‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’

Darllen am ddim

Fel y gwyddoch yn dda – yn rhy dda efallai – fe fues i’n mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen am Brexit yn y golofn hon yn ddi-baid am flynyddoedd. A minnau hefyd wedi sgwennu cymaint am y CAP – polisi amaeth yr Undeb Ewropeaidd – a’r pwysau sydd ar ffermwyr i arallgyfeirio, mae arnaf ofn mai fi sy’n gorfod arallgyfeirio am y misoedd nesaf. Nid oherwydd Brexit ond oherwydd gwaeledd. Rydw i’n derbyn triniaeth a fydd, gobeithio, yn fy ngalluogi i gael gwellhad o’r afiechyd cas hwnnw, lewcemia. Wn i ddim a fydd gen i’r egni am y tro i gyfrannu’n fisol i BARN. Caf weld.

Ond mae’n anodd tynnu cast o hen geffyl. A minnau yn yr ysbyty, rwyf newydd fod yn gwrando ar bodlediad Cymraeg oedd yn dal ar fy ap. Casglaf fod yr eitem yn mynd yn ôl i’r dyddiau twyllodrus hynny cyn refferendwm Ewrop yn 2016 pan oedd y Brexitwyr yn dadlau’n dalog y byddai gadael yr UE yn broses syml a di-lol. Yn y podlediad penodol hwn cyfeiriwyd at rywbeth o’r enw GATT 24 a fyddai’n caniatáu i ffermwyr Prydain – a diwydiant drwy’r trwch – fasnachu’n ddirwystr a di-dreth efo gweddill Ewrop.

Beth bynnag ddaw, fe wyddom erbyn hyn nad yw ymddatod ac ymwahanu oddi wrth bartneriaeth sydd wedi para am dros ddeugain mlynedd yn fater hawdd. Dyna pam mai gadael Ewrop oedd y peth olaf ar feddwl Margaret Thatcher pan oedd hi’n Brif Weinidog – er mor hoff oedd hi o fygwth yr Undeb efo’i bag llaw a’i thafod. Dywedodd yr Arglwydd Powell o Bayswater, a fu wrth ei deheulaw yn ystod ei sgarmesoedd ffyrnicaf yn Ewrop drwy gydol y 1980au, mai gadael yr UE fyddai’r peth olaf y byddai hi wedi ei wneud. Ymladd yn galed oddi mewn i’r Undeb oedd ei dull hi o sicrhau’r telerau gorau i Brydain. A fyddai hi byth bythoedd, meddai’r Arglwydd, wedi ystyried cynnal refferendwm ar adael neu aros yn Ewrop. Ddim dros ei chrogi.

Wnaiff f’atgoffa fy hun mai pleidleisio dros adael Ewrop ddaru Cymru ddim daioni o gwbl imi yn fy nghyflwr presennol. Ond faint o’r ymadawyr hynny tybed a sylwodd ar y cyhoeddusrwydd a gafodd Lwcsembwrg y mis diwethaf dros y byd i gyd am fod eu Prif Weinidog, Xavier Bettel, wedi gwneud ffŵl o Boris Johnson. Nid bod hynny’n anodd. (Hyd yn oed os nad yw Boris mewn gwirionedd yn ffŵl, mae actio’r ffŵl yn ail natur iddo.) Beth oedd yn ddiddorol i mi yn y digwyddiad oedd y modd y tynnodd sylw at un o gryfderau mwyaf gogoneddus yr UE, sef bod pob aelod yn gyfartal. Dyw holl diriogaeth Lwcsembwrg yn ddim ond 99 milltir sgwâr. Cymharer â Chymru ‘fach’ sy’n 562,958 milltir sgwâr. Cymharer hefyd eu poblogaethau. Ychydig dros hanner miliwn sy’n byw yn Lwcsembwrg. Mae tair miliwn a rhagor yn byw yng Nghymru. Ac eto roedd ymateb Ewrop i weithred Prif Weinidog y wlad fach – pa mor blentynnaidd bynnag oedd hi – yn dangos sut mae teuluoedd, er mor gecrus y gallan nhw fod, yn dod at ei gilydd pan fydd rhywun o’r tu allan yn eu bygwth. Bu’n agos imi ddechrau canu ‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’.

Yn bwysicach, mae’r modd y mae’r aelodau i gyd, mawr a bach, wedi sefyll yn gadarn gyda gwlad fechan arall, Iwerddon, yn dangos mai mewn undeb mae nerth.

A sôn am nerth, canolbwyntio ydw i ar drechu lewcemia. Mae’n salwch drwg ond mae gen i siawns dda o ddod drwyddi. Cyn imi fynd i’r ysbyty, lle byddaf yn treulio’r ddeufis nesaf, cefais ornest reslo braich gyda’m mab hynaf. Am y tro cyntaf, fy mab enillodd. Yn naturiol mae’r salwch wedi effeithio arnaf. Ond efallai fy mod i eisiau iddo ennill.

Dafydd Ab Iago
Hydref 2019