Bucha, Borodyanka a byddin Rwsia

Darllen am ddim

Yn yr adroddiad arbennig hwn i BARN o Wcráin mae IOLO ap DAFYDD yn gofyn a fydd cyhuddiadau o gyflawni troseddau rhyfel yn cael eu dwyn yn erbyn Vladimir Pŵtin.

Ar strydoedd Bucha roedd rhai pobl wedi bod yn gorwedd yn gelain am ddyddiau. Yn sgil cyhoeddi delweddau lloeren fe wyddom ni tua phryd y lladdwyd ugeiniau o drigolion y dref. Ac am faint y buon nhw’n gorwedd lle saethwyd nhw. Drwy gymharu gyda mapiau o’r cyfnod cyn i filwyr Rwsia gyrraedd, mae modd amcangyfrif amserlen o’r hyn y mae llawer o Wcreiniaid yn eu hystyried yn achosion o ddienyddio mewn gwaed oer.

Dyma sylfaen eu cyhuddiadau o droseddau rhyfel, a bod hawliau dynol wedi’u hanwybyddu gan Rwsia yn Bucha, a threfi eraill. Wrth ddarlledu ddechrau Ebrill ar yr hyn a ddigwyddodd yno i sianel CGTN, a rhai gwasanaethau newyddion Cymraeg, cefais gadarnhad fod 68 o bobl leol wedi eu lladd gan ynnau mawr Rwsia, neu wedi eu saethu ar y strydoedd, a’u claddu mewn un man. Bellach credir bod tua 400 o bobl y dref wedi eu lladd yn fwriadol.

Y tu cefn i eglwys Uniongred Sant Andreas roedd offeiriad a rhai dynion lleol wedi agor bedd torfol. Symudwyd y celanedd er mwyn hylendid a pharch. Gwaith peryglus gyda’r fynwent leol yn darged i filwyr Rwsiaidd, a marwdy yr ybyty lleol yn orlawn.

Mewn llais tawel fe eglurodd y Tad Andiry Galavin wrtha i fod pobl wedi eu lladd mewn gwahanol sefyllfaoedd yn ystod mis Mawrth. ‘Roedd Rwsiaid yn saethu pobl am gerdded ar y strydoedd.’ Doedd dim emosiwn bron yn ei wyneb na’i lais, hyd nes iddo ddweud, ‘Roedd y dref yn frith o gyrff. Roeddwn i’n gallu cerdded a gweld pobl wedi marw ym mhobman. Nid damwain oedd hyn ond llofruddio bwriadol.’

Ar lan y bedd dros dro, roedd yn anodd amgyffred faint o bobl a osodwyd ynddo gyda dim ond blancedi a thywod i’w gorchuddio. Yn y dyddiau olaf cyn i’r Rwsiaid gilio, rhoddwyd rhagor o gyrff mewn bagiau plastig du ar ben y bobl a oedd yno’n barod.

Roedd nifer o newyddiadurwyr yno’n gwirio ffeithiau’r un pryd â’n criw ni. Daeth rhagor pan gyrhaeddodd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy. Edrychai’n ddifrifol. Bron yn ddagreuol. Y noson honno, soniodd yn ei neges fideo nosweithiol fod hil-laddiad yn cael ei weithredu yn erbyn Wcreiniaid. Roedd yn beio Vladimir Pŵtin.

Ond gwrthod cyhuddiadau o ymosod ar bobl ddiamddiffyn y mae arweinwyr Rwsia. Ers y prynhawn hwnnw, mae’r gwadu wedi troi’n gyhuddiadau fod Wcráin wedi ffugio marwolaethau pobl.

Os am brofi bod troseddau rhyfel wedi digwydd bydd angen i awdurdodau Wcráin gofnodi a chadw pob manylyn o’r bedd yn Bucha, a beddau answyddogol eraill. Maes o law gall fod yn dystiolaeth ar gyfer tribiwnlys rhyngwladol newydd i ymchwilio i honiadau o droseddu yn ystod rhyfel Rwsia ag Wcráin.

Mae Mr Zelenskyy eisoes wedi galw am sefydlu llys barn tebyg i Nuremberg wedi’r Ail Ryfel Byd, mewn araith i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Dyma gorff y mae Rwsia yn un o’r pum aelod parhaol ohono. Go brin y bydd y Kremlin, na nifer o wledydd eraill, yn cytuno.

Yn yr un araith, haerodd yr arlywydd fod o leiaf 300 o bobl gyffredin wedi eu poenydio a’u lladd yn Bucha gan filwyr Rwsia. Cafodd y rhan fwyaf eu darganfod yn y dyddiau wedi i Rwsia adael.

Mewn stryd lychlyd ar gyrion Bucha fe soniodd Olga Antonova, sy’n bedwar ugain oed, sut yr oedd milwyr Rwsia wedi saethu pobl am gerdded ar y stryd ger ei chartref.
‘Roedd un dyn (ei chymydog) yn byw fan acw, ac mi ddywedodd o wrthyn nhw: ‘Rwsiad ydw i, o Tatarin. Dyma ’mhasbort i’. Glywais i’r milwyr yn gweiddi, ‘Aros! Aros!,’ ac fe saethon nhw fo’n farw. Mi lusgwyd o gerfydd ei goesau a’i adael ar ochr fan hyn [drws nesaf i gartref Olga]. Ar ôl wythnos, fe gladdon ni o.’

Dangosodd imi’r pentwr pridd ger sied y cŵn yn yr ardd gefn. Cyfarthai’r ddau gi yn ddi-baid. Edrychodd Olga arnyn nhw a dechrau wylo.

Yn ôl yn y dref, ger blociau o fflatiau deg llawr, fe gwrddais â Tymur Savenkov. Llanc, a oedd yn fyfyriwr hyd rai misoedd yn ôl. Doedd o ddim wedi golchi na newid ei ddillad ers wythnosau, a barnu o’r olwg oedd arno. Roedd yn awyddus i siarad, a’i Saesneg yn dda.

Dywedodd nad oedd wedi crwydro’n rhy bell oddi wrth ei fam ers dros fis, a bod tua dwsin o drigolion lleol wedi aros yn yr ardal a cheisio cynorthwyo’i gilydd. Soniodd am y gwahanol genhedloedd oedd ym myddin Rwsia. Y rhai i’w hosgoi oedd milwyr Chechnya a rhanbarth Buryat yn Siberia. ‘Maen nhw’n greulon iawn,’ meddai.

Eglurodd fel roedd y milwyr wedi archwilio a chraffu ar gardiau adnabod pawb. Eraill yn dwyn gemwaith, dillad a hyd yn oed offer fel setiau teledu. Roedden nhw’n ofalus meddai, yn chwilio am arfau, dillad milwrol a thatŵs allai ddangos pwy oedd yn aelod o fyddin Wcráin, neu’r milisia lleol, neu bwy allai fod â daliadau gwleidyddol adain dde. ‘Fe archwilion nhw bob twll a chornel, pob person oedd yn byw yma, er mwyn mynd ag arfau a dal Natsïaid – fel maen nhw’n eu galw nhw. Achos fe ddywedon nhw fod llawer o Natsis yma… ond wnaethon nhw ddim canfod neb.’

Ddeuddydd wedyn roeddwn i a’r criw yn nhref Borodyanka tuag awr i’r gogledd o Bucha. Cawsom ein hebrwng gan bedwar milwr o fyddin diriogaethol Wcráin. Dynion canol oed oedd wedi gwirfoddoli i amddiffyn eu mamwlad. Ffotograffydd papur newydd yn Kyiv oedd fy ‘fficsar’ lleol, newyddiadurwr a oedd wedi anfon ei wraig a’i blant i’r Almaen.

Fe aethom heibio tanciau a cherbydau Rwsia oedd wedi eu gadael, rhai wedi’u llosgi. Ac fe welon ni gerbydau pobl leol wedi eu gadael ar ganol ffyrdd gweigion. Lada, Citroën, Mercedes a BMW gyda’u drysau ar agor a’u ffenestri yn llawn tyllau. Ambell gar wedi ei wasgu’n fflat ar ôl i danc yrru drosto. Weithiau roedd gweddillion pobl yn y cerbydau. Dro arall roedd cyrff milwyr Rwsia yn gorwedd ger eu tanciau.

Bu troseddu o fath gwahanol yn Borodyanka. Yno roedd adeiladau o gyfnod y Sofietiaid wedi eu bomio gan awyrennau rhyfel, meddai pobl leol wrtha i.

Mewn tref fymryn yn fwy poblog na Chaernarfon roedd deg bloc o fflatiau wedi eu targedu. Yn ôl un amcangyfrif, roedd tua 200 o bobl leol ‘ar goll’. Dywedodd maer y dref fod 400 ‘wedi diflannu’. Tra oeddem yn ffilmio, roedd swyddogion y gwasanaethau brys yn dechrau symud tunelli o rwbel wrth chwilio am bobl oedd yn y seleri, yn ceisio cysgodi rhag bomiau awyrennau rhyfel Rwsia rhwng 27 Chwefror a 5 Mawrth. Doedd prin neb yn credu fod unrhyw un ar ôl yn fyw.

Ar brif stryd Borodyanka roedd tri bloc deg-llawr wedi eu llosgi neu eu dymchwel yn y bomio. Siaradais gyda Dmytro Sadofievi, a ddywedodd iddo wylio awyren ryfel yn cylchu’r dref – cyn iddo sylweddoli mai ei gartref o a’i gymdogion oedd y targed.
Ar ôl ffoi o’i fflat, ffilmiodd yr adeilad yn wenfflam ar ei ffôn. Tystiolaeth yr oedd yn barod i’w rhannu â ni.

Gwelais olion brwydro yn Buzova, Berezivka, Dmytrivka a Makariv, trefi sydd y naill ochr i draffordd sydd rhwng Kyiv a gorllewin Wcráin. Yma hefyd mae cyhuddiadau fod pobl gyffredin wedi eu lladd yn fwriadol.

Yn ôl asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig mae bron deuddeg miliwn wedi dianc rhag y brwydro. Mae dros saith miliwn yn ffoaduriaid yn eu gwlad eu hunain, a phedair miliwn a hanner wedi ffoi i wledydd cyfagos.

Mae creithiau dwfn yn Borodyanka a Bucha. Gyda chyhuddiadau chwerw o droseddau rhyfel, mae casglu tystiolaeth yn parhau er mwyn profi faint o bobl gyffredin sydd wedi eu lladd.

Yn y cyfamser, mae dyfodol Wcráin ei hun yn dal i fod yn y fantol.

Iolo ap Dafydd
Mai 2022