Beth yw’r ots ganddyn nhw am Gymru?

Darllen am ddim

Licio fo neu beidio, i raddau helaeth iawn hanes y Blaid Lafur ydi hanes gwleidyddiaeth gyfoes Cymru. Hyd y gwelaf, nid oes yr un wlad ddemocrataidd arall lle bu un blaid yn tra-arlgwyddiaethu dros gyfnod mor hir ag a fu’n wir yma. Do, bu plaid Éamon de Valera, Fianna Fáil, yn ddominyddol yn y Weriniaeth rhwng ei buddugoliaeth etholiadol gyntaf yn 1932 a chwalfa economaidd fawr diwedd degawd cyntaf y ganrif hon. Ar ogledd yr un ynys, bu Plaid Unoliaethwyr Ulster yn tra-arglwyddiaethu dros y chwe sir rhwng 1921 ac 1972. O estyn ein golygon i Bafaria, bu’r Christlich-Soziale Union in Bayern, y CSU, mewn grym ar y lefel daleithiol fyth ers ei sefydlu yn 1946 ac eithrio am gyfnod o dair blynedd o 1957. Os dymunwn, gallwn codi ein golygon ymhellach fyth a nodi bod Plaid Ddemocrataidd Ryddfrydol Japan wedi bod mewn grym bron iawn drwy gydol yr amser ers ei sefydlu yn 1955.

Eto fyth, er ymdrechion glew o’r fath (os mai dyna’n wir yw’r disgrifiad priodol), ni all unrhyw un o’r rhain gymharu â’r Blaid Lafur Gymreig. Onid dyma beiriant etholiadol mwyaf llwyddiannus y byd democrataidd? Enillodd y Blaid Lafur y nifer fwyaf o bleidleisiau a seddau yng Nghymru ym mhob un etholiad cenedlaethol o bwys a gynhaliwyd er 1922. (A rhag i’r pedantiaid foddi golygyddion BARN druan gyda chwynion, do, fe gollodd Llafur ddau etholiad Ewropeaidd yng Nghymru yn 2009 a 2019, ond – eto, licio fo neu beidio – go brin y gellir dadlau’n gredadwy fod y rhain yn cael eu hystyried fel etholiadau cenedlaethol o bwys, o leiaf gan yr etholwyr eu hunain.)

Mae hyn yn golygu bod rhwymedigaeth ar y rhai ohonom sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru i ymddiddori yn y Blaid Lafur. A dyna paham y mae cyhoeddi cyfrol Gabriel Pogrund a Patrick Maguire, Left Out: The Inside Story of Labour Under Corbyn (The Bodley Head, 2020), yn ddigwyddiad o bwys i ddarllenwyr cyson y golofn hon. Oherwydd, am y tro cyntaf, dyma ymdrech gytbwys i geisio adrodd hanes, a phwyso a mesur, yr arbrawf rhyfeddol hwnnw rhwng 2015 a mis Ebrill eleni pan fu Jeremy Corbyn, ffigwr o ‘chwith galed’ y blaid seneddol, yn arwain plaid fwyaf Cymru.

Mewn difrif, mae’n gyfrol gwbl afaelgar. Cawn hanes llwyddiant annisgwyl Llafur yn etholiad 2017 – llwyddiant a fu’n destun galar yn hytrach na dathlu ymysg llawer o staff y blaid a oedd ar dân i weld yr arbrawf mawr yn chwalu’n yfflon. I’r rhain, gwell buddugoliaeth fawr i’r Torïaid na senedd grog. Cawn hanes y rhyfyg a’r hunan-dwyll a oedd wrth wraidd yr ymdrech seithug i sefydlu plaid newydd dan arweinyddiaeth Chuka Umunna (pwy sy’n cofio’r Independent Group?). Cawn hanes y ddadl fawr, flêr honno ynglŷn â gwrth-semitiaeth. Yn fwy trawiadol fyth, efallai, cawn ddarllen am y ffordd yr ymrannodd y grŵp bychan o amgylch Corbyn, a hynny – yn y bôn – mewn ymateb i ffaeleddau sylfaenol yr arweinydd ei hun. Ffaeleddau a grisielir yn hanesyn un o staff gweinyddol swyddfa Corbyn, a hen ffrind personol iddo, yn ei gwahodd ei hun i gyfarfodydd efo penaethiaid y gwasanaethau diogelwch, a hynny oherwydd bod y cyfan mor amaturaidd a di-drefn fel nad oedd gan unrhyw un yr awdurdod i’w rhwystro.

Erbyn inni gyrraedd hanes ymgyrch etholiad cyffredinol 2019, gyda Corbyn a’i wraig Laura Alvarez wedi pwdu a styfnigo i’r fath raddau fel eu bod ill dau’n ei gwneud hi’n amhosibl rhedeg ymgyrch broffesiynol, mae’r bathos bron â bod yn annioddefol. Teg y dywed cefnogwyr Corbyn na chafodd eu heilun gyfle gan gyfryngau Prydain. Eto fyth, byddai unrhyw post-mortem gonest yn gorfod cydnabod mai Corbyn ei hun a roddodd y farwol i Gorbyniaeth.

O safbwynt Cymreig, dau beth mawr sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen.

Yn gyntaf ac yn fwyaf sylfaenol, cawn ein hatgoffa o un o wirioneddau mawr gwleidyddiaeth Cymru, sef hyn: heb os, mae Llafur o bwysigrwydd sylfaenol i Gymru, ond nid yw Cymru o unrhyw bwysigrwydd mawr i’r Blaid Lafur. Onid yw’n siarad cyfrolau fod Carwyn Jones a Mark Drakeford ill dau mor ddibwys i stori’r blaid dros y pum mlynedd diwethaf fel nad ydynt hyn yn oed yn haeddu lle ym mynegai’r gyfrol?

Wrth reswm, caiff ambell i Gymro neu Gymraes arall eu crybwyll. Yn wir, mae’n werth tanlinellu’r hyn a ddywed y gyfrol ynglŷn â pha mor agos yw dau Aelod Seneddol o Gymru, Carolyn Harris a Nick Smith, at olynydd Corbyn, Syr Keir Starmer. Dichon fod dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Gymreig, Harris, bellach yn ffigwr llawer mwy dylanwadol o fewn y blaid Brydeinig na’i harweinydd swyddogol a’r gŵr sydd hefyd yn Brif Weinidog Cymru. Ond y tu hwnt i unigolion, nid yw Cymru’n cyfrif fel gwlad yn nhrefniadau mewnol nag ym mlaenoriaethau’r blaid. Ar lefel realpolitik ni ddylai hynny ein synnu: mae Cymru’n rhy fychan ac yn rhy ffyddlon i boeni yn ei chylch. Serch hynny, mae’n dal yn sobreiddiol gweld pa mor ymylol yr ydym mewn gwirionedd.

Yr ail beth i’w nodi yw mai’r hyn sy’n cyfrif oddi mewn i’r Blaid Lafur – yr hyn sydd, fe ymddengys, yn bwysicach na dim arall – yw’r frwydr fewnol rhwng y ‘dde’ a’r ‘chwith’. Eto, nid oes unrhyw beth newydd yn hynny. Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â hanes Llafur yn ystod y 1930au, y 1950au neu’r 1980au eisoes yn hen gyfarwydd â’r stori. Ond mae’r dystiolaeth a gesglir ynghyd gan Pogrund a Maguire yn tanlinellu’r pwynt mewn modd sydd mor ddigamsyniol a hollgynhwysol nes ei fod, ar adegau, wedi gadael y darllenydd yma’n gegrwth. Ar ddwy ochr yr hollt, tueddir i ddehongli pob mater gwleidyddol a phersonoliaethol fel mynegiant o’r frwydr fewnol fawr yma, a hynny’n arwain at ymddygiad cwbl loerig ac weithiau cwbl annynol. A pheidied neb â thwyllo ei hun: mae’r ‘dde’ o leiaf yr un mor unllygeidiog â’r ‘chwith’ yn hyn o beth, os nad yn fwy felly.

Mae hyn yn arwyddocaol nid yn unig wrth feddwl am y pum mlynedd diwethaf, ond hefyd wrth feddwl am y dyfodol. A hynny oherwydd bod Cymru, gan nad yw’n bwysig ynddi’i hun oddi mewn i’r blaid, hefyd yn sicr o gael ei gweld a’i dehongli gan arweinyddiaeth newydd y blaid drwy sbectol y frwydr rhwng ‘de’ a ‘chwith’.

Dengys Pogrund a Maguire fod Starmer wedi ennill yr arweinyddiaeth yn rhannol oherwydd bod digon o unigolion amlwg ar ‘chwith’ y blaid a oedd wedi penderfynu, yn sgil yr anhrefn a grëwyd gan Corbyn, Seumas Milne, Karie Murphy a’r gweddill, fod yn rhaid wrth arweinydd sy’n gallu cyflawni priod waith arweinyddiaeth yn effeithiol. Ond beth bynnag eu bwriadau, mae ethol Starmer yn cael ei ystyried fel buddugoliaeth i’r ‘dde’, ac ym myd Manicheaidd y Blaid Llafur, mae hynny’n ei osod mewn gwersyll gwahanol i Mark Drakeford.

Ni fu erioed arweinydd datganoledig a chanddo broffil mor uchel yng Nghymru â’r Prif Weinidog, heb sôn am un sy’n ennyn cymaint o ewyllys da. Petai Cymru’n bwysicach ynddi ei hun, dylai hyn fod yn ddigon i sicrhau bod ei lais yn cyfrif yn uchel-rengoedd ei blaid yn Llundain hefyd. Ond dagrau pethau yw nad felly y mae. Gan fod Cymru mor fach ac mor deyrngar, a chan fod yr hollt rhwng y ‘dde’ a’r ‘chwith’ mor ganolog i bopeth oddi mewn i Lafur, mae’n fy nharo i fod Mark Drakeford yn ffigwr cynyddol ymylol a chynyddol unig. Hawdd y gellid dadlau bod ei holl ymdrechion yn haeddu gwell. Eto i gyd, dyma ganlyniad anochel y ffaith mai hanes y Blaid Lafur ydi hanes gwleidyddiaeth y Gymru gyfoes.

Richard Wyn Jones
Hydref 2020