Arwyddocâd cyfansoddiadol trafferthion Michael Gove

Darllen am ddim

Ddechrau Gorffennaf cyhoeddodd y gwleidydd Michael Gove a’r colofnydd adain dde amlwg Sarah Vine eu bod am ysgaru. Daeth hyn ar ôl misoedd o sibrydion ynglŷn â chyflwr eu priodas ac ychydig ddyddiau’n unig wedi i Vine ysgrifennu colofn ar gyfer y Mail on Sunday a oedd, wrth honni trafod helyntion priodasol gwleidydd arall, sef Matt Hancock, fel petai’n taro’r post i’r pared glywed...

Ers y cyhoeddiad, mae’r ddau dramatis personae wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear, sy’n ddigon dealladwy, mae’n siŵr. Bydd, yn ddiau, yn gyfnod anodd iddynt hwy a’u teulu. Wedi dweud hynny, gan fod Vine wedi ennill ei chrystyn am flynyddoedd lawer yn doethinebu’n faleisus am fywydau preifat a phersonol eraill, gallant eu cyfrif eu hunain yn ffodus iawn, iawn fod yr hyn a ddisgrifir fel omertà Fleet Street yn eu gwarchod rhag sylw ei chyd-newyddiadurwyr. Yn enwedig felly gan fod y sibrydion a fu’n chwyrlïo yn codi cwestiynau go sylfaenol ynglŷn â’r graddau y bu Gove, un o’r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn llywodraeth Boris Johnson, yn dilyn rhai o’r rheolau Covid y bu â rhan uniongyrchol yn eu creu.

Iawn, meddach chi, ond beth sydd gan hyn oll i’w wneud â cholofn am wleidyddiaeth Cymru a ddarllenir, fe dybiaf, gan bobl sydd mor ddilornus o’r Mail on Sunday fel y byddent yn gyndyn o estyn am gopi ohono hyd yn oed er mwyn cynnau tân? Wel, yn syml, mae Gove ar hyn o bryd yn chwarae rôl gwbl ganolog mewn cynnal yr Undeb fawreddog yr ydym yn trigo ynddi.

Fel y soniais mewn colofn flaenorol (BARN, Mawrth 2021: ‘Brown a Gove – Unoliaethwyr Albanaidd a dyfodol y DU’), y fo sy’n arwain paratoadau Whitehall ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban. Ond mae pwysigrwydd Gove yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hynny. Yn syml iawn, ar hyn o bryd y fo hefyd ydi’r unig weinidog yn y llywodraeth Brydeinig y gellir dibynnu arno i ddeall datganoli, a’r unig un, hefyd, sydd â digon o ddylanwad oddi mewn i Whitehall i sicrhau nad ydi arafwch ac agwedd wrthnysig y peiriant biwrocrataidd yn troi pob cais (waeth pa mor resymol) o gyfeiriad Gaerdydd, Caeredin neu Belfast yn gwffas gyfansoddiadol. Gove ydi’r dyn sy’n gwneud i bethau ddigwydd.

Yn wir, dyma fwy neu lai’r union eiriau a ddefnyddiwyd i’w ddisgrifio gan hen gyfaill yn Whitehall wrth i ni drafod perthynas llywodraethau Mark Drakeford a Boris Johnson ychydig wythnosau cyn i’r newyddion am drafferthion personol Gove gael eu cadarnhau’n swyddogol. Onid oedd yn eironig, meddai drachefn, mai’r gwleidydd o Aberdeen – cymeriad llithrig sy’n enwog am ei allu i daeru ag arddeliad llwyr fod y du yn glaer wyn – ydi’r union ŵr y mae’r llywodraethau datganoledig am ddelio ag ef wrth gyd-drafod â Llundain.

A wyddoch chi beth, mae’r cyfaill yn llygad ei le. O safbwynt Llywodraeth Cymru, o leiaf, Michael Gove ydi’r David Lidington newydd.

Go brin fod Lidington yn enw adnabyddus, ond am ddeunaw mis o ddechrau 2018 hyd at ymddiswyddiad Theresa May fel Prif Weinidog yn haf 2019, fo gafodd y dasg o geisio adfer rhywfaint ar berthynas Llundain hefo’r llywodraethau datganoledig ar ôl i May sylweddoli fod ei hagwedd ddi-hid flaenorol mewn peryg o ddadsefydlogi’r Undeb yn llwyr. Er na lwyddodd i ddileu’r gwahaniaethau gwleidyddol sylfaenol rhwng Llundain a Chaerdydd, fe lwyddodd ei gwrteisi bonheddig, ei barodrwydd i wrando, a’i record o gadw ei air i argyhoeddi Llywodraeth Cymru eu bod o leiaf yn ymdrin â rhywun oedd yn eu cymryd o ddifrif ac y gellid yn ei dro gael ei gymryd o ddifrif. Gwelwyd ei golli wedi iddo gael ei fwrw o’r neilltu’n ddisymwth fel rhan o’r Puro Mawr oddi mewn i’r Blaid Geidwadol a ddilynodd ddyrchafiad Johnson.

Wrth gydnabod pwysigrwydd Gove, rhaid nodi er hynny fod ffawd Lidington yn tanlinellu pa mor fregus ac annigonol ydi’r dull presennol o drefnu perthnasau rhyng-lywodraethol oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol. Cyn 24 Gorffennaf 2019, fe’i hystyriwyd fel Dirprwy Brif Weinidog answyddogol May; erbyn mis Rhagfyr yr un flwyddyn yr oedd wedi gadael Tŷ’r Cyffredin ac i bob pwrpas wedi ei ysgrifennu allan o hanes y Blaid Geidwadol. Wedi ei ymadawiad o’r llywodraeth fe gymerodd fisoedd lawer cyn i Gove ddatblygu ei rôl fel dolen gyswllt rhwng gwahanol brifddinasoedd y wladwriaeth; misoedd pan welwyd perthnasau’n breuo’n arw.

Wrth i mi ysgrifennu hyn o eiriau, mae’n amhosibl darogan union ffawd Michael Gove yn y tymor byr. Mae rhai sy’n awgrymu bod ei berthynas glòs â Rupert Murdoch yn ddigon o amddiffynfa i sicrhau y bydd yn goroesi. Yn wir, o ystyried y diffyg talent difrifol yn uchel-rengoedd y llywodraeth bresennol a’r ffaith ddiymwad fod Gove yn un o’r ychydig yn eu plith sy’n ‘gwneud i bethau ddigwydd’, ni ddylid diystyru’r posibilrwydd y bydd yn cael ei ddyrchafu i un o uwch-swyddi’r wladwriaeth unwaith y mae’r llwch wedi setlo.

Ond yn yr hir dymor mae ei ffawd ef, fel ffawd pob gwleidydd arall, wedi ei selio. Ar ryw bwynt yn hwyr neu’n hwyrach fe fydd Gove yn colli ei le yn y llywodraeth Brydeinig. Pan ddigwydd hynny, ni fydd ar gael i liniaru, hwyluso, ac – mewn amryfal ffyrdd – esmwytho’r berthynas rhwng Llundain ar y naill law, a llywodraethau Caerdydd, Caeredin a Belfast ar y llaw arall. Ar y pwynt hwnnw, bydd fy nghyfaill yn Whitehall yn gorfod chwilio am y fersiwn ddiweddaraf o David Lidington a Michael Gove, gan obeithio y bydd yna rywun sy’n addas i ysgwyddo’r cyfrifoldeb.

Wrth gwrs, dim llai na gwallgofrwydd noeth ydi’r ffaith fod y wladwriaeth mor ddibynnol ar hap a damwain i sicrhau bod rhywun ar gael i chwarae rôl mor allweddol bwysig. Byddai trefn aeddfed yn gofalu bod strwythurau yn eu lle sy’n gallu cynnal y baich doed a ddelo. Ond dyna ni. Er bod dau ddegawd a mwy ers gwawrddydd datganoli, mae Whitehall a San Steffan fel ei gilydd yn parhau i gladdu eu pennau yn y tywod ynglŷn â gwir arwyddocâd sefydlu seneddau a llywodraethau grymus o amgylch cyrion y wladwriaeth. Un symptom o hyn ydi’r amharodrwydd i greu peirianwaith parhaol sy’n ddigon gwydn i gynnal perthnasau rhyng-lywodraethol waeth pwy ydi personoliaethau’r awr. Pam hynny? Am y byddai’n golygu trin y gwledydd datganoledig fel partneriaid cydradd neu led-gydradd gan beryglu, felly, fyth cyfansoddiadol canolog y Deyrnas Gyfunol, sef sofraniaeth ddiamod San Steffan.

Hyd nes y bydd y wladwriaeth y dod at ei choed – a go brin fod unrhyw le i gredu bod hynny ar fin digwydd – bydd trafferthion personol Michael Gove yn fwy na mater preifat yn unig; bydd yn fater o bwysigrwydd cyfansoddiadol i’r wladwriaeth drwyddi draw.

Richard Wyn Jones
Awst 2021