Cafodd ein colofnydd wledd i’w chofio mewn bwyty yn Sir Benfro yn ddiweddar, un oedd yn teilyngu gofal wrth ddewis y gwin hefyd.
A hithau’n dal i fod yn flwyddyn pen‑blwydd arbennig arnaf, doedd gen i ddim bwriad dod â’r dathliadau i ben gyda’r ymweliad â bwyty St John, Llundain, a ddisgrifiais yn y golofn ddiwethaf. Bu’n uchelgais ers misoedd i fachu bwrdd ym mwyty Annwn yn Arberth, a minnau wedi clywed canmoliaeth mor uchel iddo o sawl ffynhonnell ddibynadwy. Mae angen ychydig o gefndir fan hyn, achos nid bwyty cyffredin mo Annwn. Mae’n ffrwyth gweledigaeth unigryw y cogydd Matt Powell, a fu’n gweithio mewn ceginau arobryn ledled y byd cyn ymgartrefu’n ôl yn ei gynefin yng ngogledd Penfro. Mae’r weledigaeth honno yn ffocysu fel laser ar terroir Sir Benfro, o’i bwyd môr cynhenid i’w ryseitiau coll, a phopeth rhyngddynt. Cynaeafir y rhan fwyaf o’r cynhwysion oddi ar yr arfordir gan Matt ei hun. Does gen i ddim cof o unrhyw fwyty yng Nghymru yn mentro i’r fath gyfeiriad o’r blaen.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Login
Cofrestru
