6 Chwefror 1918: dyddiad pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn caniatáu i ddynion dros 21 oed a menywod dros 30 a oedd yn berchen eiddo bleidleisio; a dyddiad ddylai fod wedi ei serio ar galon pob menyw yn y Deyrnas Gyfunol. Bu hanes yr ymgyrchu am y bleidlais yn un o faterion mawr mis Chwefror a chaiff llu o ddigwyddiadau eu trefnu i ddathlu’r canmlwyddiant gydol y flwyddyn. Eto, cam yn unig oedd hwn wedi ymgyrchu hirfaith ers y 1860au ac ni chafodd menywod bleidlais gyfartal â dynion tan 1928.
Hyd yn hyn, ymgyrchoedd y swffragetiaid, dan arweiniad y Pankhurstiaid, sydd wedi cipio’r penawdau. Does ryfedd, oherwydd cyhoeddusrwydd oedd eu nod – y nhw fu’n llosgi eiddo, yn torri ffenestri ac yn ymosod ar wleidyddion, gyda’u slogan pwerus ‘gweithredoedd nid geiriau’. Mae’n anodd peidio ag edmygu eu dewrder. Cofiwn am aberth y rhai a orfodwyd i fwyta yn y carchardai ar ôl mynd ar streic newyn. Defnyddiwyd trais erchyll yn eu herbyn – cafodd eu cegau a’u trwynau eu rhwygo â chyllyll a phan fethai hynny bwydwyd rhai drwy’r rectwm. Mae’n hanes arwrol. Eto, ymhlith Cymry Cymraeg, ychydig o sôn sydd am y swffragetiaid, heblaw pan ddangosodd y dorf Gymreig ei hatgasedd tuag atynt am darfu ar Eisteddfodau Cenedlaethol 1909 ac 1912, a phan ymosodwyd ar Lloyd George, ‘eilun y genedl’, yn ei gysegr yn Llanystumdwy yn 1912.
Roedd llawer mwy o gefnogaeth yng Nghymru i’r swffragyddion (suffragists), dan arweiniad dygn Millicent Fawcett. Gweithredent hwy yn gyfansoddiadol drwy lythyru, deisebu a lobïo. Erbyn 1913 cangen Caerdydd oedd yr ail gangen fwyaf ym Mhrydain ac roedd yr ymgyrchu yn adleisio dulliau’r mudiad dirwest a fu mor boblogaidd ymhlith Cymry Cymraeg. Diau fod angen y ddau fudiad, y swffragetiaid a’r swffragyddion (yn ogystal â sawl mudiad hollt arall); yr un oedd y nod. Braf deall y bydd cerfluniau o’r ddwy brif arweinydd, Fawcett a Pankhurst, yn cael eu dadorchuddio yn Llundain a Manceinion eleni.
Yna, torrodd y rhyfel, stopiodd yr ymgyrchu a mynnodd menywod yr hawl i hyrwyddo’r ymdrech ryfel, fel nyrsys, gweithwyr ffatrïoedd arfau ac aelodau o’r lluoedd arfog. Ai am yr aberth hwn, felly, y caniatawyd iddynt y bleidlais yn 1918? Mae’r ddadl yn parhau ynghylch gwahanol ragoriaethau dulliau cyfansoddiadol, dulliau chwyldro a gwasanaethu gwlad.
Un peth sy’n sicr. Ni siglwyd seiliau San Steffan gan lwyddiannau menywod yn etholiadau’r degawdau wedyn. Ac mae record Cymru yn warthus. Dim ond pedair menyw a gynrychiolodd Gymru yn San Steffan cyn 1997, sef Megan Lloyd George, Eirene White, Dorothy Rees ac Ann Clwyd. Ar y cyfan dim ond mewn seddau anenilladwy y caent eu dewis yn ymgeiswyr. Torrodd gwawr newydd yn etholiad Cynulliad Cymru yn 2003, er hynny, gyda’r ganran uchaf erioed (50%) o fenywod mewn unrhyw senedd etholedig yn y byd.
Mae camau breision wedi’u cymryd ers 1918 ond, fel y dengys yr achosion o aflonyddu rhywiol, y diffyg tegwch mewn cyflogau ac agweddau ar y cyfryngau cymdeithasol, mae ffordd bell i’w throedio o hyd.
Eleni, felly, dylem gofio ymgyrchu’r swffragetiaid a’r swffragyddion yng Nghymru – Millicent MacKenzie, Emily Phipps, Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), Charlotte Price White ymhlith eraill – a chaniatáu i’w hanesion ein hysbrydoli i barhau i weithio dros gyfiawnder i fenywod yma a ledled y byd. Nid mater y mis yw hwn ond mater cenedlaethau a fu ac sydd eto i ddod.
Catrin Stevens, cadeirydd Archif Menywod Cymru.