Camgymeriad mawr Gweinidog y Gymraeg

Darllen am ddim

Fel llawer o rai eraill, roeddwn yn siomedig iawn o ddeall bod Gweinidog yr Iaith Gymraeg yn gollwng cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth newydd i ategu ein huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

Mae’r gweinidog yn dadlau y gellir gwneud llawer heb ddeddfwriaeth. Mae hi’n iawn. Gellir gwneud llawer. Ac, yn sicr, fel Comisiynydd Iaith newydd bydd Aled Roberts yn chwa o awyr iach mewn swydd nad yw wedi llwyddo i wneud llawer mwy hyd yma na chynyddu biwrocratiaeth ddiflas ar gyfer ymgyrchwyr, ond sydd bron yn gwbl amherthnasol i’r gweddill ohonom sy’n ceisio defnyddio’r iaith yn ein bywydau bob dydd.

Heb y ddeddfwriaeth hon, mae’n anodd gweld sut y gellir cyflawni targed y miliwn mewn unrhyw fodd. Nid yw’r cyfle i roi polisi iaith ar sylfeini newydd wedi ei golli. Ond mae wedi cael ei daflu o’r neilltu. Ac nid ymddengys i’r gweinidog ddeall hyn. Nid ymddengys ei bod yn llawn sylweddoli sut y bydd y camgymeriad hwn yn effeithio ar ei pholisi hi ei hun.

Pan gefais fy herio ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth newydd gan Vaughan Roderick ar Raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedwyd bod gan Tesco arwyddion dwyieithog yn eu siopau. Mae’n wir. Mae ganddynt lot fawr o arwyddion o’r fath. Ond nid oes ganddynt unrhyw elfen o ddwyieithrwydd ar yr app lle mae llawer ohonom yn gwneud ein siopa. Nid oes ychwaith fanc â phresenoldeb dwyieithog ar-lein, nac unrhyw ffordd i archebu teithiau, nac app siopa ar-lein nac unrhyw app gwasanaethau y tu allan i’r sector cyhoeddus. Ac ni fydd bellach unrhyw ddeddfwriaeth yn sail i ddull statudol newydd o gyflwyno gwasanaethau sy’n cynyddol symud ar-lein. Yn fyr, mae gennym ddeddfwriaeth yr 20g. sy’n ceisio delio â heriau’r 21g. Roedd yn annigonol pan gafodd ei derbyn, a heddiw mae’n anobeithiol o amherthnasol i’n hanghenion yn y dyfodol.

Mae’r gweinidog yn dadlau nad oes fawr o gefnogaeth i newid ar lawr gwlad. Mae hi’n anghywir yn hyn o beth. Dylai hi fod wedi treulio mwy o amser yn gwrando ar gyfraniadau deallus Dyfodol i’r Iaith i’r drafodaeth a llai o amser yn poeni am y nonsens o du Cymdeithas yr Iaith. Rwy’n synhwyro bod yna dir canol yn gadarn o blaid newid ar draws y wlad. Ond nid yw’r bobl hyn yn meddiannu swyddfeydd nac yn achosi trafferthion i weinidogion. Ac felly y wers go iawn yma i lawer o ymgyrchwyr yw bod cael y llais mwyaf croch yn bwysicach na’r ddadl resymegol. Ac nid dyna le da i unrhyw lywodraeth fod.

Ond mae siomedigaethau ehangach, dyfnach yma hefyd, rhai sy’n ymwneud mwy â strategaeth. Roedd y Comisiwn arfaethedig yn mynd i symud ymyrraeth gan y llywodraeth o’r hyrwyddo llugoer a’r rheoleiddio trwm presennol i gynllunio iaith newydd ac iddo bwyslais llawer mwy dwys ar ddefnydd iaith. Yr uchelgais oedd creu sefydliad o’r radd flaenaf a rhyngwladol ei fri a fyddai’n dwyn ynghyd y màs critigol o dalent ac arbenigedd i arwain cynllunio ieithyddol i lefel newydd ehangach a mwy soffistigedig. Bydd y technolegau newydd sydd eisoes wedi newid ein bywydau yn parhau i esblygu ac mae’n rhaid i’r Gymraeg ddal i fyny gyda hynny, ond mae angen inni wreiddio'r newidiadau yn amgylchedd a sefyllfa gymdeithasol ein gwlad.

Felly does dim estyniad newydd o’r gyfraith i gynnwys busnesau preifat, dim pwerdy iaith newydd a dim symleiddio ar ein hawliau newydd i’w gwneud yn haws i’w gorfodi. Yn hytrach na hyn, bydd gennym fwy o ddadleuon diddiwedd dros Goeden Nadolig ddwyieithog ac a ddylid cyfieithu nodiadau ‘post-it’ wrth wrando ar areithiau difrifol sy’n addo’r byd ac yn cyflawni dim o werth.

Alun Davies
Mawrth 2019