Cofio John Jenkins: ‘gwrol ryfelwr’

Darllen am ddim

Oherwydd nad efelychodd Gwynfor Evans yn Nhryweryn wrthdystiad Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine ym Mhenyberth yn 1936, Pleidiwr llugoer fûm i gydol y 1960au. Ond ryw noswaith ym mis Medi 1967 ildiais i berswâd cyfaill a daerai fod ‘cangen Wrecsam wedi newid... Mae gynnon ni ysgrifennydd newydd effeithiol iawn. Di-Gymraeg, ond rhaid i ni gael y rheini.’

Aeth y cyfarfod rhagddo yn ddidramgwydd tan i ni gyrraedd Unrhyw Fater Arall a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd – dyn canol oed ifanc a Hwntw huawdl, cymedrol o ran corffolaeth a thaldra: ‘I’m sure that you’re all appalled, as I was, by the explosion perpetrated at Llanrhaeadr-ym-Mochnant a couple of nights ago, by people claiming to be acting in the interests of the people of Wales. They are however undermining Plaid Cymru campaigns for a free, prosperous and democratic Wales, and I propose that we send a letter to the Daily Post and the Western Mail disassociating Plaid Cymru from these extremists.’

‘Pwy ydi hwn?’ holais fy ffrind, ‘be ydi o, Tori? Dyn busnes?’
     ‘Mae o yn r’Armi. Yng Nghaer,’ meddai.
‘Mae Plaid Cymru wedi dirywio fwy nag y meddylis i,’ meddwn wrtho. ‘Mi a’ i am sgwrs efo’r brawd.’
     Cawsom sgwrs y noson honno ac un arall ymhen y mis, a dyna sut y deuthum i a John Jenkins yn ffrindiau.
‘Isn’t being Branch Secretary of Plaid Cymru rather risky?’ holais.
     ‘It’s the perfect cover,’ atebodd.

Bob hyn a hyn, byddwn yn cwrdd â John mewn archfarchnad ar gyrion tref Wrecsam i drafod cwrs y byd a’r achos cenedlaethol. Ar un achlysur wedi’r Arwisgo, awgrymais y dylai gymryd hoe cyn cael ei ddal. Atebodd, ‘I can’t. It’s like a strong addictive drug.’

Gwyddai nifer o genedlaetholwyr Wrecsam am weithgareddau John – yn athrawon a phrifathrawon. Beth bynnag a ddywedir amdanom ni’r Cymry, rydym yn rhai da am gadw cyfrinachau.

Yn ystod fy nghyfnod fel cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mynnai rhai ‘cenedlaetholwyr eithafol’ ein bod yn cefnu ar yr egwyddor ddi-drais ac yn cyd-ymgyrchu â mudiadau fel yr FWA, y Patriotic Front a’r Anti-Sais League. Petai’r garfan honno wedi llwyddo, dyna fuasai diwedd y Gymdeithas. Pan soniais wrth John am y broblem, gorchmynnodd yr ‘eithafwyr’ i roi’r gorau i ymyrryd yng ngweithgareddau Cymdeithas yr Iaith. Ac felly, fe’i harbedwyd.

     *          *          *

Y tro olaf i ni gwrdd oedd yn angladd Eileen Beasley yn 2012 yn Henllan Amgoed. Fel hithau, cadwodd John ei ffydd wlatgar tan y diwedd un, ac fel y dywed ym mywgraffiad Dr Wyn Thomas John Jenkins: The Reluctant Revolutionary? (Y Lolfa, 2019):

How many people have come forward since my jail term with information about anything? None – and that is the best pat on the back that I could ever have got from anyone. But I’m sure of one thing: because of what we did in the Sixties, they (Whitehall) will never presuppose us again and implement something without first considering our reaction to it.

I Gomiwnydd gwlatgar, cysyniad gwrthun yw ‘arwr cenedlaethol’, tra mae meddwl am John Jenkins fel Prif Weinidog neu Arlywydd Cymru ddemocrataidd yn ffantasi hyfryd. Nid yw mudandod Plaid Cymru, y wasg a’r cyfryngau Cymraeg a Chymreig ynglŷn â marwolaeth John, ar 17 Rhagfyr, yn fy synnu, gan mai cenedlaetholdeb y cae rygbi yw ideoleg ddominyddol y sefydliadau hynny. Roedd gan fy nghyfaill ragor o gymwysterau na’r rhan fwyaf o wleidyddion Caerdydd a San Steffan: deallusrwydd miniog, aelodaeth o werin weithiol y de, byd-olwg wrth-imperialaidd, gwroldeb, ac yn anad dim, parodrwydd i aberthu ei les ei hun er budd i eraill. Gresyn, oherwydd y pellter rhwng ein cartrefi, na chefais gyfle i ddweud hyn oll wrtho cyn iddo ein gadael.

Gareth Miles
Mawrth 2021