Brexit – bradychu’n plant a’n hwyrion

Darllen am ddim

Dadleuir yma fod hwn yn gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru a’r deyrnas gyfan. Wnaethom ni ddim wynebu’r fath chwalfa wleidyddol, meddir, hyd yn oed yn ystod y ddau ryfel byd nac ychwaith adeg argyfwng Suez yn 1956.

Nid yn unig mae’r wlad yn rhanedig, ond mae’r ddwy blaid fwyaf yn rhanedig – y Torïaid o’r top i’r gwaelod, a Llafur yn wynebu rhwyg, nid ymhlith ei haelodau ond rhwng yr aelodaeth a’r arweinyddiaeth. Mae diffyg cynllun, diffyg gweledigaeth, diffyg arweiniad ymhobman.

Amhosib yw dwyn i gof unrhyw gyfnod arall yn fy mywyd i pan oedd yn bosib dweud nad oedd mwyafrif amlwg i’w weld yn San Steffan dros unrhyw gynllun o gwbl: y capten a’i thîm yn dal i ddadlau dros amryw fapiau, y cwmpawd yn troi i bob cyfeiriad, un rhan o’r criw yn loetran ger y badau a’r llall yn barod i’n chwythu i gyd i ebargofiant.

Ond beth am ein sefyllfa ni yng Nghymru, gwlad a bleidleisiodd yr un fath â Lloegr? A yw’r canlyniad hwnnw yn arwydd ein bod am wireddu hen bennawd cywilyddus yr Encyclopaedia Britannica, ‘For Wales, see England’? Does bosib. Os oedd hunaniaeth Cymru yn medru goroesi cyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig, does bosib nad oes modd iddi oroesi’r dyddiau gwyllt hyn yn ogystal â sialensiau demograffig amlwg.

Er i Gymru bleidleisio’n wahanol iawn i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ar draws Cymru a Lloegr roedd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn is yng Nghymru – 52.5 y cant – nag yn unrhyw ranbarth o Loegr ar wahân i Lundain a’r de-ddwyrain. Mae hyn yn cymharu â 59 y cant yng nghanolbarth Lloegr a 58 y cant yn y gogledd-ddwyrain. Ar yr ochr arall roedd y bleidlais i Aros fymryn yn uwch yng Nghaerdydd nag ydoedd yn Llundain. Dros Gymru gyfan doedd y mwyafrif dros Adael yn ddim ond 82,000 – mewn gwlad o dair miliwn.

Dyna oedd y canlyniad mewn refferendwm a gynhaliwyd ychydig wythnosau’n unig ar ôl etholiadau i’n Cynulliad, ac ar ôl bron i ddwy flynedd pan fu pleidiau sydd, yn y bôn, yn gefnogol iawn i Ewrop yn ymladd ei gilydd ddydd a nos. Arwydd arall o esgeulustod y gwyliwr ar y tŵr, David Cameron.

Dylai hyn beri syndod am reswm arall. Erbyn hyn mae Cymru yn wahanol iawn i bob un o wledydd Prydain ar sail natur ei phoblogaeth. Ganed 91 y cant o boblogaeth Gogledd Iwerddon yn y dalaith honno; ganed 88 y cant o boblogaeth Lloegr yn Lloegr; ganed 81 y cant o boblogaeth yr Alban yn yr Alban. Ond yng Nghymru dim o 57 y cant o’r boblogaeth a aned yma. Felly, o ddadansoddi hunaniaethau, Cymru yw’r wlad fwyaf cymhleth o’r pedair o lawer.

Dyw hyn ddim yn help mewn sefyllfa lle mae hyd yn oed arbenigwr o Sais, David Goodhart, yn gorfod cyfaddef, ‘the English remain semi-literate in the language of modern identity.’

Dyna pam mae datganoli mor bwysig. Dyna hefyd pam ei bod yn hollbwysig na fydd Brexit yn erydu’r camau pwysig a gymerwyd dros y degawdau diwethaf i gryfhau swmp a sylwedd ein dinasyddiaeth Gymreig, dinasyddiaeth sy’n agored i bawb.

Nid bygythiad gwag mo hwn. Mae gwasanaeth sifil Llundain yn medru dygymod â’r Alban, ond mae Cymru yn eu drysu, a hunanlywodraeth Cymru yn aml y tu hwnt i’w hamgyffred. Dyma oedd yn esbonio’r rhestr ddi-ben-draw o bwerau yr oeddynt am eu cadw yn Llundain pan oedd Cymru yn dadlau am bwerau deddfwriaethol – rhestr a lanwodd bron i gan tudalen a hanner.

Dyma pam y bydd yn rhaid i Gymru ymladd yn galetach hyd yn oed na’r Alban i sicrhau na fydd pwerau sy’n dychwelyd o Frwsel yn aros yn Llundain. Dyma pam, hefyd, y dylem ofni cyfnewid cyllidebau Ewropeaidd, sy’n amlach na pheidio wedi eu seilio ar dystiolaeth eglur, am fargeinio tywyll traddodiadol Prydain.

Y broblem ychwanegol yw’r ffaith fod gweinidogion San Steffan hefyd yn weinidogion Lloegr. Annoeth, os nad amhosib, yw gofyn i weision sifil ymarfer yn Lloegr eu greddf naturiol i ganoli o ddydd Llun tan ddydd Iau, ac wedyn i fod yn ddatganolwyr brwdfrydig ar bnawn Gwener yn eu hymagwedd at y gwledydd eraill. Cymry sydd â’r mwyaf i’w golli.

Os ydych am fesur hyn, edrychwch ar y ffigyrau am wariant cyhoeddus. Mae’r gwariant y pen yng Ngogledd Iwerddon 18.8 y cant yn uwch na’r cyfartaledd dros Brydain (a hyn heb y cil-dwrn anferth i’r DUP); y ffigwr cyfatebol yn yr Alban yw 13 y cant; ffigwr Cymru yw 4.4 y cant. Dyw’r ffigyrau yma ddim yn cyfateb i unrhyw fesur gwrthrychol o anghenion bob gwlad. Mae’n siŵr fod gogledd Lloegr ar ei golled hefyd.

Mae Cymru wedi wynebu talcen caled ym mhob degawd. Yr un nesaf fydd y caletaf erioed. Nid yw cyfanswm cynnyrch Cymru o’i gymharu â’n poblogaeth yn ddim ond 72 y cant o’r cyfartaledd ar draws y DU. Ond mae hyd yn oed y perfformiad isel hwnnw ar dir sigledig iawn os gwireddir Brexit.

Gwrandewch ar uchel swyddogion Ford ac Airbus. Mae Airbus, er enghraifft, yn cyflogi 48,000 yn yr Almaen a 46,000 yn Ffrainc, a dim ond 14,000 ym Mhrydain (6,000 yn Sir y Fflint). Yn barod mae saith o lywodraethau wedi cysylltu ag Airbus i ofyn a fyddai modd symud ffatri Brychdyn i’w gwlad nhw. Mae Korea, Mecsico a Tsieina yn eu plith. Efallai na fydd hyn yn fygythiad yn y tymor byr, ond os gadawn yr UE, yn y man bydd rhesymeg amgen yn sicr o’i hamlygu ei hun.

Yn wyneb hyn oll pam nad yw’r farn gyhoeddus wedi newid? Yn rhannol mae pobl wedi blino ar y ddadl. Yn ôl yr arolwg barn diweddaraf, erbyn hyn mae ’na fwyafrif bach o blaid Aros yn Ewrop – 51–49 y cant. Ond o dan yr ystadegyn moel hwn, mae ’na bwll o anobaith. Mae 82 y cant yn credu bod y broses yn llanast; 73 y cant yn credu y bydd pob addewid yn cael ei dorri; 64 y cant yn rhoi’r bai ar y llywodraeth; 45 y cant yn credu y bydd Brexit yn gwanhau’r economi; a 22 y cant yn credu mai elwa fydd yr economi wrth adael yr UE.

Mae’r gwahaniaethau mwyaf i’w gweld yn ymateb gwahanol genedlaethau: heddiw byddai 73 y cant o bobl rhwng 18 a 24 oed yn pleidleisio i Aros, a 58 y cant o’r rhai rhwng 25 a 49 oed o’r un farn. Ymhlith pobl dan 50, felly, byddai mwyafrif ysgubol o blaid Aros.

Dyma’r rheswm gorau dros gael pleidlais newydd ar y mater – i roi dyfodol ein gwlad yn nwylo cenedlaethau’r dyfodol. Dyw hyn ddim yn sarhad o unrhyw fath ar y rheini a bleidleisiodd i Adael yn 2016. Y parch mwyaf y medrwn ei ddangos i’r canlyniad hwnnw yw ceisio deall beth oedd yn gyfrifol amdano, a dyfnder y boen a wthiodd gymaint o’n cymunedau i bleidleisio fel y gwnaethant – poen y maent wedi ei dioddef lawer yn rhy hir.

Mae angen i’r Blaid Lafur roi’r gorau i simsanu ar y pwnc a dweud yn glir wrth y cymunedau hyn: ‘Rydym yn deall eich poen. Rydym llawn mor ddig â chwithau. Ond os ydych am weld gwellhad sylfaenol yn ein hamgylchiadau ni i gyd, bydd angen help Ewrop arnom. A bydd rhaid i Ewrop newid hefyd. Nid trwy redeg i ffwrdd y gellir ateb eich problemau, ond trwy wynebu pob her gydag Ewrop, ein cymdogion, yn gefn i ni.’

Os na fydd modd gwyrdroi canlyniad 2016 byddwn yn gadael y conffederasiwn mwyaf nobl yn hanes y byd dim ond i betruso ac anesmwytho ar gyrion pobman. Byddwn wedi bradychu ein plant a’n hwyrion. Byddwn wedi culhau eu gorwelion – yn groes i’w dymuniad clir. Byddwn wedi codi ffiniau dianghenraid ar ein glannau ac yn ein meddyliau a chodi mur yn erbyn ein cymdogion.

Mae ’na ffordd arall.

Mae Geraint Talfan Davies yn gadeirydd Cymru dros Ewrop ac yn awdur Unfinished Business: Journal of an Embattled European (Parthian, 2018).

Geraint Talfan Davies
Tachwedd 2018