Y Nadolig hwn bydd miliynau yn teithio’r byd i fod gyda’u hanwyliaid. Ond bydd rhyw 2,800 o Americanwyr yn treulio Gŵyl y Geni yn gaeth yn eu celloedd ar Res Angau. Mae’r awdur yn rhannu ei brofiad o ohebu gyda dau o’r miloedd sy’n aros i gael eu dienyddio.
Anaml y dyddiau hyn y clywir neb yn dweud ei fod yn gwrthod gwneud rhywbeth ‘dros ei grogi’. Nid rhyfedd mo hynny chwaith. Ni chrogwyd neb yng Nghymru ers y 1950au, ac roedd dienyddiadau yn ddigon prin cyn hynny. Mae’r broses gyfan yn ddieithr i ni. Ond gwahanol yw’r sefyllfa'r ochr draw i Fôr Iwerydd. Ar hyn o bryd mae yn agos at dair mil o bobl yn aros i gael eu lladd gan yr awdurdodau mewn carchardai yn yr Unol Daleithiau. Nid bod neb yn cwrdd â’i ddiwedd ar ben rhaff erbyn hyn. Mae’r dechnoleg yn llawer mwy soffistigedig heddiw – hyd yn oed os nad yw fymryn yn fwy gwaraidd.
Rhwng 1995 a 2004 fe gefais i gyfle i ddod i adnabod dau o drigolion y ddwy Res Angau fwyaf yn y wlad, y naill yn Fflorida a’r llall yng Nghaliffornia. Daeth fy nghysylltiad â’r ddau ddyn trwy’r elusen Lifelines, a sefydlwyd yn Llundain yn 1987 gan y Crynwr Jan Arriens. Un amcan syml sydd gan Lifelines. Nid yw’n cynnig cymorth cyfreithiol. Ni fydd yn trefnu apeliadau am drugaredd at lywodraethwr y taleithiau perthnasol. Cyfeillgarwch a chwmnïaeth trwy’r post yw’r hyn sydd ar gael: gwasanaeth pen pals hen ffasiwn.
Dros gyfnod o ryw naw mlynedd, derbyniais 86 o lythyron oddi wrth fy nau gyfaill, ac yn eu plith naw cerdyn Nadolig. Ysgrifennais innau’n ôl atynt gyda nifer cyffelyb o lythyron a chardiau. Gan nad oedd gennyf bryd hynny fynediad rhwydd i’r we, ni chefais wybod tan flynyddoedd wedyn beth oedd eu troseddau. Rwy’n ddiolchgar am hynny, ac yn edifar fy mod, yn y man, wedi ildio i’r demtasiwn i ymchwilio i’w hanes. Nid fy mod i am fychanu’r hyn a wnaethant. Eithr nid eu dal i gyfrif am eu beiau oedd fy ngorchwyl i. Ar yr ochr orau, gan fod pob dim amdanynt bellach ar gael ar-lein, gwn eu bod nhw ill dau yn dal yn fyw. Ond ar Res Angau y mae’r ddau hyd heddiw.
O bori eto trwy’r pentwr o lythyron, yr hyn sy’n fy nharo yw mor normal yw’r cynnwys. Maen nhw’n llawn sôn am chwaraeon (y ddau fath o bêl-droed yn bennaf) a bandiau pop (yn benodol am faint y parhâi’r Spice Girls wedi i Gerry Halliwell ymadael). Bu sawl trafodaeth eithaf manwl ynghylch pa mor sbeisiog y gall bwyd fod cyn croesi’r ffin rhwng blasus a phoenus (a pha gwrw sydd orau ar gyfer diffodd y fflamau wedyn). Roedd ymholiadau caredig ynghylch cyflwr y ben-glin a frifais wrth chwarae rygbi yn y parc, a geiriau o gysur ynghylch fy nhrafferthion priodasol ar y pryd. (Rwy’n rhyw gredu i mi weld yr ohebiaeth fel rhyw fath o gyffesgell, yn fodd i mi fwrw fy mol yn ddiogel wrth rywrai a oedd yn ddigon pell i ffwrdd.)
Ond ambell waith, codai rhywbeth i’m hatgoffa nad gohebiaeth arferol mo hon. Cwynai fy nghyfaill yn Fflorida yn fynych nad oedd fy llythyron yn ei gyrraedd yn brydlon, neu eu bod yn dod fesul swp ar ôl ysbaid hir. Roedd drwgdybiaeth gyffredin ymhlith y carcharorion fod y swyddogion yn gadael i bost Rhes Angau bentyrru’n fwriadol. Ac weithiau, roedd eu geiriau yn fy neffro’n ddisymwth yn union fel pe bai llond bwced o ddŵr oer wedi cael ei thaflu dros fy wyneb. Fel yr adeg pan glywais gan un o’m llythyrwyr, wedi distawrwydd hir, nad oedd wedi ysgrifennu ataf ers misoedd am nad oedd ganddo mo’r nerth, wrth weld pedwar dyn yn mynd i’r gadair drydan yn fuan ar ôl ei gilydd. Mae’n siŵr ei fod yn gwybod ar y pryd (er na chefais i wybod tan ychydig fisoedd yn ôl) fod swyddogion y carchar wedi gwneud cawlach o un o’r pedwar dienyddiad, gan achosi cryn ddioddefaint i’r carcharor.
Mae’r dwsinau o ddienyddiadau blêr, gwaedlyd a phoenus yn un o’r prif resymau dros yr anesmwythdra cynyddol yn yr Unol Daleithiau'r dyddiau hyn ynghylch y gosb eithaf, hyd yn oed ymhlith ei chefnogwyr. Er dyfal chwilio ac arbrofi, ni ddyfeisiwyd hyd yn hyn ddull cyflym a di-boen i ddiweddu einioes dyn. Ystyrid y gadair drydan a’r chwistrelliad marwol yn eu tro yn ffyrdd effeithlon a glân o ladd. Ond fe’u profwyd i fod ymhlith rhai o’r dulliau creulonaf oll.
Hyd yn oed pe bai modd dienyddio’n drugarog, mae’n rhaid gofyn pa hawl sydd gan y wladwriaeth i ladd, a pha mor llesol ydyw i’r wladwriaeth ei hunan feddu ar y fath hawl? Yn 1931, ac yntau’n blismon ifanc yng ngwasanaeth Ymerodraeth Prydain yn Byrma, bu’r llenor George Orwell yn dyst i grogi dyn lleol. Wrth i’r carcharor gerdded mewn cyffion tuag at y crocbren, camodd yn dwt heibio i bwll bach o ddŵr ar y llawr, rhag ofn baeddu ei draed. Ac yn yr eiliad honno, sylweddolodd Orwell ‘beth yw dinistrio dyn iach, ymwybodol’. Dyna, yn ei dyb ef, oedd ‘anghyfiawnder anhraethol’ y gosb eithaf: ‘Nid oedd y dyn hwn yn marw, roedd e’n fyw yn union fel roeddem ninnau’n fyw’, nes i lywodraeth y wlad benderfynu dod â’i fywyd i ben.
Er hynny, gellid dadlau nad y dienyddio yw’r peth casaf am Res Angau. Efallai mai byw mor hir dan amodau mor ofnadwy sydd waethaf oll. O’m dau lythyrwr i, roedd y naill wedi’i ddedfrydu yn 1994 a’r llall yn 1989. Maen nhw, felly, dan glo ers 24 a 29 mlynedd erbyn hyn. Un rheswm y gall carcharor fod mor hir ar Res Angau yw bod llawer llai o ddienyddiadau erbyn hyn nag a oedd o’r blaen. Rhaid bod yn ddiolchgar am hynny, ond nid yw’r lleihad wedi arwain at garcharorion condemniedig yn cael eu rhyddhau neu’u hailddedfrydu. Yn hytrach, maen nhw’n aros yng nghell y grog, weithiau am ddegawdau. Ac mae carchariad mor hir, mewn amgylchiadau mor annynol, yn gallu bod yn beryg bywyd ynddo’i hunan.
Os edrychwn ar ystadegau swyddogol Talaith Califfornia er enghraifft, bu farw 128 o garcharorion ar Res Angau rhwng 1978 a 2018. Ond cwta 15 a gafodd eu dienyddio. Bu farw pedwar trwy gymryd cyffuriau (nid yw’n glir o ba fath) yn y carchar. Roedd 25 arall yn ddigon diobaith i’w lladd eu hunain. Ond y dosbarth mwyaf oll yw’r 78 a fu farw o ‘achosion naturiol’. Term sy’n dynodi henaint yw hwnnw fel arfer, ond o’r pum dyn a fu farw o ‘achosion naturiol’ ar Res Angau Califfornia’r llynedd roedd tri o dan oedran pensiwn, a’r ifancaf yn 49 oed. Mae’n weddol eglur fod byw’n barhaol yng nglyn cysgod angau yn gallu tynnu blynyddoedd oddi ar fywyd dyn.
Mae’n ddrwg gennyf ddweud fod fy ngohebiaeth â’r ddau ddyn wedi dod i ben yn y diwedd am wahanol resymau. Ond er nad ydym mwyach yn pen pals trawsiwerydd, y Nadolig hwn a phob dydd arall o’r flwyddyn, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i lynu wrth orchymyn awdur anhysbys y Llythyr at yr Hebreaid: ‘Cofiwch y carcharorion’.