Deddf Pwtin a lleiafrifoedd Rwsia

Darllen am ddim

Mae deddf addysg newydd a basiwyd yn Senedd Ffederasiwn Rwsia yn ddiweddar yn bygwth dyfodol ieithoedd brodorol rhai o weriniaethau’r wladwriaeth. Dyma beth o’r cefndir hanesyddol i’r hyn sy’n cael ei weld gan rai fel adlewyrchiad o bolisi ehangach Pwtin i atafaelu grymoedd oddi ar y gweriniaethau.

Gall mesur seneddol sy’n effeithio ar un iaith fod yn fater digon dadleuol, fel y gwyddom. Beth ddywedwn ni wedyn am ddeddf a ddaeth i rym ar 3 Awst eleni sy’n diraddio o leiaf 80 o ieithoedd cynhenid Ffederasiwn Rwsia ac yn peryglu dyfodol llawer ohonynt?

Yn ôl ffigurau a chategorïau UNESCO, heblaw am y Rwseg, dim ond yr iaith Tatar o fewn Ffederasiwn Rwsia sydd heddiw mewn cyflwr gweddol iach, gyda chwe miliwn o siaradwyr. O’r 131 o ieithoedd eraill, mae tua 19 yn yr un dosbarth â’r Gymraeg, sef ‘bregus’, a’r gweddill ‘mewn perygl’, ‘perygl dybryd’ neu ar fin marw. Mae tua 70 o’r ieithoedd â llai na 50,000 o siaradwyr, ac er bod hawl ar bapur gan bob plentyn i gael addysg yn y famiaith, mae’r cymal ‘lle bo hynny’n ymarferol’ yn cyfyngu’n sylweddol ar yr hawl yn achos yr ieithoedd lleiaf, mwy gwasgaredig, neu nomadaidd. Ymddengys, serch hynny, fod o gwmpas 80 o ieithoedd cynhenid Rwsia â phresenoldeb swyddogol o fewn y drefn addysg, fel pwnc ac fel cyfrwng.

Os gweithredir y ddeddf newydd yn effeithiol – rhywbeth na ddylid byth mo’i gymryd yn ganiataol yn y wlad anferth hon – ni chaiff unrhyw iaith heblaw’r Rwseg o hyn ymlaen fod yn bwnc gorfodol yn yr ysgolion ac fe fydd angen i rieni wneud cais ysgrifenedig os ydynt am i’w plant gael dysgu’r famiaith. Mae cymalau eraill sy’n ymestyn yr oriau dysgu Rwseg ac yn cwtogi ar yr oriau a dreulir yn dysgu’r ieithoedd eraill rhag iddynt amharu ar ddysgu Rwseg. Daw hyn ar ben penderfyniad cynharach mai yn y Rwseg yn unig y cynhelir yr arholiad gadael ysgol – math o baccalauréat – drwy’r Ffederasiwn. Arweiniodd hyn eisoes at ostyngiad yn nifer yr ysgolion sy’n defnyddio ieithoedd heblaw’r Rwseg fel cyfrwng.

Hanes o ennill a cholli tir am yn ail fu hanes lleiafrifoedd Rwsia. Wedi chwyldro 1918, polisi Lenin, a Stalin hefyd am gyfnod, oedd ennyn teyrngarwch cenhedloedd eraill yr Undeb Sofietaidd i’r drefn newydd drwy feithrin eu hieithoedd. Dyma’r cyfnod pan ddyfeisiwyd gwyddorau ar gyfer nifer o leiafrifoedd er mwyn hybu llythrennedd ac addysg. Dim ond yn 1938 y pasiwyd deddf yn gorfodi dysgu Rwseg fel pwnc drwy’r Undeb Sofietaidd, ac o hynny ymlaen gwelwyd y Rwseg yn estyn ei dylanwad ar draul yr ieithoedd eraill hyd at ddiwedd y cyfnod comiwnyddol.

O fewn yr Undeb roedd gweriniaethau a rhanbarthau awtonomaidd yn dwyn enwau’r grwpiau ethnig mwyaf lluosog, er bod nifer o Rwsiaid (mwyafrif ambell waith) hefyd yn byw yn y gweriniaethau hynny. Mae’r patrwm wedi goroesi i’r cyfnod ôl-gomiwnyddol ac wedi i’r grwpiau cryfaf ymadael a throi’n wledydd annibynnol. Heddiw mae yn Rwsia 21 o weriniaethau ‘ethnig’ a phedwar o ranbarthau llai eu statws. Adeg chwalu’r Undeb Sofietaidd roeddynt mewn sefyllfa gref i negodi pwerau i’w seneddau datganoledig, gan gynnwys rheolaeth lawn dros addysg, neu felly y tybiwyd. Y canlyniad fu adfywiad yn yr ieithoedd cynhenid yn y 1990au ac i mewn i’r ganrif newydd. Ond gwelwyd tro ar fyd yng nghyfnod Pwtin. Yn 2017 gwnaeth yr Arlywydd araith a oedd yn arwain y ffordd at ddeddf addysg 2018. Cyhoeddodd mai gwarthus oedd gorfodi neb i ddysgu unrhyw iaith heblaw’r Rwseg.

Mae’r ddeddf yn herio polisi tair gweriniaeth yn arbennig: Tatarstan a Bascortostan yn nyffryn y Folga, a Iacwtia yn Siberia. Yma bu’r awdurdodau yn mynnu bod pob plentyn, o ba bynnag gefndir ieithyddol, yn dysgu’r iaith gynhenid ochr yn ochr â’r Rwseg, gan fod y ddwy iaith yn swyddogol o fewn y diriogaeth. Tatarstan a fu’n arwain y ffordd. Dyma Gatalwnia Rwsia, medd rhai – gweriniaeth gyfoethog, fodern, canolfan i’r diwydiant olew a chwmnïau awyrennau, ond yr un pryd gwlad sydd, o ran crefydd, naw deg y cant yn Islamaidd ond heb droi’n filwriaethus.

O ystyried mai dim ond wyth deg y cant o boblogaeth Ffederasiwn Rwsia sydd heddiw yn eu hystyried eu hunain yn Rwsiaid, sut mae esbonio’r bleidlais ysgubol o blaid y ddeddf addysg newydd yn y Dwma: 388 o blaid a dau yn unig yn erbyn? Yn nyddiau’r Undeb Sofietaidd, y Blaid Gomiwnyddol oedd y glud a oedd yn dal y wladwriaeth a’i gweriniaethau amrywiol wrth ei gilydd. Dyw pethau ddim wedi newid cymaint â hynny. Plaid yr Arlywydd Pwtin, Rwsia Unedig, sydd mewn grym ers 2002 ym Mosco ac mae wedi cynyddu ei mwyafrif. Ganddi hi y mae 343 o’r 450 sedd sydd yn y Dwma.

Rwsia Unedig sy’n rheoli yn y gweriniaethau ethnig hefyd, gan gynnwys Tatarstan. Mae traddodiad cryf yn Rwsia o ddilyn ‘plaid grym’, sef y blaid sy’n dosbarthu nawdd a swyddi o bob math. Dim ond oddi mewn i’r blaid honno y gallwch obeithio dadlau dros eich cornel chi o’r wlad. Roedd llywodraeth Tatarstan wedi ymgyrchu yn erbyn y ddeddf newydd, roedd nifer o gynrychiolwyr y gweriniaethau yn y Dwma wedi pleidleisio yn erbyn neu atal eu pleidlais adeg ail ddarlleniad y ddeddf. Ond pan ddaeth hi’n bleidlais derfynol, pa fantais oedd i fynd yn groes i’r blaid yn ganolog, ac yn fwy na dim mynd yn groes i’r Arlywydd? Nid yw hynny’n golygu bod gweithredu’r polisi’n mynd i fod yn hawdd ym mhob man, fodd bynnag.

Gwêl rhai y ddeddf addysg ffederal yn adlewyrchiad o bolisi ehangach Pwtin i atafaelu grymoedd oddi ar y gweriniaethau. Gwêl eraill y ddeddf yn rhan o’r don o genedlaetholdeb Rwsiaidd a ddilynodd ryfel yr Wcráin. Medd un o feirniaid Pwtin: ‘os byddwch yn amddiffyn hawliau’r Rwseg yn yr Wcráin rydych yn wladgarwr; os amddiffyn hawliau unrhyw iaith arall, rydych yn eithafwr.’ Mae rhywfaint o bwysau hefyd yn dod gan y Rwsiaid hynny o fewn y gweriniaethau ethnig nad ydynt am weld eu plant yn dysgu iaith eu cymdogion. I eraill eto, mae’r ddeddf yn rhan o frwydr Pwtin yn erbyn Islam ac i ryw raddau yn fesur amddiffynnol, gan fod poblogaeth Islamaidd Rwsia’n cynyddu’n gynt na’r boblogaeth Rwsiaidd. Tebyg fod rhywfaint o wirionedd ym mhob un o’r rhagdybiaethau uchod yn ôl y cyd-destun daearyddol a gwleidyddol sy’n amrywio’n fawr.

Cymerwch Weriniaeth Twfa ym mhen deheuol Siberia. Mae’r iaith yno yn perthyn i’r teulu Tyrceg, ond Bwdistaidd yw’r traddodiad crefyddol a diwylliannol. 308,000 oedd nifer y trigolion yn 2010, gan gynnwys 50,000 o Rwsiaid, ond mae’r wlad yn fwy o faint na Lloegr gyfan, ac oherwydd twf yn y boblogaeth gynhenid mae canran y Rwsiaid wedi gostwng o 40 y cant yn 1959 i ychydig dros 16 y cant heddiw. Mae 150 o ysgolion canol neu uwchradd ganddynt yn dysgu yn yr iaith frodorol.

Mae Gweriniaeth Dagestan yn y Cawcasws yn gartref i bedair ar ddeg o ieithoedd a gydnabyddir yn rhai swyddogol. Y gryfaf ohonynt yw’r Afareg gyda dros 800,000 o siaradwyr a’r rheini wedi dyblu ers 1970. Mae rhwydwaith sylweddol o ysgolion yn darparu addysg yn yr iaith. Bu’n hawdd ar adegau i Fosco chwarae’r gwahanol grwpiau yn Dagestan yn erbyn ei gilydd ond mae hanes hefyd o uno yn erbyn Rwsia ac mae hynny’n digwydd yn gynyddol yn enw Islam filwriaethus. Diddymwyd llywodraeth Dagestan ym mis Chwefror eleni oherwydd y sefyllfa argyfyngus, ac am y tro rheolir y weriniaeth yn uniongyrchol gan Fosco.

Mae’n haws, efallai, i ni uniaethu â rhai o’r lleiafrifoedd mwy Ewropeaidd eu diwylliant, megis y Komi, y Marí a’r Wdmwrtiaid yn ardal yr Wral. Bu ymwelwyr o Wdmwrtia yma yng Nghymru beth amser yn ôl yn astudio dwyieithrwydd. Mae eu hieithoedd yn perthyn i’r un teulu â’r Ffinneg, a daeth y brotest ryngwladol gyntaf yn erbyn y ddeddf newydd gan grŵp o academyddion yn y Ffindir. Yn Rwsia ei hun megis dechrau y mae’r ymateb. Daeth mudiadau o bymtheg o weriniaethau at ei gilydd ym mis Mai a sefydlu Cyngres Ddemocrataidd Pobloedd Ffederasiwn Rwsia i wrthwynebu’r ddeddf addysg sydd, meddent, ‘yn groes i egwyddorion sylfaenol cyfansoddiadau Rwsia a’i gweriniaethau’. Y disgwyl yw mai’r corff hwn fydd yn cydgordio’r camau nesaf.

Ned Thomas
Hydref 2018