Brexit caled – pryderon Gwyddelig

Darllen am ddim

Mae’n wybyddus i bawb fod y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn elfen ganolog yn y trafodaethau diddiwedd sy’n peri’r fath gecru ac ymrannu yn San Steffan. Ond mae’r modd y gallai ymadawiad Prydain effeithio ar safonau byw’r Gwyddelod yn destun pryder yno hefyd.

Y bore ar ôl i Theresa May golli’r bleidlais ar ei chytundeb Brexit, daeth Gerry’r plymar i tŷ ni i drwsio peipen a oedd yn gollwng dŵr yn y llofft. ‘Wel,’ meddai, ‘wyt ti’n meddwl bydd Theresa May’n gofyn am estyniad i Erthygl 50? Neu ti’n meddwl bydd pwyse ar Leo (Varadkar, y Taoiseach) dros y backstop rŵan?’

Efallai fod Gerry fymryn yn fwy o anorac gwleidyddol na’r rhelyw ond mae’n syndod faint o bobl yn Iwerddon sy’n dilyn, ac yn deall, manylion esoterig Brexit. Ydyn, mae’r rhan fwyaf o bobl yma (fel y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru mae’n siŵr) wedi cael llond bol ar Brexit. Llond bol ar y tin-droi gwleidyddol yn Llundain, a llond bol ar y difaterwch tuag at y niwed y bydd Brexit – yn enwedig Brexit heb gytundeb – yn ei wneud i Iwerddon. Ond mae pobl yma yn cymryd diddordeb yn y saga ddiddiwedd yn San Steffan. Yn rhannol mae hyn oherwydd yr holl ddrama, a rhai o’r cymeriadau fel petaent wedi camu allan o Downton Abbey: mae Boris a Jacob Rees-Mogg yn cael eu trafod yma fel ffigyrau hollol gyfarwydd. Ond mewn gwirionedd y prif reswm am y sylw y mae Gwyddelod yn ei roi i Brexit – er gwaetha’r diflastod – yw’r ffaith eu bod nhw’n gwybod ei fod yn fater o bwys mawr i’r wlad ac iddyn nhw’n bersonol.

Yn ôl yr ymchwil (Economic and Social Research Institute), fe all Brexit caled (gyda thollau newydd ar fewnforion) olygu cynnydd o hyd at £1,200 y flwyddyn mewn costau byw i deuluoedd yma. Mae chwarter y nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Iwerddon yn dod drwy Brydain – ac mae dros 60 y cant o’r bwyd ar silffoedd yr archfarchnadoedd yma yn dod drwy Brydain.

Bydd prisiau cig yn codi 24%, pris coffi yn codi 20%, pris siocled yn mynd i fyny 27% a phrisiau bwydydd wedi eu prosesu yn codi 15%. Mae disgwyl i brisiau grawnfwydydd fynd i fyny hefyd, a phowdr golchi.

Yn ogystal â’r cynnydd mewn prisiau, amcangyfrifir y bydd prinder nifer o nwyddau hefyd, oherwydd bydd y broses o fewnforio yn arafach ac yn fwy cymhleth. Hynny yw, os bydd Prydain allan o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, bydd mwy o waith papur ac oedi er mwyn profi bod yr holl fewnforion o Brydain yn dal i gydymffurfio â rheolau a gofynion iechyd a diogelwch yr Undeb Ewropeaidd. A’r canlyniad i ni fydd prinder pethau ar y silffoedd – er enghraifft, cynnyrch cwmnïau fel Heinz, Unilever neu McVitie’s – sydd â’u ffatrïoedd yn Lloegr; pethau fel Fairy Liquid, Lucozade a Jaffa Cakes.

Efallai y gallwn ni fyw heb Hobnobs, ond mae’r posibilrwydd y bydd prinder rhai meddyginiaethau hanfodol yn fwy difrifol. Mae gan y llywodraeth restr o 24 o feddyginiaethau all fynd yn brin, gan gynnwys cyffuriau radiotherapi. Yn ôl y Gweinidog Iechyd does dim angen poeni gan fod digonedd o’r mwyafrif o gyffuriau ar gael i barhau am sawl wythnos, a bod y llywodraeth yn chwilio am ffynonellau eraill i sicrhau cyflenwad o’r cyffuriau sydd ar y rhestr. Erfyniodd ar i bobl beidio â dechrau hel meddyginiaethau mewn panig gan y gall hynny ynddo’i hun achosi prinder. Ond wrth gwrs does dim byd yn fwy tebygol o achosi panig na dweud wrth bobl nad oes angen mynd i banig. Ac mae fferyllwyr yn dweud bod eu cwsmeriaid yn barod wedi dechrau gorbrynu.

Mae’r llywodraeth wedi cyflymu’r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Mae mesur brys ar ei ffordd drwy’r senedd – mesur ac iddo 17 adran – sy’n mynd i’r afael â’r prif anawsterau a fydd yn codi. Yn eu plith mae trafnidiaeth: fe ddylai awyrennau allu parhau i hedfan yn ôl ac ymlaen rhwng Iwerddon a Phrydain yn ddidrafferth, meddai’r llywodraeth, ond bydd yn rhaid i Ryanair ac Aer Lingus brofi eu bod yn eiddo i gwmnïau o fewn yr UE. Gall hyn fod yn broblem i Aer Lingus, yn ôl rhai arbenigwyr, gan mai British Airways sydd bellach yn berchen ar y cwmni.

Cyn belled ag mae’r porthladdoedd yn bod, mae ’na baratoadau sylweddol ar y gweill. Rhaid paratoi tir yn Rosslare a phorthladd Dulyn ar gyfer y miloedd o lorïau a fydd yn gorfod ciwio ar gyfer archwiliadau tollau. Rhaid hyfforddi a chyflogi dwsinau o swyddogion tollau newydd; a rhaid adeiladu adnoddau ar eu cyfer.

Bydd y gofynion tollau yn golygu costau ychwanegol i gwmnïau, bach a mawr, sy’n allforio o Iwerddon i Brydain, neu drwy Brydain i’r cyfandir. Rhaid fydd cael trwyddedau allforio a bydd angen llenwi ffurflen bob tro mae llwyth yn gadael. Bydd hynny’n costio’n ddrud mewn arian ac amser, heb sôn am yr angen i hyfforddi a chyflogi pobl i gyflawni’r gwaith. Os bydd allforwyr Iwerddon ar eu colled yn ariannol, mi fydd hynny’n effeithio ar yr economi ehangach.

Yn syml, mi fyddwn ni i gyd dipyn yn dlotach dan Brexit – yn enwedig Brexit heb gytundeb. A does dim modd diystyru’r peryglon i’r broses heddwch. Mae’n anodd gweld sut y gellid osgoi ffin o ryw fath ar draws ynys Iwerddon pe byddai Prydain yn gadael yr UE heb gytundeb. Ac mewn sefyllfaoedd cyffredin, o ddydd i ddydd, petai lori yn cario cig oen, dyweder, yn croesi o’r Alban i Ogledd Iwerddon, ac yna’n gyrru lawr i’r Weriniaeth, heb gytundeb tollau byddai’n rhaid cael proses neu system wirio, oherwydd bod y lori yn symud o diriogaeth Prydain i mewn i’r UE.

Dyna’n union beth mae llywodraeth Dulyn wedi bod mor hynod o awyddus i’w osgoi, a dyma pam y cytunwyd ar y ‘backstop’ bondigrybwyll. Yn syml, mae’r ‘backstop’ yn golygu bod Llundain, er mwyn sicrhau na fydd ffin galed ar ynys Iwerddon, yn cytuno bod Prydain i gyd, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, yn cadw at reolau tollau a safonau’r UE nes bod cytundeb masnach newydd rhwng Prydain a’r UE. Ac mae’r cytundeb newydd hwnnw i fod i gael ei lunio yn ystod y cyfnod trawsnewid dros y ddwy flynedd nesaf. Y realiti ydi y bydd Prydain, os am barhau i fasnachu efo’r UE yn y dyfodol, fwy neu lai yn cadw’n wirfoddol at reolau tollau a safonau’r UE o dan unrhyw gytundeb newydd beth bynnag – ac felly’n osgoi ffin ar draws Iwerddon.

Dyna ddymuniad pawb yn y pen draw, gan gynnwys hyd yn oed y Brexitwyr mwyaf angerddol: masnach mor ddidrafferth â phosib rhwng Prydain a’r UE, gan gynnwys Iwerddon – a dim ffin ar yr ynys. Felly roedd ’na anghrediniaeth yma wrth glywed carfan gynyddol ym Mhrydain dros y misoedd dwytha yn disgrifio’r ‘backstop’ fel trap i ‘gadw’ Prydain yn yr UE, ac yn beio Leo Varadkar am rwystro Prydain rhag gadael. Does neb yma yn gallu coelio bod Prydain yn ymddangos mor benderfynol o ruthro dros y dibyn, a bod gwleidyddion San Steffan wedi gadael i’r fath lanast ddatblygu.

Yn ôl Gerry ein plymar, y ffordd gallaf allan o’r anhrefn fyddai cynnal refferendwm arall. Beth sydd o’i le ar newid meddwl a newid trywydd ar ôl i’r ffeithiau a’r oblygiadau ddod yn gliriach? Ac os ydi hi’n iawn i aelodau seneddol gael fotio fwy nag unwaith ar Brexit, pam nad yr etholwyr?

Ac i anoraciaid BARN sy’n awyddus i ddeall rhagor am y ‘backstop’, ga’i argymell erthygl fy nghyd-weithiwr Tony Connelly, ‘Brexit: How the Backstop has brought the UK to Boiling Point’ ar wefan RTÉ.

Bethan Kilfoil
Chwefror 2019