Ar drothwy’r Jiwbilî dyma ddatgelu agweddau’r Cymry tuag at y frenhiniaeth.
Yr wyf wrthi ar hyn o bryd yn darllen campwaith R. Tudur Jones, Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890‑1914 – cyfrolau un a dau, cofiwch. A minnau bellach yng nghanol fy mhumdegau, rwy’n ddigon hen i fod wedi profi’r hyn oedd yn weddill o’r bywyd Anghydffurfiol traddodiadol yn y Sir Fôn wledig cyn iddo nychu’n llwyr. Serch hynny, mae’r Gymru a bortreadir gan Dr Tudur yn un gwbl, gwbl ddiarth i mi.
Nid yn unig y credoau a goleddid sy’n ddieithr – er ei bod yn anodd gorbwysleisio pa mor anodd ydi dirnad heb sôn am gydymdeimlo ag angerdd y dadleuon diwinyddol sy’n cael eu cloriannu mor ofalus rhwng y cloriau. Y gwir amdani yw bod mwy neu lai popeth yn ddieithr. Disgwyliadau bywyd. Golygon ar fywyd. Rhythmau bywyd, hyd yn oed. Heblaw am y ffaith fod yr enwau lleoedd sy’n britho’r tudalennau’n parhau’n gyfarwydd – a hefyd gyfoeth ysblennydd yr iaith a’r mynegiant – wrth ddarllen Ffydd ac Argyfwng Cenedl mae dyn yn teimlo ei fod yn darllen nid yn unig am wlad arall ond am wareiddiad cwbl wahanol yn ogystal.
Eto i gyd, roedd yna un darn yn nhrafodaeth y gyfrol gyntaf a oedd yn taro nodyn rhyfedd o gyfredol, sef ymateb y Gymru grefyddol i’r Frenhines Victoria.
Fel yr oedd John Davies, Bwlchllan, yn arfer ein hatgoffa, anaml iawn, iawn y gwelodd Victoria’n dda i ymweld â Chymru. Ond yn 1885 fe ddaeth i aros yn Llandderfel. Er mwyn nodi’r achlysur fe enwebwyd Dr David Roberts i gyflwyno anerchiad teyrngar i’w Mawrhydi ar ran gweinidogion Dinbych, Fflint a Meirion. Ond er bod Dr Roberts – Dewi Ogwen – yn delynegol-daer ei wrogaeth, fe ystyriai Michael D. Jones ei hymweliad fel ‘porthiant i’r gwaseiddiwch sydd mor gryf mewn cenhedloedd goresgynedig’.
O fewn dwy flynedd, fodd bynnag, adeg jiwbilî gyntaf Victoria, awgryma tystiolaeth Tudur Jones fod y beirniaid radical wedi tewi’n llwyr. Cyrhaeddodd y moli a’r ffoli ei benllanw ar achlysur ei marwolaeth yn 1901. Pan gyhoeddodd ei gofiant Cymraeg iddi yn yr un flwyddyn, sef Victoria: ei bywyd hardd fel gwraig, mam a brenhines, cloriannodd Griffith Ellis y dyfarniad cyffredin amdani fel a ganlyn: ‘Yn ei chymeriad a’i hanes, priodwyd yn anysgaradwy, fawredd a daioni’.
Er fy mod yn ysgrifennu cyn i Elizabeth II ddathlu ei jiwbilî ddiweddaraf hithau, erbyn i chi ddarllen hyn o eiriau rwy’n tybio y bydd pob un ohonom wedi clywed fersiynau cyfoes o Dewi Ogwen a Griffith Ellis yn traethu’n hir ac yn huawdl am ragoriaethau gor-orwyres Victoria. Hyd yn oed os ydi Cymru wedi newid yn llwyr bron ym mhob ffordd arall ers troad yr ugeinfed ganrif, mae yna Gymry sy’n parhau i fopio ar y frenhiniaeth. Efallai’n wir y byddwn wedi clywed barn ambell i Feical sy’n gweld pethau’n wahanol. Ond erys y cwestiwn: y tu hwnt i’r partïon, y gorymdeithiau rhwysgfawr a’r penawdau breision, faint yn union sy’n perthyn i’r ddwy garfan? Beth ydi hyd a lled ein teyrngarwch (neu ein ‘gwaseiddiwch’) ni’r Cymry i’r goron ac felly i brif symbol Prydeindod?
Gan obeithio y caf faddeuant am newid gêr a chywair mewn ffordd na fyddai dyn o chwaeth lenyddol sicr R. Tudur Jones fyth yn ei wneud, rwy’n falch o ddweud ein bod mewn sefyllfa i ddarparu ateb cynhwysfawr. Oherwydd yn ein harolwg diweddaraf mi ddaru tîm Arolwg Etholiad Cymru – yr arolwg mwyaf cynhwysfawr o’r farn wleidyddol yng Nghymru – benderfynu holi’n uniongyrchol am agweddau tuag y frenhiniaeth. Dyma’r atebion a gafwyd ynghyd â pheth dadansoddi.
* * *
Gofynnwyd tri chwestiwn gwahanol ynglŷn â’r mater i bob un o’r ymatebwyr. Roedd y cyntaf yn mynd at galon brenhiniaeth. Yn benodol, gofynnwyd a oedd pobl yn deisyfu brenin neu frenhines yn bennaeth ar y wladwriaeth ynteu rhywun sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol? Roedd yr ymateb yn eglur iawn (Ffig. 1). Mae mwyafrif absoliwt etholwyr Cymru (55 y cant) yn cefnogi egwyddor trefn frenhinol.
Agwedd weithredol y drefn frenhinol oedd testun yr ail gwestiwn. Yn wahanol i’r gwledydd Ewropeaidd eraill sydd wedi parhau â brenhiniaeth, ym Mhrydain mae yna adnoddau ariannol mawr iawn yn cael eu cyfeirio at deulu brenhinol estynedig. Mae’n wybyddus fod hyd yn oed y Tywysog Charles ei hun yn teimlo na ellir cyfiawnhau sefyllfa o’r fath a’i fod am docio nifer y ‘working royals’, ac arddel yr ymadrodd anfwriadol ddoniol a ddefnyddir i ddisgrifio pobl fel cefnder y frenhines, y Tywysog Richard, Dug Caerloyw – y roials proletaraidd, onide! Fel y gwelwn, mae etholwyr Cymru yn gryf iawn o’r farn fod y teulu brenhinol yn derbyn gormod o arian (Ffig. 2). Yn wir, mae bron pedair gwaith yn fwy o bobl yn cytuno â’r gosodiad fod y teulu brenhinol yn derbyn gormod o arian nag sydd o rai sy’n anghytuno. Hyd yn oed o gynnwys y rheini sydd ddim yn gwybod neu sydd ddim yn cytuno nac yn anghytuno â’r gosodiad, mae’r rheini sy’n credu bod gormod yn cael ei wario ar y frenhiniaeth yn cynrychioli mwyafrif absoliwt o etholwyr Cymru.
Yn olaf, fe holwyd am ddisgwyliadau i’r dyfodol, ac yn benodol disgwyliadau am barhad y frenhiniaeth. Fel y gwelir, hyd yn oed os oes rhai sylwebwyr (am resymau da, fe dybiaf) yn credu y gwelwn newidiadau go fawr wedi gorseddu Charles a Camilla yn frenin a brenhines, mae mwyafrif llethol yn credu y bydd y sefydliad yn parhau am o leiaf chwarter canrif a mwy. Mae’r disgwyliadau ar gyfer y dyfodol pellach yn wahanol. O geisio dyfalu sut y bydd pethau mewn canrif, mae yna fwy sy’n credu bod parhad y frenhiniaeth yn annhebygol nag sy’n credu ei fod yn debygol. Ond wrth reswm, mae dychmygu sut y bydd unrhyw beth mewn canrif yn anodd. O edrych ar y data, fy nghasgliad i, o leiaf, yw bod y mwyafrif o’n cydwladwyr yn ei chael hi’n anodd dychmygu unrhyw drefn arall ac eithrio brenhiniaeth yn bodoli yn y dyfodol rhagweladwy.
I grynhoi felly, mae’n deg dweud bod trwch etholwyr Cymru yn deisyfu ac yn disgwyl gweld y frenhiniaeth yn parhau am gyfnod eithaf estynedig, ond am leihau’r gwariant ar y sefydliad. Nid dyna ddiwedd y stori, fodd bynnag. Yn benodol, mae dadansoddi’r ymatebion i’r cwestiwn cyntaf – ynglŷn ag egwyddor brenhiniaeth – yn dadlennu gwahaniaethau diddorol o ran oed, o ran hunaniaeth genedlaethol ac o ran iaith. Ym mhob achos, maent yn wahaniaethau arwyddocaol.
O ran oed, fel y gellir disgwyl efallai, mae’r to hŷn yn bleidiol iawn, iawn i fodolaeth brenhiniaeth (Ffig. 4). Yn wir, mae lefel yr unfrydedd ymysg aelodau’r genhedlaeth hon yn ymylu ar yr annaturiol! Ond nid felly ymysg aelodau’r to iau. Ymhlith yr etholwyr ieuengaf, nid yn unig fe geir llawer mwy o ansicrwydd, ond mae’r gefnogaeth i bennaeth etholedig yn uwch na’r gefnogaeth i egwyddor brenhiniaeth. Eto, rwy’n bell o fod yn siŵr fod yna lawer o gysur i’w gynnig i weriniaethwyr hyd yn oed o ganolbwyntio’n unig ar yr ifanc. Amser a ddengys, ond fyddwn i ddim yn synnu petai llawer o’r rhain yn dod yn fwy pleidiol i’r frenhiniaeth wrth iddynt heneiddio.
O ystyried y berthynas rhwng cefnogi egwyddor brenhiniaeth a hunaniaeth genedlaethol, gwelir bod cysylltiad amlwg iawn rhwng yr ymdeimlad o Brydeindod a chefnogaeth i’r syniad o gael brenin neu frenhines yn bennaeth ar y wladwriaeth. Mewn byr eiriau, mae’r rheini sy’n Brydeinwyr pybyr – boed yn Gymry Prydeinig (pobl sy’n teimlo’n Gymreig ac yn Brydeinig) neu’n Brydeinwyr cryf yn unig – yn debygol iawn o fod yn frenhinwyr. Fodd bynnag, nid felly y mae hi ymysg eu cyd-wladwyr sy’n pleidio eu hunaniaeth Gymreig. Yn wir, ymysg y rheini sy’n teimlo’n Gymreig ond nid yn Brydeinig mae yna fwyafrif yn cefnogi egwyddor pennaeth etholedig yn hytrach na brenin neu frenhines fel pennaeth y wladwriaeth.
O ystyried y berthynas agos rhwng hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg, nid yw’n syndod ein bod hefyd yn canfod perthynas arwyddocaol rhwng gallu etholwyr i siarad yr iaith a’u hagweddau tuag at y frenhiniaeth. Yn ein harolwg rydym yn gwahaniaethu rhwng tair carfan: y rheini sy’n medru’r Gymraeg yn rhugl, y rheini sy’n ei medru ond ddim yn rhugl, a’r rheini sy’n dweud nad ydynt yn medru’r iaith o gwbl. Gan fy mod yn gwybod bod y pethau hyn o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr BARN, prysuraf i ddweud mai’r ymatebwyr eu hunain sy’n cael penderfynu beth y mae ‘rhugl’ yn ei olygu. Mae gan bob dull o geisio mesur faint o bobl sy’n medru’r Gymraeg ei ddiffygion.
Fel y gellir disgwyl, mae’r rheini sy’n medru’r Gymraeg yn rhugl yn llai tebygol o gefnogi egwyddor brenhiniaeth ac yn fwy tebygol o gefnogi pennaeth etholedig ar gyfer y wladwriaeth na’r etholwyr hynny sy’n dweud nad ydynt yn medru’r iaith o gwbl. Eto fyth, erys y ffaith fod mwy o Gymry Cymraeg rhugl yn ffafrio brenhiniaeth nag sy’n cefnogi egwyddor gweriniaeth.
* * *
Beth a wnawn o hyn oll? Ai teg yw crynhoi’r sefyllfa fel a ganlyn: hyd yn oed os bu farw’r Gymru Anghydffurfiol yn ystod yr oes Elisabethaidd sydd ohoni, mae’r Gymru frenhinol a brenhingar yn fyw ac yn iach o hyd. Ond nid yw dweud hynny’n gwbl gyson â’r ffeithiau. Fel y gwelsom, mae mwyafrif clir iawn o blaid parhad y sefydliad, a dichon y bydd cynlluniau’r darpar Frenin Charles III i docio’r rhengoedd ryw ychydig yn ddigon i dawelu’r pryderon am gost y sefydliad. Eto fyth, mae rhywbeth arwyddocaol wedi newid yn nhermau’r berthynas rhwng Cymreictod a brenhiniaeth. Gwelwyd ymddihatru a phellhau. Efallai na fu hynny’n amlwg yn ystod dathliadau jiwbilî 2022, ond yn raddol bach mae gafael swyn a swae brenhiniaeth yn cilio’n ôl at graidd Eingl-Brydeinig y wladwriaeth.