'Dedfryd Oes'

Darllen am ddim

Roedd Iwan a’i ddau fab yn wên o glust i glust. ‘Mae’r plant ’ma wedi’u difetha,’ meddai’r tad balch wrth bostio llun ohono fe a Lleu a Caeo ar ei gyfrif Facebook, y tri ohonynt ar y cae yn dathlu. ‘Dedfryd oes!’ atebais innau gan wybod bod yna fwy o boen nag o bleser i ddod wrth i’r plant dreulio eu bywydau yn dilyn tîm pêl-droed Dinas Caerdydd.

Ond am y tro, hyd nes i gárnifal yr Uwch Gynghrair ailgychwyn ym mis Awst, gallwn ni i gyd ymfalchïo yn llwyddiant un o dimoedd llai ffasiynol y byd pêl-droed. Na, dyw e ddim wedi bod yn dymor i’r puryddion. Roedd ein gwaredwr, y rheolwr Neil Warnock, yn gwybod yn union beth oedd ei angen i ennill dyrchafiad. Undod o fewn y garfan, cicio’r bêl mor bell ag oedd yn bosib, a chicio’r gwrthwynebwyr hefyd, o fewn rheolau’r gêm, wrth gwrs. Pêl-droed ‘diwydiannol’ efallai, ond llwyddiannus hefyd.

Dyna’r math o chwarae y mae cefnogwyr Caerdydd wedi arfer ag e ers dyddiau’r cyn-reolwyr Frankie Burrows, Eddie May a Dave Jones. Yn wir, dyma’r pêl-droed ry’n ni’n ei lecio. Ac am unwaith fe lwyddodd y dull hyll. A’r tymor nesaf bant â ni’r Adar Gleision i Old Trafford a’r Emirates yn hytrach nag i Barnsley a Burton.

Prin fu’r cyfnodau o bêl-droed agored y tymor hwn. Chwaraewr y tymor oedd yr amddiffynnwr a’r capten Sean Morrison, nid rhyw seren o streicar deugain gôl. A dyna lle mae penodi Warnock wedi talu ar ei ganfed. Gydag adnoddau prin, fe lwyddodd i greu tîm allan o chwaraewyr cymedrol eu gallu, gydag undod a dycnwch yn gwneud iawn am eu diffyg sgìl a thalent. ‘Rwy’n hoffi Caerdydd,’ meddai yn un o’i gyfweliadau cyntaf wedi derbyn y swydd. ‘Fy math i o glwb, fy math i o bobol.’ A dyna pam y mae dyrchafiad y tro hwn gymaint yn fwy pleserus. Achos bod y tîm wedi gweithio am bob un pwynt, a ninnau’r cefnogwyr wedi dioddef pob cic, pob cerdyn a phob anaf gyda nhw. Siwrne oedd hi. Tymor o ffydd, gobaith a gwaith caled. Ac o edrych yn ôl, mi wnes i fwynhau pob munud ohono.

Yn hwyr ar noson y dyrchafiad ges i neges arall ar Facebook. Dylan, cefnogwr Man-U o Gaernarfon, y tro hwn. ‘Edrych ymlaen at y chwe phwynt tymor nesaf,’ meddai yn ffug-wawdlyd. Ond Dyl − nid dyna’r pwynt! Mae gen ti a chefnogwyr timau’r Premiership ddisgwyliadau. Ennill yn un peth, a chwarae yn Ewrop. Does gyda ni, gefnogwyr pitw’r tîm anffasiynol o chwaraewyr di-sôn-amdanynt, ddim byd o’r fath. Y daith, a mwynhau’r daith i fyny, ond gan amlaf i lawr, yw’r peth pwysicaf i ni, nid y cyrraedd. Ac yn hynny o beth mae dilyn Caerdydd wedi bod yn daith, yn wir yn addysg barhaol, ers deng mlynedd ar hugain.

Pan enillodd Abertawe ddyrchafiad i’r Uwch Adran yn 2011 ro’n i’n hoff o atgoffa fy ffrindiau o Jacs y bydden nhw’n aros lan am bedwar tymor − yr hydref, y gaeaf, y gwanwyn a’r haf. Wrth gwrs o’n i’n anghywir. Ond wyddoch chi beth? Dwi ddim yn disgwyl i Gaerdydd aros lan am ail dymor a dwi ddim yn poeni am y peth ychwaith. Y nod yw mwynhau’r hyn sydd gyda chi a’ch angerdd at eich clwb, beth bynnag ddaw. Ac am hynny ga i ofyn i Lleu a Caeo geisio mwynhau eu dedfryd oes. Pob hwyl bois!

Tim Hartley
Mehefin 2018