Briw agored Brexit

Darllen am ddim

Mae murlun ac arno’r geiriau ‘The Future is Europe’ yn sefyll ger fy nghartref ym Mrwsel. Heddiw, i mi, mae eironi brathog i’r geiriau. Nid yr Undeb Ewropeaidd mo dyfodol Cymru bellach wrth inni gefnu ar y sefydliad sydd wedi cyfoethogi ein bywydau ers bron i hanner canrif.

Daeth Ewrop yn ail gartref diwylliannol ac ysbrydol i’r Gymraes hon. Fe’m croesawyd â breichiau agored gan ddinasoedd Madrid, Lwcsembwrg a Brwsel lle bûm yn byw, a bydd darnau ohonof yn perthyn am byth i’r cilfachau hynny. Yr UE, a’r rhyddid llwyr i symud, astudio a gweithio yn ei gwledydd godidog, a hwylusodd y profiad. Yn naturiol, mae Brexit a’i rwystrau yn brifo.

Nid canu mawl yr UE na lambastio Brexit yw fy mwriad yma. Yn wir, er y darogan gwae, cafwyd cytundeb masnach mewn pryd gan ddod â’r cyfnod pontio i ben yn ddigon di-gythrwfl, ac mae Covid-19 yn llawer mwy o gysgod dros ein ffordd o fyw ar hyn o bryd. Ond, waeth beth oedd ein safiad ar Brexit, annoeth fyddai colli cyfle i fyfyrio ar ddiwedd cyfnod sydd wedi agor briw eger ar feinwe gwleidyddol a chymdeithasol ein cenedl, ac sy’n bygwth gadael craith barhaol ar ein democratiaeth a’n bri rhyngwladol.

Cafwyd cytundeb noswyl Nadolig a chonsensws ar y materion sydd wedi hollti barn ers misoedd, yn cynnwys trafnidiaeth, cyfraith a threfn, egni a physgodfeydd. Gall masnachu di-gwota a di-dariff barhau, gan esmwytho pryderon busnesau Cymru sy’n anfon 61% o’u hallforion i wledydd Ewrop. Ond does dim osgoi’r gwirionedd mai codi rhwystrau newydd a wna’r cytundeb ar ffurf datganiadau tollau dyrys a gwiriadau ar darddiad a diogelwch nwyddau ar y ffin. Gallai’r rhwystrau fod yn hoelen olaf yn arch rhai busnesau sydd eisoes yn gwegian dan effeithiau’r pandemig. 

Wrth imi ysgrifennu yn Ionawr, mae grwpiau busnes eisoes yn galw am ddychwelyd at y bwrdd trafod ac yn rhybuddio am draed moch biwrocrataidd, gan gynnwys yn y porthladdoedd. Eto i gyd, ni chafwyd llanast ym mhorthladd Caergybi na thagfeydd i lawr yr A55 fel yr oedd rhai wedi rhybuddio. Yn hytrach, bu lleihad dramatig yn nifer y lorïau sy’n croesi i Gaergybi. Tybed a yw tawelwch digynnwrf Caergybi, yr oedd Brexitwyr mor barod i’w ddehongli fel arwydd o lwyddiant y pontio, yn argoel iasol o dranc araf porthladdoedd Cymru wrth i Iwerddon droi ei golygon at dir mawr Ewrop a chyrchu glannau Dunkirk, Zeebrugge a Bilbao?

Hyd yma, bu sylw mawr i effaith Brexit ar lif nwyddau, a hynny weithiau ar draul yr amryfal rwystrau eraill sy’n ein hwynebu. Mi geisiaf amlygu rhai ohonynt. Bydd unrhyw un sy’n cynnig gwasanaethau i gwsmeriaid yn Ewrop, boed yn benseiri, bancwyr neu berfformwyr, yn colli mynediad awtomatig i’r farchnad Ewropeaidd. I’r rheini sy’n awchu am ehangu eu gorwelion gyrfaol, bydd methiant y cytundeb i roi cydnabyddiaeth i gymwysterau proffesiynol Prydeinig ar dir mawr Ewrop yn siom. Bydd angen fisa ar y rhai sydd am dreulio mwy na 90 diwrnod ar y cyfandir er mwyn teithio, gweithio neu astudio. Gall cwmnïau ffôn gyflwyno costau ychwanegol am ddefnyddio’u rhwydweithiau yn Ewrop, a does dim manylion eto am y system fydd yn disodli’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd, sy’n rhoi’r hawl i deithwyr gael mynediad at systemau iechyd wrth deithio.

Mae’r cytundeb yn amddifadu Cymry ifanc o’r cyfle i astudio ar y cyfandir drwy raglen arloesol Erasmus, sy’n ffrwyth dychymyg a llafur y Cymro Hywel Ceri Jones. Yma, dwi’n simsanu yn fy ymdrechion i beidio lambastio’r Brexit sy’n ein hwynebu. 

Newidiodd Erasmus drywydd fy mywyd i. Treuliais flwyddyn hudolus yn gweithio i dŷ cyhoeddi rhyngwladol yn ninas Madrid, profiad a’m gwnaeth yn berson mwy goddefgar ac agored, ac a agorodd ddrysau proffesiynol di-ri.

Dywed llywodraeth Boris Johnson nad ydi’r cynllun yn rhoi gwerth am arian. Buddsoddiad economaidd, nid cost, yw rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc ddawnus anelu’n uwch a datblygu’n ddinasyddion byd-eang, a hunan-gosb yw gosod ffiniau ar orwelion y genhedlaeth nesaf. Mae her a hanner yn wynebu’r llywodraeth wrth ddatblygu rhaglen a all gystadlu ag Erasmus+, sydd heddiw’n rhwydwaith o dros 100,000 o sefydliadau ac yn cefnogi dros 900,000 o bobl i astudio, gweithio neu wirfoddoli bob blwyddyn.

Bydd y cytundeb yn siom i’r rheini sy’n gobeithio cau pen y mwdwl ar Brexit unwaith ac am byth. Mae’r ddogfen yn frith o gyfeiriadau at gyfnodau pontio pellach, yn cynnwys pum mlynedd a hanner i bysgotwyr Ewropeaidd dorri 25% o’u cwota pysgota. Na, tydi’r frwydr flêr dros fecryll a phenwaig ddim eto ar ben. Mae yma hefyd fylchau sylweddol sy’n mynnu sylw pellach. Mae’r trafod ar lif data a chydweithio ar faterion diogelwch, er enghraifft, eisoes wedi ailafael ym Mrwsel.

Mae yma botensial helaeth i agor hen glwyfau. Un o’r meini tramgwydd yn y trafodaethau fu awydd y Deyrnas Unedig i dorri ei chŵys ddeddfwriaethol ei hun fel gwlad ‘sofran’, gan ddeffro pryderon ym Mrwsel am Singapore-on-Thames a fyddai’n rhoi mantais gystadleuol annheg i fusnesau Prydeinig. Os bydd y naill ochr yn deddfwriaethu mewn ffordd sy’n niweidio’r llall, megis drwy ostwng safonau amgylcheddol neu gynnig cymorthdaliadau rhy hael i fusnesau, bydd modd ymateb drwy gyflwyno trethi ar fasnach, gan agor y bocs Pandora unwaith eto. 

Mae Brexit wedi tanio rhyfel diwylliannol sydd â’i wreiddiau nid yn unig yn nadrithiad pobl â’r UE, ond yn ddyfnach yn y seici Prydeinig. Effaith hyn fydd megino fflamau ymgyrch annibyniaeth yr Alban, sydd bellach yn wystl i Brexit y pleidleisiodd 62% o’i phoblogaeth yn ei erbyn. Heb os, bydd yr UE yn ymatal rhag ymyrryd yn gyhoeddus ym mrwydr yr Albanwyr dros bleidlais ar annibyniaeth, yn union fel yn achos Catalwnia. Ond tra mae cenedlaetholdeb y Catalwniaid yn tanseilio undod a sefydlogrwydd Ewropeaidd, mae brwydr aelod amharod o Deyrnas Unedig sydd wedi cefnu ar yr Undeb yn debyg o ennyn tipyn mwy o gydymdeimlad ym Mrwsel.

Bydd Gogledd Iwerddon yn parhau yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd a bydd ffin dollau newydd yn ei wahanu oddi wrth wledydd Prydain, gan godi cwestiynau dilys am ymarferoldeb Iwerddon ranedig. A chyda Chytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gwneud refferendwm ar Iwerddon unedig yn gyfansoddiadol bosib, efallai’n wir fod yma sbardun gwleidyddol i uno’r Ynys Werdd. Mae penderfyniad Dulyn i ariannu rhaglen Erasmus i fyfyrwyr Gogledd Iwerddon yn dweud cyfrolau am y weledigaeth yng nghoridorau’r Oireachtas. Does dim dwywaith chwaith fod ethol Joe Biden, sydd â’i wreiddiau yn siroedd Maigh Eo a Lú, yn Arlywydd America, yn creu cyd-destun rhyngwladol ffafriol i gefnogwyr Iwerddon unedig.

Mae newidiadau mawr ar droed hefyd mewn rhanbarth fechan arall o’r DU a bleidleisiodd yn erbyn Brexit. Bydd Gibraltar yn ymuno â Schengen am y tro cyntaf yn ei hanes gan drawsnewid y Verja bondigrybwyll sy’n gwahanu’r diriogaeth o dde Sbaen a pharatoi’r tir ar gyfer ymddatod oddi wrth Brydain.

Rhaid, wrth gwrs, ystyried y cyfleoedd sydd i’r DU lewyrchu wedi Brexit. Mae yma gyfle i agor pennod newydd, arloesi mewn meysydd fel amaethyddiaeth a cheisio cyfleoedd i fasnachu ym mhedwar ban byd y tu hwnt i Ewrop. Ond mae gwedd dywyllach o lawer ar y byd sy’n ein hwynebu heddiw o’i gymharu ag yn ystod refferendwm 2016, a Brexit yn naid ryfygus i’r nos.

Rydw i’n cloi ar nodyn personol. Gwireddais freuddwyd fis Awst pan droediais dros gan milltir ar y Camino de Santiago, y bererindod enwog honno yng ngogledd Sbaen y bu sawl enaid colledig arni ar drywydd goleuni. Ces amser a llonydd i fyfyrio ar un o’r cyfnodau mwyaf tymhestlog yn ein hanes. Roedd pob cam yn gam yn nes at fy nghyrchfan sanctaidd, a’r llwybr wedi’i arwyddo’n fanwl gywir. Nid felly fu Brexit, ac nid felly mo’n cwrs ni fel cenedl. Mae troeon anodd o’n blaenau a rhaid eu hwynebu heb ein cymdogion agosaf yno i estyn llaw pan fyddwn yn baglu. 

Bydd y briw hwn yn cosi am amser i ddod.

Mared Gwyn
Chwefror 2021