Thema dywyll Thema golau

Rhai o gyfranwyr y rhifyn

Llinos Iorwreth Dafis:
Brodor o Bow Street, gogledd Ceredigion. Cyn ymddeol, bu’n gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion, cynllunio dwyieithrwydd, a chyfieithu, ac mae hefyd wedi cyhoeddi un nofel, Llinynnau.

Mared Gwyn:
Sylwebydd gwleidyddol sy’n arbenigo mewn materion Ewropeaidd. Mae hi’n gweithio ym myd cysylltiadau cyhoeddus ym Mrwsel ac wedi treulio cyfnodau yn gweithio ym Madrid a Lwcsembwrg. Daw’n wreiddiol o Lŷn ac mae ganddi radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Caergrawnt.

Karl Davies:
Bu’n Brif Weithredwr Plaid Cymru ac ar staff yn BBC cyn treulio rhai blynyddoedd yn Foshan yn ne‑ddwyrain Tsieina, yn dysgu Saesneg i oedolion. Mae bellach yn ôl yng Nghaerdydd ac yn sylwebu’n aml ar faterion cyfoes.

Meg Elis:
Wedi gweithio fel cyfieithydd, mae’n canolbwyntio bellach ar ysgrifennu rhyddiaith. Mae’n awdur nofelau a storïau byrion, ac ymhlith ei chyfrolau mae I’r Gad, Cyn Daw’r Gaeaf, a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn 1985, a Dewch at eich Gilydd. Bydd yn adolygu’n gyson yn y wasg Gymraeg.

Cerian Arianrhod:
Cyn‑gynhyrchydd radio sydd wedi ymgartrefu yng Nghwmbrân. Mae bellach yn Rheolwr Amserlennu gyda gofal dros logisteg dydd i ddydd BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a chynnwys Cymraeg BBC Sounds. Mae hefyd yn gweithio fel hyfforddwr ar ei liwt ei hun, gan arbenigo mewn arweinyddiaeth, gyrfa a datblygiad personol.

Gwilym Morus‑Baird:
Canwr, cerddor a pherfformiwr o Wrecsam yn wreiddiol. Mae’n rhyddhau cerddoriaeth fel Gwilym Morus, ac roedd yn un o sylfaenwyr Eos, yr Asiantaeth Hawliau Darlledu. Mae’n dysgu ac yn rhedeg sianel YouTube o’r enw Celtic Source, yn trafod hanes a mytholeg Geltaidd, ac mae ganddo ddoethuriaeth yn y maes.

Elinor Wyn Reynolds:
Bardd, awdur a darlledydd sy’n byw yng Nghaerfyrddin. Mae’n gweithio fel Swyddog Cyhoeddiadau i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac erbyn hyn hi yw Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y ferch gyntaf i ddal y swydd a’r lleygwr cyntaf ers can mlynedd.

Rhidian Griffiths:
Hanesydd a fu ar staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddod yn Geidwad Llyfrau Printiedig ac yna’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus cyn ymddeol. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth, yn enwedig ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru ac mae’n weithgar gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru.

Cyril Jones:
Mae’n hanu o Bennant, Ceredigion. Wedi cyfnod yn dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd bu’n gweithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Bellach mae’n diwtor dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hefyd yn fardd; enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992 a chyhoeddwyd cyfrol o’i gerddi, Eco’r Gweld, yn 2012.

Previous Post

Enillydd ac Atebion Cwis Barn

Next Post

Colli er mwyn ennill