Brexit yn fy atal rhag gyrru lori

Darllen am ddim

Y mis hwn ymatebais i gyhoeddiad yng nghylchlythyr fy nghyngor lleol yn dweud ei bod yn ofynnol i mi a ’nhebyg, deiliaid trwyddedau gyrru Prydeinig, eu cyfnewid am drwyddedau Gwlad Belg. Pethau bychain cymharol ddibwys o’r fath sy’n ein hatgoffa o’r hyn y bydd Brexit heb gytundeb yn ei olygu o ddifrif. Yn sydyn fydd fy hen drwydded yn ddim ond dogfen ddiwerth, annilys. Yn groes i’r gred sydd gan yr Ymadaelyddion, dyw Brwsel i gyd ddim yn gaeth i fiwrocratiaeth ymgordeddog. Mae’r broses o ildio un drwydded yrru a derbyn un arall yn hynod o gyflym a didrafferth. Chymerodd y cyfan ddim mwy nag ugain munud i’w gwblhau. Ar derfyn y broses, dywedodd y swyddog, gan hanner gwenu: ‘Sori syr, ond fydd hi ddim yn bosib cadw’r categorïau ar eich hen drwydded Brydeinig oedd yn eich galluogi i yrru lorïau, bysys a thractorau.’

Onid yw Brexit yn beth melltigedig! Fy amddifadu o’r hawl i yrru lori, bws a thractor! A bod o ddifrif, y ffaith amdani yw nad oes ots gen i o gwbl am hynny. A dweud y gwir nid wyf wedi gyrru cerbyd o fath yn y byd ers imi basio fy mhrawf gyrru dros 30 mlynedd yn ôl. A does gen i ddim bwriad dechrau nawr. Ond pwy a ŵyr am y dyfodol? Ar hyn o bryd rwy’n beicio i bobman, yn aml ar feic sy’n defnyddio injan fach drydan i ysgafnhau’r gwaith pedalu. (Cofiwch, rhag imi ymddangos yn hunangyfiawn, mae gyda ni gar. Ond fy ngwraig sy’n ei yrru.)

Mae dogn go lew o ansicrwydd ynghlwm â bod yn newyddiadurwr llawrydd fel myfi. A fydd Brexit yn ychwanegu at yr ansicrwydd? Mae’n anodd dweud. Rhoddodd helyntion trofaus Brexit fywoliaeth dda i lawer ohonom ym Mrwsel, yn newyddiadurwyr, cyfreithwyr, lobïwyr, a phawb sy’n ymhél mewn sawl dull a modd â gwleidyddiaeth. Ond a fydd fy nghwsmer gorau – o safbwynt ffioedd, nid BARN, yn anffodus! – yn wynebu cyfnod anodd pan ddaw’r holl drafod a checru i ben? Fyddan nhw fy angen i o hyd? Os hynny, och fi, ni allaf bellach arallgyfeirio i yrru lori, bws neu dractor.

Cwplaf ag ôl-nodyn i stori’r drwydded yrru. ‘O’n i ddim yn gwybod eich bod chi’n cael siarad Saesneg – a finnau wedi ymdrechu i ddysgu’ch iaith,’ meddwn wrth y person oedd yn prosesu fy nghais. Clywodd y Bos fy sylw. Gwenodd a dweud nad oedd ei chyd-weithwraig yn swyddog. Gwirfoddolwraig oedd hi. Mae’r gwahaniaeth yn un pwysig lle’r ydw i’n byw – pentref yn Fflandrys, fymryn y tu allan i Frwsel. O edrych arni o safbwynt fy Ngwlad Belg fabwysiedig, mae’r Gymraeg yn ymddangos yn iaith sydd ddim ond yn iaith gyd-swyddogol ar bapur mewn gwirionedd. Gellir ei defnyddio os dymunwch chi ond dim ond os ydi’r swyddogion y byddwch yn dod i gysylltiad â nhw yn medru’r Gymraeg ac yn fodlon ei defnyddio.

Hyd at yn gymharol ddiweddar, yn achos yr Iseldireg, roedd y sefyllfa’n debyg iawn i’r un yng Nghymru heddiw, o leiaf ym Mrwsel a’i chyffiniau. Ffrangeg oedd iaith popeth swyddogol ac ni ellid yn ymarferol fynnu siarad Iseldireg er ei bod mewn egwyddor, yn iaith gyd-swyddogol yng Ngwlad Belg, fel mae’r Gymraeg heddiw yng Nghymru.

Ar ôl creu sefydliadau Iseldireg eu hiaith mae sefyllfa’r iaith wedi newid yn sylfaenol. Ers Mehefin 1981 dim ond yr Iseldireg, fel arfer, y mae gwasanaethau yn Fflandrys yn cael ei defnyddio i gyfathrebu â thrigolion. Hynny yw, fel un sy’n byw yn Fflandrys dim ond yn yr Iseldireg y caf gyflwyno cais am drwydded yrru i’r cyngor. Ni dderbynnir cais mewn Ffrangeg neu Saesneg. Ac yn ôl ein Deddf Iaith ni, mae’r fath beth i’w gael ag ‘egwyddor cwrteisi’. Mae dewis gan wasanaethau lleol i ddefnyddio iaith arall, ond nid oes gorfodaeth.

Drosodd at Gomisiynydd newydd y Gymraeg…

Dafydd Ab Iago
Ebrill 2019