Bod mewn dau le ar unwaith – gwlad ymddiriedaeth a gwlad diffyg ymddiriedaeth

Darllen am ddim

Mae miloedd ar filoedd ohonom dros yr wythnosau rhyfedd diwethaf wedi defnyddio technolegau cyfathrebu megis Zoom a Teams i weithio o’n cartrefi gan barhau i fod mewn cysylltiad â’n cyd-weithwyr. Ac nid o’n cartrefi yn unig y mae modd gwneud hynny. Mae ein colofnydd 1,200 o filltiroedd o’i gartref a’i waith yng Nghaerdydd. Neu a ydi o?

Fel y gwŷr darllenwyr cyson BARN, rydw i’n byw trwy gyfnod y Gofid Mawr yn Norwy. Ond a bod yn gwbl onest, mae pethau ychydig yn fwy cymhleth na hynny hefyd. Er fy mod yn encilio ar lan Oslofjord, rwy’n parhau i weithio ‘yng Nghymru’ – neu o leiaf rwy’n ymuno mewn cyfarfodydd rhithiol hefo cyd-weithwyr sydd, y rhan fwyaf ohonynt, yn encilio mewn gwahanol dai a fflatiau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Felly mewn gwirionedd, mae’n teimlo fel pe bawn yn byw yn Norwy ac yng Nghymru ar y un pryd (gadawaf i’r beirdd a’r athronwyr geisio egluro cyflwr enaid o’r fath).

Canlyniad naturiol hyn yw fy mod byth a hefyd yn cymharu’r ymateb yn y ddwy wlad – ac ymateb y ddwy wladwriaeth – i’r argyfwng. Pa gasgliadau yr wyf wedi eu cyrraedd? Gadewch imi ddechrau trwy adrodd gair o brofiad.

Bythefnos yn ôl daeth cyd-weithwraig o Gaerdydd i gysylltiad ac yng nghanol trafodaeth am ryw fanylyn diflas, biwrocrataidd neu’i gilydd fe drodd y sgwrs at hynt ei phlant hi yn un o ysgolion cyfun mawr cyfrwng Saesneg gogledd Caerdydd o’i gymharu â hynt fy rhai innau yma yn ysgol Frogn. Erbyn deall, roedd (ac mae) ei phlant hi, ill dau yn eu harddegau, yn ei chael hi’n anodd, anodd. Doedd dim trefn, dim patrwm ac, o’r herwydd, dim diddordeb a dim parodrwydd i ddygnu arni a gweithio. Roedd fy nghyfeilles wedi cyrraedd pen ei thennyn ac yn anobeithio’n llwyr.

Yn fy naïfrwydd, roeddwn i’n methu’n lân â deall. Siawns nad yw’r cyfarfodydd dosbarth ar y we yn cynnig rhyw fath o fframwaith a rhyw fath o ddolen gyswllt? Mae’r ysgol yma yn Norwy wedi cadw at yr amserlen a fodolai cyn y Cau, gan gymysgu cyfarfodydd ar ddechrau’r wers hefo cyfuniad o ddosbarthiadau confensiynol a gwaith wedi ei osod ar gyfer cyfnod y wers. Nid yw’n hawdd bob tro wrth gwrs, ond mae rhyw fath o drefn a phatrwm trwy’r cyfan, a chyswllt cyson, uniongyrchol gan yr athrawon hefo’r disgyblion unigol. Roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol mai fel yna yr oedd hi yng Nghymru hefyd.

Ond na. Roedd yr ysgol dan sylw wedi penderfynu gwahardd cynnal dosbarthiadau ar y we fel mater o bolisi, a hynny oherwydd ‘ystyriaethau yn ymwneud â diogelu plant’. Mae’n debyg mai dyma’r sefyllfa mewn cyfres o ysgolion trwy Gymru (er nad oes dim cysondeb, chwaith) gyda nifer o ysgolion ac awdurdodau lleol yn honni eu bod yn dilyn gwŷs gan Lywodraeth Cymru. Gwell yw gadael disgyblion yn ddibatrwm ac i raddau helaeth iawn yn ddiaddysg yn hytrach na mentro cael athrawon – yr union bobl sy’n cael rhannu adeiladau ysgol hefo’n plant yn feunyddiol mewn cyfnodau arferol – yn camfihafio ar y we. Yr awgrym, onid e, yw mai dim ond aros eu cyfle maen nhw.

Fe fyddwch yn gweld agwedd wahanol Norwy pan sylweddolwch mai un o’r pethau sy’n destun trafod a chwerthin braf ar lawr gwlad yma yw’r holl storïau a glywir am yr hyn y mae athrawon wedi ei weld (yn ddamweiniol) wrth gyfarfod eu dosbarthiadau ar y we dros yr wythnosau diwethaf. Clywir am athrawon sydd bellach yn dechrau gwersi trwy ofyn i’r disgyblion atgoffa eu rhieni i wisgo dillad wrth grwydro y tu ôl iddynt. Gwneir hyn oherwydd y trawma y maent eisoes wedi ei ‘ddioddef’ wrth weld darnau noeth o gyrff y cyfryw grwydriaid yn fflapio’n rhydd. Stori fawr yr wythnos hon yw hanes athro o Ddenmarc a benderfynodd fynd yn syth o’i wers i gael cyfathrach rywiol â’i wraig gan anghofio diffodd ei feicroffon... Duw a ŵyr os yw’n stori wir ai peidio, ond mae pawb yma fel petaent yn ystyried bod yr holl beth yn gwbl hilariws, chwedl y diweddar annwyl John Davies.

Fe allwch ddewis dehongli hyn fel enghraifft o’r gwahaniaeth rhwng Llychlynwyr nwydwyllt a Chymry tynn eu staes. Ond i mi, mae’n fater o ymddiriedaeth. Mae’r wladwriaeth yma – a rhieni hefyd, wrth reswm – yn ymddiried mewn athrawon, gan dderbyn bod camgymeriadau’n siŵr o ddigwydd. Yng Nghymru fel ym Mhrydain, ar y llaw arall, rydym yn ddrwgdybus gan drin pobl fel darpar ddihirod – neu waeth.

Gellir ehangu’r pwynt ymhellach. O edrych ar yr ymatebion gwahanol iawn yma a draw acw i’r argyfwng – ac o orgyffredinoli rhyw ychydig – yn Norwy mae’n amlwg fod y bobl yn tueddu i ymddiried yn eu llywodraeth, tra mae’r llywodraeth hefyd yn barod i ymddiried yn ei phobl. Ym Mhrydain, mewn gwrthgyferbyniad, mae’r bobl yn llawer mwy tebygol o ddrwgdybio’r llywodraeth, a’r llywodraeth hithau’n gweithredu ar y sail nad yw’r bobl yn drýst.

Gadewch imi ddweud yn syth nad yw popeth yn wahanol. Ar lefel dydd i ddydd, yr un mesurau’n fras a gymerwyd i geisio gwarchod poblogaethau’r ddwy wlad: ynysu; golchi dwylo parhaus; cau ysgolion a gweithfeydd; ac yn y blaen. Mae ymateb gwerin bobl y ddwy wlad i’r cyfyngiadau hyn hefyd wedi bod yn reit debyg. Er bod rhwystredigaeth a diflastod (ac unigrwydd) yn amlwg, ar y cyfan mae pobl wedi ymddwyn yn gyfrifol, gyda phobl ifanc a’r to hynaf un yn gosod yr esiampl orau, a dynion yn eu pum a’u chwe degau – hynny yw, fi a ’nhebyg! – y mwyaf di-feind a hunanganolog.

Mae hefyd yn deg nodi bod gwahaniaethau economaidd a chymdeithasol sylfaenol rhwng y ddwy wlad. Tra mae Norwy’n oludog ryfeddol, mae Cymru’n dlodaidd, a chan adlewyrchu hyn mae iechyd a gofal meddygol yn tueddu i fod yn well yma nag ydyw acw. A thra mae Norwy’n fawr iawn a gwledig – mae ’na lot o gefn gwlad yma – mae Cymru’n llawer llai ac yn fwy dwys ei phoblogaeth. Mae hyn yn gymorth amlwg wrth geisio atal haint sy’n neidio o berson i berson. Dichon mai dyma sy’n rhannol egluro’r ffaith fod ardrawiad y pla’n wahanol yn y ddwy wlad. Wrth imi ysgrifennu hyn o eiriau, adref yng Nghymru mae’r ffigyrau swyddogol yn awgrymu bod 1,238 o bobl wedi marw hyd yma yn ei sgil. Y ffigwr cyfatebol yma yn Norwy yw 234, a hynny er gwaetha’r ffaith fod poblogaeth y wlad hon tua thraean yn uwch na phoblogaeth Cymru.

Eto i gyd, yr hyn sy’n fy nharo i yw’r gwahaniaethau sylfaenol yng nghywair y gweithredu a’r cyfathrebu ar lefel y wladwriaeth.

Ym Mhrydain mae llywodraeth Boris Johnson wedi honni bod ganddynt sicrwydd, lle nad oes mewn gwirionedd ddim ond graddfeydd o ansicrwydd ac amheuaeth; wedi honni anffaeledigrwydd pan nad oes mewn gwirionedd unrhyw ffordd o osgoi camgymeriadau – y gamp yw lliniaru eu heffaith; wedi trin cwestiynu cyfeiriad fel ffurf ar frad yn hytrach nag fel ffrithiant y mae’n rhaid wrtho os am sicrhau’r canlyniadau gorau posib mewn amgylchiadau anodd; wedi gwrthod trafod yn ystyrlon hefo llywodraethau’r gwledydd datganoledig a llywodraeth leol yn Lloegr gan gredu mai nhw sy’n gwybod orau. Yn bennaf oll, dyma lywodraeth sydd wedi ceisio cuddio y tu ôl i’r ‘Wyddoniaeth’ er bod penderfyniadau gwleidyddol yn anhepgorol.

Fy nadl i yw bod y llywodraeth wedi ymddwyn fel hyn oherwydd amharodrwydd i ymddiried mewn pobl. Yn hytrach na gwneud hyn, mae’n ein trin fel plant; fel pobl sy’n analluog i ddeall bod penderfyniadau anodd a chymhleth i’w gwneud, a bod dewisiadau a syniadau amgen sydd hefyd yn rhesymol a dealladwy. Wrth reswm, rhaid i Johnson a’i lywodraeth ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu hymateb trychinebus i’r argyfwng, ond mae’r broblem yn fwy sylfaenol nag un criw o wleidyddion, er mor ffaeledig yw’r rheini. Dyma natur y berthynas rhwng llywodraethau Prydeinig a’i dinasyddion trwy’r oesoedd. Yn wir, efallai fod ‘deiliaid’ yn parhau’n derm mwy addas na ‘dinasyddion’ i’n disgrifio.

Mae’n wahanol iawn yma. O’r cychwyn cyntaf, mae llywodraeth Erna Solberg wedi trin Norwyaid fel oedolion. Maent wedi bod yn eglur wrth gyfathrebu â’r wlad mai mater o farn yn hytrach na mater o sicrwydd llwyr oedd llawer o’r penderfyniadau y bu’n rhaid eu gwneud. Tra oeddent yn cydnabod bod tystiolaeth wyddonol yn ffurfiannol bwysig, ni cheisiodd y gwleidyddion guddio y tu ôl i’r gwyddonwyr chwaith. Yn hytrach, pan oedd penderfyniadau gwleidyddol yn anhepgorol, aethpwyd ati i gynnwys pob plaid yn y Storting – senedd y wlad – yn y trafod a’r penderfynu. Do, fe wnaed camgymeriadau, ond gan nad oedd neb wedi honni y gellid bod yn anffaeledig – hynny yw, gan fod gwyleidd-dra yno o’r cychwyn – llwyddwyd i’w hadnabod ac i addasu yn gynt o lawer. Mae rhai’n parhau’n feirniadol o hyd. A da o beth hynny. Ni ellir ond cynnal y lefel o ymddiriedaeth a geir yma yn Norwy – gan y bobl tuag at eu gwladwriaeth ac fel arall – os oes sgwrsio gonest o’r naill ochr a’r llall. Mantais arall yma, wrth gwrs, yw bodolaeth gwasg nad yw mor ddifaol o blwyfol a phleidiol â’r wasg Lundeinig.

Dros y degawdau – ers dyddiau D.J. Davies a Noëlle Davies os nad ynghynt – mae ’na Gymry sydd wedi breuddwydio am greu democratiaeth Lychlynnaidd yng Nghymru. Mae’r argyfwng presennol yn brawf fod gennym lawer iawn o ffordd i’w rhodio cyn cyrraedd cyflwr o’r fath. Ond mae hefyd wedi tanlinellu beth yn union mae hynny yn ei olygu a pham ei fod yn werth ei gael. Allwedd democratiaeth Lychlynnaidd yw ymddiriedaeth – rhwng dinasyddion a’i gilydd a rhwng gwleidyddion a’i gilydd. Dyma hefyd yr allwedd i gymdeithas sy’n hapusach ac yn iachach.

Richard Wyn Jones
Mehefin 2020