Mae cyfuniad o dri pheth sy’n gwneud y llywodraeth newydd yn Llundain yn un gwbl wahanol ei hanian i’w rhagflaenwyr a gorau po gyntaf inni i gyd sylweddoli hynny.
Yn gyntaf, ac yn fwyaf amlwg, mae gan Boris Johnson fwyafrif braf dros ei wrthwynebwyr. Yn wir, mewn termau ymarferol mae ei fwyafrif yn sylweddol uwch nag y mae’r rhifyddeg seneddol foel (80 sedd) yn ei awgrymu gan fod yna bellach 163 o seddi’n gwahanu’r Torïaid oddi wrth Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ymarferol, felly, er mwyn disodli’r Ceidwadwyr fe fydd yn rhaid i Lafur ddisodli’r SNP yn llwyr yn yr Alban ac ennill seddi ychwanegol yn Lloegr, neu ennill toreth o seddi ychwanegol yn Lloegr er mwyn gallu ffurfio llywodraeth glymblaid mewn cydweithrediad â’r SNP. Ac ar hyn o bryd, mae’r naill bosibiliad yn ymddangos yr un mor annhebygol a’r llall.
Wrth reswm, ni ddylid diystyru’r posibiliad y bydd anffawd neu sgandal neu dwpdra’n llorio’r Lothario penfelyn sydd bellach yn arwain y wladwriaeth. Ond y pwynt ydi mai hunan-niwed yn hytrach na gweithredoedd y brif wrthblaid ydi’r bygythiad go iawn i’w oruchafiaeth. O ran yr wrthblaid honno, yr unig gwestiwn o bwys yw a ydynt ar fin ethol fersiwn Llafur o William Hague, Iain Duncan Smith neu Michael Howard? Dim ond yr optimist mwyaf unllygeidiog allai fyth gredu y bydd yr arweinydd newydd yn Brif Weinidog.
Pa ryfedd, felly, fod y gweision sifil yn Llundain bellach yn synio’n gyhoeddus am y llywodraeth newydd fel llywodraeth a fydd mewn grym am ddegawd o leiaf? Ar ôl pedair blynedd pan fu cynllunio am fwy na deng niwrnod ar y tro’n anodd, mae hyn ynddo’i hunan yn dro ar fyd.
Ond mae’r newid yn fwy pellgyrhaeddol o lawer na hynny, oherwydd – a dyma’r ail bwynt – mae’r blaid lywodraethol yn fwy unffurf ac ufudd nag unrhyw blaid lywodraethol ers, beth ddywedwn ni, y 1950au? Yn wir, efallai ers canol y 1930au? Dyma ganlyniad y penderfyniad i ddiarddel y garfan fwy annibynnol eu barn – Guto Bebb, Ken Clarke, Antoinette Sandbach a’u tebyg – o’r Blaid Geidwadol yn nyddiau cyntaf teyrnasiad y Brenin Boris. Roedd gan Thatcher ei ‘wets’, Major ei ‘bastards’, Blair ei ‘Brownites’, Brown ei ‘Blairites’ a Cameron yr ‘ERG’ (sef y ‘bastards’ ar ôl makeover). Roedd y rhain oll yn cyfuno gwrthwynebiad ideolegol a phersonol. O’i gymharu, hyd yn oed os y bydd rhai o’i Aelodau Seneddol yn parhau i’w ddrwglicio fel unigolyn – ac fe fyddant, yn ddi-os – nid oes unrhyw wrthwynebiad ideolegol o sylwedd i Johnson oddi mewn i rengoedd ei blaid ei hun. A hyd yn oed petai yna wrthwynebiad o’r fath, ŵyn llwdwn o wleidyddion yn unig sy’n weddill yn y rhengoedd Ceidwadol ar ôl y Puro Mawr. Chaiff Johnson ddim trafferth hefo’r rhain. Nid oes gwrthblaid swyddogol na gwrthwynebiad mewnol o bwys i’w rwystro yn y dyfodol rhagweladwy.
Ar ben hynny, yn drydydd, am y tro cyntaf ers canol y 1970au, mae Prydain (neu Lloegr, a bod yn fanwl gywir) wedi ethol llywodraeth newydd nad ydyw’n credu’n reddfol yng ngoruchafiaeth y farchnad rydd. Efallai mai dyma’r newid a fydd yn peri’r sioc a’r dryswch mwyaf. Ers i Thatcher a’i chynghreiriaid ennill y frwydr ideolegol yn nechrau’r 1980au mae pob llywodraeth sydd wedi ei holynu – gan gynnwys llywodraethau Blair a Brown fel ei gilydd – wedi rhannu cred ddiysgog yn effeithiolrwydd ‘llaw gudd’ y farchnad. Erbyn hyn dyma’r ydym yn ei ddisgwyl gan lywodraethau Prydeinig. Ond nid dyma farn Johnson a’i brif gynghorydd, Dominic Cummings.
I’r rhai sydd â chlustiau i wrando mae hyn yn gwbl amlwg yn y ffordd y maent wedi ceisio cyfiawnhau eu penderfyniad dadleuol i adael i gwmni sydd, fel pob cwmni mawr yn y wlad honno, yn dilyn gorchmynion Plaid Gomiwnyddol Tsieina, ddarparu rhannau allweddol o’r rhwydwaith 5G newydd. Mae’n benderfyniad sydd wedi ei orfodi arnynt, fe honnir, oherwydd ‘methiant y farchnad’. Allwch chi ddychmygu Thatcher neu Blair yn defnyddio iaith o’r fath? Sgersli bilîf! Ond mae ’na fwy. Mae 5G yn allweddol oherwydd ein bod, meddan nhw, ar gychwyn chwyldro diwydiannol newydd wedi ei seilio ar dechnoleg o’r fath, a phriod waith y wladwriaeth (nid ‘y farchnad’, sylwer) yw sicrhau ein bod yn barod ar ei gyfer.
Yn gysylltiedig â hyn ceir yr obsesiwn hefo ceisio efelychu llwyddiant y wladwriaeth Americanaidd yn hybu twf rhyfeddol y sector dechnoleg yn Nyffryn Silicon Califfornia. Byddai Thatcher, Blair neu Cameron wedi canolbwyntio ar glodfori’r cwmnïau technoleg eu hunain – ac wrth gwrs, mae Nick Clegg bellach yn gweithio i un o’r rhai mwyaf, sef Facebook. Ond mae’n nodweddiadol ac yn ddadlennol for Johnson a Cummings am bwysleisio pa mor ganolog fu rôl yr asiantaeth amddiffyn DARPA (Defence Advanced Research Projects Agency) yn hybu’r cyfan. Ymddengys mai DARPA yn hytrach na’r ‘llaw gudd’ fondigrybwyll biau’r clod.
Mae obsesiwn Johnson hefo cynlluniau isadeiledd enfawr yn rhan o’r un patrwm. Trwy’r cyfan fe bortreadir y wladwriaeth yn chwarae rhan ganolog yn hybu, cyfeirio a galluogi. Dyma’r wladwriaeth (a’i harweinyddiaeth oleuedig, wrth reswm) yn cael ei darlunio mewn modd dyrchafol – modd arwrol, hyd yn oed. Yn yr ystyr hon, o leiaf, mae Johnson yn wrth-Thatcherydd o’i gorun i’w sawdl.
Os oes arweinydd i’w gymharu ag ef yn hanes diweddar Prydain, yna efallai mai Harold Wilson a’i bwyslais ar ‘wres eirias technoleg’ yw hwnnw. Fodd bynnag, mae hanes diweddar Ffrainc yn cynnig cymhariaeth lawer gwell. Gyda’i ffydd yng ngallu’r wladwriaeth – o dan yr arweinydd carismataidd cywir – i blygu cymdeithas a’i heconomi i’w hewyllys ei hun, a’i gred yng nghenhadaeth fyd-eang ei genedl, mae Boris Johnson yn debycach o lawer i’r Arlywydd Gadfridog Charles de Gaulle nag ydyw i’r gwleidydd o Swydd Efrog. Ac wrth gwrs, mae ei fwyafrif seneddol sylweddol, heb sôn am ei afael lwyr dros ei blaid ei hun – a chefnogaeth sicoffantaidd y wasg – yn golygu bod Johnson yn meddu ar lawer iawn mwy o rym nag a gafodd Wilson erioed, a hynny er gwaethaf cyfrwystra gwleidyddol dihafal gwleidydd a enillodd dri etholiad cyffredinol. Wele wawrio Gaullisme Prydeinig.
+ + +
Mae’n anodd gorbwysleisio graddfa’r newid a gynrychiolir gan ethol llywodraeth Boris Johnson fis Rhagfyr diwethaf. O fewn ychydig o wythnosau’n unig mae wedi troi rhai o ragdybiaethau gwleidyddol y degawdau diwethaf ar eu pen yn llwyr. Gan fod cymaint sy’n anghonfensiynol ac anghyfarwydd – a chymaint o syrcas (fwriadol ac anfwriadol) ynghlwm yn yr holl beth – y demtasiwn yw canolbwyntio ar y sŵn a’r lliw. Ond gadewch i ni’n hytrach geisio hoelio ein sylw ar y pethau sylfaenol. Mae gennym bellach lywodraeth Brydeinig sy’n debygol o fod mewn grym am ddegawd a mwy, sydd i bob pwrpas yn ddiwrthwynebiad, ac sy’n arddel syniadau sylfaenol wahanol i’w rhagflaenwyr ynglŷn â phriod waith y wladwriaeth. Mae hyn, bobl annwyl, yn mynd i fod yn her i bob un ohonom.