Afghanistan a rhwysg y Brydain Newydd

Darllen am ddim

Wrth imi ysgrifennu geiriau cyntaf y golofn hon mae Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, Boris Johnson, newydd godi ar ei draed yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r Aelodau Seneddol sy’n bresennol i wrando arno wedi cael eu galw’n ôl o’u gwyliau’n arbennig er mwyn cyfrannu at drafodaeth frys ar yr hyn y mae rhai sylwebwyr yn ei alw’n fethiant polisi tramor mwyaf y wladwriaeth hon ers Suez yn 1956, sef ailorseddu’r Taliban fel arweinwyr Afghanistan.

Codi pais ar ôl piso y mae’n hybarch seneddwyr.

Dros y dyddiau diwethaf, rydym oll wedi gwylio’n gegrwth wrth i hyd a lled methiant y gynghrair orllewinol a ddiorseddodd lywodraeth gyntaf y Taliban bron ddau ddegawd union yn ôl gael ei ddinoethi yn y modd mwyaf eger posib. Mae rhai o’r lluniau wedi bod yn wirioneddol erchyll. Bodau dynol yn syrthio i’w marwolaeth ar ôl ceisio ffoi o Kabul trwy guddio dan awyrennau. Eraill wedi eu gwasgu i farwolaeth gan y torfeydd yn y maes awyr ei hun. A dyna ichi wedyn y delweddau cwbl dorcalonnus o’r merched hynny yn y brifddinas sydd bellach yn gorfod dygymod â’r syniad o ddychwelyd i’r caethiwed canoloesol a gynigir iddynt gan y Taliban. Dinistrir pob arwydd o’r bywydau mwy crwn a llawn y maent wedi llwyddo i’w byw dros y blynyddoedd diwethaf. Hynny yn y gobaith ofer y bydd modd iddynt osgoi dial ffiaidd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ac yn y blaen, ac yn y blaen, hyd at y pwynt nes ei bod wedi bod yn anodd gwylio neu wrando mwy.

Ond serch bod antur filwrol fawr y gynghrair orllewinol yn Afghanistan wedi methu’n llwyr a’i bod yn rhy hwyr i newid dim ar hynny, fe fydd yn rhaid i’r Aelodau Seneddol gael dweud eu dweud. Os yw cywair y sylwadau a glywyd cyn y ddadl yn gynrychioliadol, mae’n hawdd rhagweld beth fydd byrdwn y dweud hwnnw. Chwedl Tywysog Cymru (cyn ei goroni’n Edward VIII) ar ei ymweliad â chymoedd y de adeg y Dirwasgiad Mawr, ‘Something must be done!’ Wrth reswm mae natur yr ymateb a ddeisyfir yn amrywio. Ar y cyfan, mae pwyslais y chwith ryddfrydol ar ymgeleddu ffoaduriaid. Draw ar y dde, mae chwythu bygythion milwrol yn fwy ffasiynol. Gwae nhw os gwnân’ nhw fyth ganiatáu i Afghanistan ddyfod yn noddfa i eithafwyr a therfysgwyr... Yr hyn sy’n uno pawb yw bod angen ymateb mewn rhyw ffordd.

Er fy mod yn deall yr ysfa honno, maddeuwch i mi os wyf yn cael hyn oll yn annigonol ac yn wir yn chwydlyd o ragrithiol. Wrth reswm mae ymgeleddu ffoaduriaid yn bwysig, ond mae yna’n llythrennol filiynau o ffoaduriaid o Afghanistan yn byw ym Mhacistan ac Iran, a hynny ers degawdau. Faint ydym wedi ei glywed amdanynt hwy dros y blynyddoedd? Neu’n wir am y miliynau di-rif sy’n ffoaduriaid o fannau eraill ond nad ydynt yn digwydd bod o ddiddordeb i brif ddarlledwyr a ffynonellau newyddion ein byd?

Ac o ran y chwythu bygythion, Duw a’n gwaredo.

Ddoe bu’n rhaid imi edrych ar eiriadur i sicrhau fy mod i’n gwbl sicr beth ydi ystyr y gair triliwn. Rhag ofn fod unrhyw un arall yn yr un cwch â mi, dyma’r ateb: triliwn o ddoleri ydi mil biliwn o ddoleri. Amcangyfrifir bod cost yr antur filwrol ofer yn Afghanistan dros yr ugain mlynedd diwethaf yn 2.1 triliwn o ddoleri. Mae’n swm sydd mor enfawr nes ei fod yn llythrennol y tu hwnt i ddirnadaeth y rhan fwyaf ohonom. Nid ar ddatblygu economi Afghanistan, neu adeiladu ysgolion, a gweddill yr ymdrechion i ‘godi cenedl’ y clywsom gymaint amdanynt dros y dyddiau diwethaf y gwariwyd y rhan fwyaf ohono o ddigon, ond yn hytrach ar arfau. Ac yn awr, diolch i fuddugoliaeth chwimwth y Taliban, bydd gwerth cannoedd o filiynau os nad yn wir biliynau o ddoleri o arfau eisoes wedi syrthio i’w meddiant neu ar eu ffordd i chwyddo’r farchnad ddu mewn arfau yn y rhan ansefydlog hon o’n byd.

Nid oes gan yr un gwleidydd o Brydain hygrededd wrth chwythu bygythion milwrol. Wedi’r cwbl, bu’n rhaid i’r Fyddin Brydeinig gael ei hachub gan luoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi iddi syrthio i ddyfroedd dyfnion iawn yn ystod y ddau gyrch milwrol mawr y buont yn rhan ohono, sef yn Basra yn Irac ac yn nhalaith Helmand yn Afghanistan. Fel grym milwrol, er gwaethaf rhwysg yr arfau niwclear a’r llongau-cludo-arwyrennau drudfawr, nid ydym yn ddim mwy na gwas bach i’r Unol Daleithiau. Gwas bach cynyddol fusgrell, at hynny. Ffantasi llwyr ydi’r syniad ein bod yn fygythiad credadwy i elyn sydd nid yn unig wedi ein trechu’n llwyr, ond sydd bellach yn gryfach nag erioed oherwydd yr arfau modern y mae wedi eu hetifeddu yn sgil ei fuddugoliaeth.

Yn wir, tybed pa mor hir fydd hi cyn i wledydd y gorllewin ddechrau cynnig cymorth milwrol (o leiaf yn dawel bach) i’r Taliban? Wedi’r cwbl, rŵan eu bod wedi trechu llywodraeth Kabul, y bygythiad mwyaf iddynt ydi cefnogwyr y Wladwriaeth Islamaidd yn Afghanistan. Hawdd yw rhagweld y gall gelyn ein gelyn yn fuan droi’n gyfaill, ac y bydd ffawd merched Afghanistan, ynghyd â lleiafrifoedd crefyddol y wlad, yn mynd yn angof. Hynny er gwaetha’r holl wylofain a’r rhincian dannedd presennol.

Pwysleisiaf unwaith yn rhagor: rwy’n deall y rhwystredigaeth ac yn wir y galar, ynghyd â’r awydd i wneud rhywbeth. Ond i’m tyb i, y tu hwnt i ymgeleddu, yr unig beth sy’n cyfrif go iawn ar hyn o bryd ydi ein parodrwydd i ddysgu’r gwersi o gyflafan Afghanistan. Rhag-amod hynny yw gonestrwydd cwbl gignoeth, ac o’r herwydd rwy’n besimistaidd iawn y bydd yna ddysgu gwersi.

Mewn difrif, faint o bobl sy’n sylweddoli bod lluoedd arfog Prydain wedi colli’r ddau ryfel mawr diwethaf iddynt eu hymladd? Faswn i’n mentro awgrymu bod y rhif yn fychan iawn, iawn. Nid diffyg gwybodaeth sy’n gyfrifol am hyn. Os oes diddordeb, yna mae llyfrau ac ysgrifau y gellir eu darllen sy’n diberfeddu’r hyn a ddigwyddodd i’n ‘hogia ni’ yn ninas Basra ac yn ne-orllewin Afghanistan, yn ogystal â’r hyn wnaeth ein ‘hogia ni’ i drigolion y llefydd hynny. Cyflawni troseddau rhyfel yn eu plith.

Y broblem, yn hytrach, yw nad oes unrhyw drafod ar hyn oll ar y lefel wleidyddol na’r lefel boblogaidd, heb sôn am unrhyw ystyriaeth o’r goblygiadau o ran dyfodol polisi tramor ac amddiffyn y wladwriaeth. Mae’n fwy cysurlon ac yn llawer haws malu awyr am ragoriaethau honedig lluoedd arfog Prydain, pedlera nonsens am yr SAS, a mwydro am ‘Big Lizzie’, sef llysenw’r papurau poblogaidd Seisnig ar y llong-cludo-arwyrennau a enwyd i anrhydeddu’r frenhines.

Yn hyn oll, mae’r wasg boblogaidd, y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur (ôl-Corbyn) yn sefyll fel un, gyda chwestiynu’r naratif am Fawredd Prydain yn gyfystyr â brad. Wrth gwrs, y gred ddiysgog yma yn rôl flaenllaw ac yn wir arweiniol Prydain sydd wedi bwydo’r ffantasïau a’n harweiniodd at Brexit. Datblygiad sydd yn ei dro yn ei gwneud hi hyd yn oed yn anos i gynnal trafodaeth gall ac aeddfed ynglŷn â realiti statws a galluoedd rhyngwladol y wladwriaeth.

Er mor uffernol yng ngwir ystyr y gair yw’r lluniau o Kabul, ac er mor llwyr yw’r methiant maen nhw’n ei gynrychioli, rwy’n ofni na fydd hyd yn oed hyn yn ddigon i sigo byd-olwg sy’n arwain at anturiaethau o’r fath. Nid yw Prydain yn dysgu dim.

Richard Wyn Jones
Medi 2021