Dydw i ddim yn adnabyddus am drydariadau cyffrous na chynhennus, a’m hunig brofiad o fynd yn feiral oedd pan o’n i’n sâl efo Covid – ond fe newidiodd hynny dros nos yn ddiweddar ac ar Tom Jones mae’r bai.
Torri’r rheol aur honno wnes i – y rheol sy’n cael ei phwnio i ben unrhyw un sydd â rôl gyhoeddus, sef peidio mynd ar gyfyl y cyfryngau cymdeithasol os ydi rhywun yn feddw neu’n flin. Do’n i ddim yn feddw, ond o’n, mi o’n i’n anarferol o flin, a dyma fi’n gollwng stêm mewn trydariad pigog cyn mynd i ’ngwely i stiwio.
Erbyn deffro y bora wedyn roedd y niwl fflamgoch wedi pasio wrth gwrs, a finnau wedi anghofio bob dim am y trydariad. Tan imi agor fy ffôn dros banad, a gweld degau ar ddegau o hysbysiadau Trydar ar y sgrîn.