Covid yn grymuso datganoli – ac yn hwb i annibyniaeth?

Darllen am ddim

Yn 2014 dangosodd pôl piniwn gan ICM ar ran y BBC mai dim ond 48% o boblogaeth Cymru a ddeallai mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ac mor ddiweddar â mis Chwefror eleni roedd Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur yn ymgyrchu yn erbyn cau adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedden nhw’n gwneud hynny gan wybod bod y cyhoedd mor anwybodus a dryslyd fel na fyddai’r mwyafrif yn sylweddoli bod Llafur, i bob pwrpas, yn ymgyrchu yn erbyn eu plaid eu hunain.

Byddai’n ddiddorol pe byddai ICM a’r BBC yn cynnal pôl piniwn o’r boblogaeth eto heddiw er mwyn holi faint fyddai’n gwybod pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth iechyd. Ymddengys yn hynod annhebygol y byddai’r mwyafrif bellach yn anwybodus.

Dechrau digon ansicr fu i ymdrechion Llywodraeth Cymru i hysbysu pobol mai nhw fyddai’n rheoli ymateb y genedl i Covid-19. Cafwyd erthygl ganol mis Mawrth ar wefan Nation.Cymru, yr ydw i’n olygydd arni, gan y lobïwr Daran Hill yn beirniadu’r ymdrechion cychwynnol yn hallt. Cefais neges braidd yn biwis yn ymateb gan unigolyn o fewn y llywodraeth yn dweud, ‘Does gen ti ddim syniad pa mor galed ydan ni’n gweithio ar hyn o bryd.’

Ond efallai, petaent heb adael i ugain mlynedd o ddryswch bwriadol ddatblygu ynglŷn â phwy oedd yn rhedeg y gwasanaeth iechyd, fydden nhw ddim wedi gorfod gweithio mor galed? Efallai, pe na baen nhw gwta fis ynghynt wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn eu gwasanaeth iechyd eu hunain, y byddai pobol eisoes wedi deall y pethau sylfaenol yma?

Mae’r ffaith eu bod wedi llwyddo i hysbysu’r cyhoedd pwy oedd â’r grym i ymateb i Covid-19 mor gyflym yn brawf o’u gwaith caled nhw a hefyd o shifft aruthrol gan yr ychydig gyfryngau sydd gyda ni yma yng Nghymru. Ond dydw i ddim yn siŵr a fyddai hynny wedi bod yn ddigon ynddo’i hunan. Wedi’r cyfan, ychydig sy’n cael eu newyddion o ffynonellau Cymreig gan amlaf.

Yr hyn sydd wedi gwneud gwaith Mark Drakeford yn llawer haws yw ymateb y sefydliad Prydeinig a’r wasg Brydeinig i barodrwydd Cymru i dorri ei chŵys ei hun ar Covid-19. Bob tro y mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi nad yw am lynu at gynlluniau San Steffan, mae’r sylwebwyr a’r gwleidyddion dros Glawdd Offa wedi mynd yn lloerig. Yn eironig, tynnu sylw poblogaeth Cymru a wnaeth hynny at y ffaith fod y rheolau’n wahanol yma.

Beth mae hyn oll yn ei olygu yn yr hir dymor? Wel yn gyntaf, fydd agwedd y cyhoedd at ddatganoli fyth yr un fath eto. Yn hytrach na difaterwch ac anwybodaeth rydym ni’n debygol o weld agweddau mwy pendant tuag at ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae’r cyfan eisoes wedi bod yn hwb i fudiad annibyniaeth yng Nghymru. A synnwn i ddim na fydd cynnydd bychan hefyd yn nifer y rhai sydd eisiau chwalu’r Senedd, pobl nad oedden nhw wedi llawn amgyffred cyn hyn faint o rym sydd ganddi.

Yn y byr dymor credaf y bydd y Blaid Lafur yn elwa ar ganfyddiad y cyhoedd eu bod wedi llywio’r wlad drwy gyfnod anodd. Ar ôl bod yn gyfan gwbl absennol o ymgyrch y Blaid Lafur yn ystod Etholiad Cyffredinol 2019, mae’n debyg y bydd wyneb Mark Drakeford yn pefrio o bob pamffled, poster a hysbyseb Facebook yn ystod Etholiad Senedd 2010.

Yn yr hirdymor serch hynny, nawr fod grym Llywodraeth Cymru nid yn unig yn hysbys ond efallai wedi ei orliwio rywfaint gan bandemig Covid-19, fe fydd pethau’n fwy heriol i bwy bynnag sy’n ffurfio’r llywodraeth nesaf.

Does dim modd cau ffiniau gwlad ac wedyn cymryd arnoch nad chi sy’n gyfrifol hefyd am gau’r adran ddamweiniau ac achosion brys leol.

Ifan Morgan Jones
Tachwedd 2020