Barn ar Gymru – gwersi Awst

Darllen am ddim

Wrth graffu arnom o Norwy dros yr haf cafodd yr awdur ddwy wedd wrthgyferbyniol ar Gymru. Gwelodd y gwych a’r gwachul. A chafodd weledigaeth...

Fe wnaeth wythnosau cyntaf mis Awst 2020 amlygu cryfderau a gwendidau bywyd deallusol Cymru fel ei gilydd, yn enwedig y rhannau ohono sydd un ai’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n berthnasol i’r iaith fel cyfrwng cymdeithasol.

Ar y naill law, mae llwyddiant yr Eisteddfod AmGen, er gwaetha’r amgylchiadau neilltuol o anodd, wedi cadarnhau unwaith yn rhagor wytnwch rhyfeddol ein diwylliant. Gan y bydd y rhifyn hwn o BARN yn llawn trafodaethau miniog gan feirniaid sydd – yn wahanol i’r colofnydd presennol – yn dallt y dalltings, nid yw’n fwriad gennyf grybwyll unrhyw gyfraniadau unigol i’r arlwy. Ond mae’n werth oedi am ennyd i ystyried arwyddocâd y cyfanwaith.

Roedd eisoes yn hysbys ein bod yn byw trwy dipyn o oes aur yn nhermau’r nofel Gymraeg a chanu caeth, ac mi fyddwn i am ddadlau mai felly y mae o ran cerddoriaeth gyfoes hefyd. Yr hyn sydd wedi bod yn siom o’r ochr orau yw’r dystiolaeth ddigamsyniol fod ’na fwy o hyblygrwydd a chreadigrwydd trefniadol ynom nag yr oeddwn wedi’i dybio. Yn awr ein hangen, dangosodd y Gymru Gymraeg ein bod yn gallu codi allan o rigol gyfarwydd ac o-mor-gyfforddus ‘y drefn arferol’ a choleddu’r newydd a’r gwahanol, a hynny gydag afiaith gwirioneddol.

Wrth reswm, mae eisiau canmol yr unigolion hynny a fu’n arwain, boed yn staff a swyddogion yr Eisteddfod ei hun neu’n hwyluswyr eraill. Ac os maddeuwch i mi am enwi dim ond un o’r rhai olaf, ga’i fod y cyntaf i enwebu pennaeth Radio Cymru, Rhuanedd Richards, fel ein harlywydd cyntaf pan ddaw’r awr – oni fyddai hi’n berffaith? Ond mae hefyd yn briodol canmol y miloedd dienw a fu’n cyfrannu ac yn cyfranogi. Roedd hwn yn llwyddiant torfol yn ogystal â bod yn glod i unigolion.

Wedi dweud hyn oll, bu hanner cyntaf y mis hefyd yn gyfnod o bryder a galar wrth i’r ffigyrau diweddaraf am y ganran o dai yng Ngwynedd sy’n cael eu gwerthu fel ail gartrefi i Saeson cefnog danlinellu, unwaith yn rhagor, pa mor fregus yw seiliau cymdeithasol yr iaith.

O’m rhan fy hun, yr hyn oedd yn digalonni lawn cymaint â’r ffigyrau eu hunain oedd yr ymdeimlad o déjà vu ynglŷn â’r cyfan: teimlad ein bod i gyd wedi bod yma o’r blaen, a hynny droeon, ond nad oes fawr ddim wedi digwydd yn y cyfamser i liniaru’r broblem na hyd yn oed i ddatblygu syniadau a chynlluniau a allai ddechrau gwneud hynny. Wyneb yn wyneb â’r her benodol hon, ymddengys ein bod yn gaeth i ryw fath o ddiymadferthedd torfol. Yn wir, mae fel pe byddai’r broblem mor astrus ac aruthrol nes ein bod yn teimlo nad oes dim y gallwn ei wneud yn ei chylch.

Mae’n hawdd cydymdeimlo â theimladau o’r fath. A ninnau’n byw mewn byd lle mae cyfalafiaeth bellach yn ymddangos fel rhan o’r drefn ddwyfol, mae cwyno am hynt y ‘farchnad rydd’ mewn tai yn gallu ymddangos mor ofer â chwyno am effaith ‘grym y lleuad dros lanw a thrai’r byd’, chwedl Steve Eaves ryw dro. Eto i gyd, nid Cymru yw’r unig wlad (a hynny o bell ffordd) lle mae ail gartrefi’n fygythiad i hyfywedd cymdeithasol a diwylliannol. Mae’n broblem mewn nifer o wledydd eraill hefyd, ac mewn llawer o’r rheini mae’r awdurdodau wedi cymryd camau – yn rheoliadau treth, yn waharddiadau cyfreithiol ac yn y blaen – i geisio mynd i’r afael â’r mater. Nid oes prinder o syniadau y gellid eu rhoi ar waith yma chwaith petai’r ewyllys gwleidyddol yn bodoli.

Yn wir, petai Cymru’n wlad wahanol a’i bywyd deallusol yn iachach, fe fyddai eisoes arbenigwyr academaidd yn gweithio yn ein prifysgolion yn astudio cynlluniau o’r fath gan ymchwilo hefyd i’r ffactorau penodol sydd ar waith yma yng Nghymru, fel bod ’na gynlluniau pellgyrhaeddol yn barod i’w gweithredu. Ond lle mae Canolfan Ymchwil Cymunedau Cymraeg?

Cwestiwn rhethregol, wrth gwrs. Does dim canolfan o’r fath yn bodoli, a heb newidiadau polisi sylfaenol nid oes unrhyw debygrwydd y caiff un ei sefydlu chwaith. Fel Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, gallaf dystio’n well na neb arall, efallai, pa mor anodd yw canfod adnoddau i wneud gwaith ymchwil difrif ar unrhyw agwedd o fywyd y Gymru gyfoes. Os yw Llywodraeth Cymru’n digwydd gweld gwerth yn y peth, yna mae posibiliadau. Ond wrth gwrs, mae angen ymchwil i bethau y mae llywodraethau yn ddibris ohonynt neu’n eu cael yn anghysurus. Yn achos gwaith o’r fath mae’r hinsawdd ariannu Brydeinig – a sefydliadau Eingl-Brydeinig ydi’r cynghorau ymchwil – yn dalcen caled iawn i unrhyw un sydd â ffocws Cymreig, a hynny heb ystyried safon y gwaith. Heblaw am gefnogaeth bersonol dau is-ganghellor yn olynol, fyddai Canolfan Llywodraethiant Cymru ddim yn bodoli ac rydym yn parhau’n gwbl ddibynnol ar ewyllys da o’r fath.

Ond unwaith yn rhagor, nid oes dim yn anorfod am sefyllfa o’r fath. Mae gennym y grym i newid pethau. Yn wir, mae’r etholiad nesaf ar gyfer Senedd Cymru i’w gynnal mewn cwta wyth mis ac yn gyfle euraidd i wneud hynny. Beth, felly, am geisio pwyso ar bob un o’r pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu dau addewid syml yn eu maniffesto?

  • Sefydlu Comisiwn amlbleidiol i adrodd o fewn deunaw mis i’r etholiad er mwyn argymell camau radical i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg, gydag ymrwymiad pellach i gyflwyno deddfwriaeth berthnasol yn y Senedd o fewn blwyddyn i gyhoeddi adroddiad y Comisiwn.
  • Sefydlu canolfan ymchwil wedi’i lleoli ar y cyd ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor er mwyn astudio cymunedau Cymraeg eu hiaith o fewn cyd-destun rhyngwladol, yn adnodd parhaol ar gyfer y genedl a’r sawl sy’n llunio polisi ar ei chyfer.

Byddai effaith gweithredu’r addewidion hyn yn drawsnewidiol.

Ydi, mae mis Awst wedi dangos y gorau a’r gwaethaf o’n bywyd deallusol. Siawns nad ydyw’n bosibl inni ddwyn ysbrydoliaeth o’r cyntaf er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r ail? Rydym wedi gweld bod modd, pan mae angen, ymateb yn greadigol i her fawr. Wrth reswm, mae’r her i ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith yn enfawr. Ond byddai’r camau a argymhellir yma yn gychwyn ar symud pethau i’r cyfeiriad cywir. A siawns fod hynny’n well na’r diymadferthedd presennol?

Richard Wyn Jones
Medi 2020