr ddileu’r cyfrif neu i ni wneud hynny ar ôl cyfnod anweithgarwch o 2 flynedd.
- Sylwadau: cadw am byth oni bai eich bod yn gofyn am eu dileu.
7. Eich hawliau dan GDPR
Mae gennych yr hawl i:
- Gael mynediad at y data personol a gedwir amdanoch.
- Gofyn am gywiriad i ddata anghywir neu anghyflawn.
- Gofyn am ddileu data (“hawl i gael eich anghofio”).
- Gyfyngu ar brosesu mewn amgylchiadau penodol.
- Gwrthwynebu prosesu ar sail buddiannau cyfreithlon neu farchnata uniongyrchol.
- Derbyn eich data mewn fformat cludadwy (portability).
- Tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg mewn achosion o brosesu ar sail caniatâd.
- Beidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig nac unrhyw fath o broffilio sy’n cael effaith sylweddol arnoch.
Byddwn yn ymateb i bob cais o fewn 1 mis, gan wirio hunaniaeth cyn gweithredu.
8. Cwynion
Os oes gennych bryder ynghylch y ffordd rydym yn trin eich data:
- Cysylltwch â ni yn gyntaf: swyddfa@barn.cymru
- Os nad ydych yn fodlon, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):
- Ffôn: 0303 123 1113
- Gwefan: ico.org.uk
- Cyfeiriad: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
9. Diogelwch data
Rydym yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu data, gan gynnwys:
- Mynediad cyfyngedig i staff awdurdodedig yn unig.
- Hyfforddiant rheolaidd i staff ar ddiogelu data.
- Dulliau diogel ar gyfer talu ar-lein.
- Amgryptio a mesurau technegol i leihau risg colli neu gamddefnyddio data.
- Profion diogelwch a gweithdrefnau wrth gefn rheolaidd.
10. Newidiadau i’r polisi hwn
Efallai y byddwn yn diweddaru’r polisi hwn o dro i dro.
Os yw’r newidiadau’n sylweddol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu neges amlwg ar y wefan cyn iddynt ddod i rym.
Bydd newidiadau’n cael eu postio ar y dudalen hon.
