Ym mlaen cyfrol o ddramâu a gyhoeddais i yn 1999, fe nodais, ‘All is sign (after Eco)’. Yr hyn a ysbrydolodd y dramodydd ifanc yma oedd cysyniadau ôl-strwythuraethol y semiotegydd Umberto Eco, wrth iddo ddadlau yn erbyn semiosis dilyffethair. Yn y dechreuad yr oedd y gair, meddai rhywun ryw dro. Ond yr hyn ddysgodd Eco i mi oedd nad oes modd i mi ymddiried yn y gair bellach. A rhith yw pob cyfathrach. Nodaf hyn yng nghyd-destun cysyniad canolog Y Sws Mewn Pinc – arddangosfa unigol gyntaf Esyllt Angharad Lewis, sydd i’w gweld yn Arcade-Campfa, Caerdydd, ar hyn o bryd.
Merch o Gwm Tawe yw Esyllt, artist a chyfieithydd sydd bellach wedi ‘dianc i’r Alban i gael golwg gwell ar Gymru’. Fe welwn ffrwyth ei gwrthrychedd yn ei harddangosfa onest a thyner – er ei bod yn llawn tyndra rhwng ystyron – sy’n cwestiynu natur iaith, ein gallu i gyfathrebu ynghyd â’n perthynas ni’r Cymry â’n hiaith, a pherthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill.