Diddymwch Gomisiynydd y Gymraeg – er lles y Gymraeg

Darllen am ddim

Ar hyn o bryd dwi’n ysgrifennu llyfr am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Dilyn Clwb Pêl-droed Porthmadog am dymor ydi’r strwythur naratif ond hyn a hyn o amser sy’n cael ei dreulio efo arwyr pêl-droed. Annhegwch yn y gymdeithas ehangach ydi’r pwnc. Ond yn anffodus, wrth aildrefnu’r deunydd, rwyf wedi gorfod gollwng brawddeg sy’n haeddu trafodaeth bellach. A dyma hi: ‘Cymdeithas yr Iaith ydi’r mudiad mwyaf neo-ryddfrydol yng Nghymru.’

Un o’r pethau mwyaf trawiadol am wleidyddiaeth Cymru heddiw ydi bod gwrthsafiadau’n ymdebygu i’r pethau y maent yn honni eu gwrthwynebu. Mae’n fy atgoffa o acsiom yr hanesydd Marcsaidd, Eric Hobsbawm, nad oes rhaid i neb ofni cenedlaetholdeb Cymreig oherwydd mewn Cymru annibynnol byddai pethau’r un fath ag o’r blaen.

Felly gallwn weld fod Caerdydd yn chwarae’r un swyddogaeth yn y Gymru ddatganoledig â Llundain yn y Brydain fawr. Neu fod gofid unoliaethwyr Prydeinig ynghylch Cymru neu’r Alban yn ‘rhannu’r genedl’ Brydeinig yr un peth â phryder rhai cenedlaetholwyr y gallai cymunedau Cymraeg ‘rannu’r genedl’ Gymreig. Fersiwn newydd o’r wladwriaeth Brydeinig fydd y wladwriaeth Gymreig, sy’n ddadl wrth gwrs yn erbyn ei sefydlu. Chwarae teg, ers blwyddyn neu ddwy, mae Plaid Cymru wedi gweld y perygl ac mae ‘Arfor’ Adam Price yn ymdrech i gynnig datrysiad.

Mae mudiadau adain chwith hefyd wedi mynd yn ysglyfaeth i’r rhesymeg Hobsbawmaidd hon. Maen nhw’n rhefru ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn ‘neo-ryddfrydiaeth’; y gyfundrefn economaidd benrhydd sy’n caniatáu i gyfalaf, ac felly cyfoethogion, wneud fel y mynnont. Ond yn eu hymgyrchu dros wleidyddiaeth ‘hunaniaeth’ maent yn defnyddio’r rhesymeg neo-ryddfrydol eu hunain. Yn hytrach na chanolbwyntio ar gymunedau lleiafrifol diriaethol, a thrwy hynny sicrhau cydraddoldeb iddynt, maent yn obsesiynu ynglŷn â hawliau unigolyddol aelodau breintiedig o’r grwpiau lleiafrifol. A’u hawl hwythau i wneud fel y mynnont.

Yn greiddiol i fydolwg yr ymgyrchwyr hyn y mae syniad fod rhywun yn rhydd i ddewis ei hunaniaeth – er enghraifft, ei iaith, neu’i rywioldeb, neu’i ryw, neu’i hil; yn hytrach na bod y rhain yn ganlyniad amodau cymdeithasol. Felly yn y byd Cymraeg dadleuir bod yr iaith yn perthyn i bawb; nid yn unig i’r rhai sy’n ei siarad, ond hefyd i’r rhai sy’n deisyf ei siarad. Yn bwysicaf oll, mae’n perthyn yn ogystal i’r rhai nad ydynt yn deisyf ei siarad ond y mae eraill yn dymuno eu bod yn deisyf ei siarad.

Hyn sy’n gyfrifol yn y Gymru Gymraeg am gwlt y dysgwr, a’r dybiaeth y dylid gwario pres ‘y Gymraeg’ ar bobl a chymunedau sydd ddim yn defnyddio’r iaith (er mwyn eu cymell i’w dysgu) yn hytrach nag ar bobl a chymunedau sy’n ei harddel. O ganlyniad anwybyddir anghenion cymunedau Cymraeg, sy’n ddifreintiedig yn economaidd, ac, yn waeth fyth yn y Gymru ddatganoledig, yn ddiddylanwad. Hynny ydi, mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn arwain at anwybyddu buddiannau’r union grŵp lleiafrifol y mae’n honni siarad ar ei ran.

Dyma’r fagl sydd wedi dal arweinyddiaeth Cymdeithas yr Iaith (yn y de o leiaf: yng Ngwynedd, mae’r Gymdeithas yn parhau’n fudiad sosialaidd cymunedol am fod cymunedau Cymraeg difreintiedig yn bodoli yno). Fel mudiad o bobl ifanc dosbarth canol yn byw mewn canolfannau metropolitan fel Caerdydd ac Aberystwyth, mae ei phwyslais yn unigolyddol, ac mae hyn yn gweddu’n berffaith i’r wleidyddiaeth neo-ryddfrydol newydd. Ond pam pigo ar y Gymdeithas fel hyn? Am mai ei dadleuon hi ydi man cychwyn syniadol llawer o bolisïau Llywodraeth Cymru heddiw, neu eu bod yn llywio ymateb Plaid Cymru pan mae’r llywodraeth yn anghydweld.

Cymdeithas yr Iaith oedd yn gyfrifol am boblogeiddio’r slogan ‘miliwn o siaradwyr’. Gallaf weld yr apêl i’r meddwl escatolegol, ond mae’r nod yn gwbl afrealistig ac yn wir yn amhosib. Does dim modd ei gyrraedd ond drwy dderbyn Cymraeg fel ail iaith na chaiff ei defnyddio. Yn fyr, y sefyllfa Wyddelig.

Mae’r ddelfryd o dwf ieithyddol anghynaladwy yn dilyn yr un trywydd gwallus â’r obsesiwn neo-ryddfrydol â thwf economaidd dilyffethair. Hyn a hyn y gellir ei wneud ag adnodd lled finite fel ynni neu bobol sy’n arfer iaith leiafrifol: oes, mae modd cynyddu rywfaint ar y swmp, ond yn y bôn mae’n rhaid defnyddio’r adnodd yn well.

Nid yw anwybyddu cymunedau Cymraeg difreintiedig, a lleoli pob cyflogaeth Gymraeg y tu allan iddynt – am eu bod yn rhy ‘anghysbell’ o safbwynt Caerdydd – yn ddefnydd doeth o’r adnodd o gwbl. Ond mae’n gwbl gydnaws â neo-ryddfrydiaeth sy’n defnyddio adnoddau unwaith-ac-am-byth heb hidio dim am gynaladwyedd hirdymor, yn union fel yr allforir holl boblogaeth ifanc broffesiynol Gymraeg Llŷn ac Eifionydd heb ofyn unwaith sut effaith gaiff hynny ar gynaladwyedd y Gymraeg yn y Ffôr, Sarn a Morfa Nefyn.

Ym myd addysg, yr un mor amheus ydi dymuniad Cymdeithas yr Iaith, ac felly hefyd Lywodraeth Cymru, i ddiddymu Cymraeg ail iaith fel cymhwyster. Mae’n rhan o batrwm ehangach sy’n gwadu bodolaeth gymdeithasegol pobl, a chymunedau, Cymraeg iaith gyntaf, ac yn eu gwneud yn anweledig. Nid diddymu Cymraeg ail iaith fydd y canlyniad, ond yn hytrach gorfodi Cymraeg ail iaith ar bawb.

Ac mae’r syniad fod ‘dysgwyr’ yn cael eu bwlian gan ‘blismyn iaith’, sy’n cael ei ailadrodd hyd syrffed, yn rhan o’r un ffenomen. Nid oes ‘safonau’ gwrthrychol mewn iaith bellach, gan fod hunaniaeth, ac felly iaith a gramadeg, yn oddrychol ac yn hunanddewisol. Mae Cymraeg yn darfod felly drwy broses o hunanddiffinio. Bydd hyn yn ffafrio’r grŵp cymdeithasol breintiedig, sef siaradwyr Saesneg sy’n defnyddio Cymraeg fel ail iaith achlysurol, ar draul y grŵp cymdeithasol sy’n hanesyddol ddifreintiedig, sef pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Yn y drafodaeth am ‘hawliau’ y gwelwn y ddadl neo-ryddfrydol ar ei chliriaf. Hawliau ‘unigolyddol’ yw’r rhain wrth gwrs, sef ‘hawl’ yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg, fel arfer mewn cyd-destunau lle nad ydi hynny’n naturiol. Mi fedr ‘hawliau’ fod yn berthnasol mewn cymunedau Cymraeg wrth gwrs, am fod unigolion mewn cymunedau Cymraeg yn derbyn gwasanaethau o’r tu allan. Fodd bynnag, maent yn fwy perthnasol mewn cyd-destunau lle nad ydi Cymraeg yn iaith arferedig a lle mae hawliau yn creu gofod damcaniaethol ar ei chyfer. Yng Ngwynedd, y cwbl y mae hawliau yn ei wneud ydi dadnormaleiddio’r iaith. Mae’n rhaid gwirio bod dymuniad am wasanaeth Cymraeg yn hytrach na’i gynnig yn ddiofyn. Dyma’r cyd-destun seicolegol hefyd ar gyfer ymosodiadau ar sefydliadau Cymraeg, megis cynghorau cymuned, yn enw ‘dwyieithrwydd’.

Ynghanol y lol i gyd mae Meri Huws ar ei gorsedd. O’r cychwyn, nid oedd modd i’r Comisiynydd Iaith wneud fawr ddim ohoni. Roedd y ddeddfwriaeth ‘hawliau’ yn gwbl neo-ryddfrydol a dieffaith. Ond drwy ddilyn y rhigol fiwrocrataidd mor ffyrnig, a diffinio’r swydd mewn modd mor geidwadol, mi hybodd Meri Huws ddiffiniadau unigolyddol o iaith ar draul unrhyw swyddogaeth gymunedol. Pa syndod fod Cymdeithas yr Iaith eisiau ei hachub!

Yn ei chulni asgetaidd, mae Comisiynydd y Gymraeg yn anwybyddu’r unig beth sydd o bwys i barhad iaith leiafrifol, sef ei bod yn iaith bob dydd pobl yn byw mewn cymdeithas. Economi a chynllunio tir sy’n ganolog i barhad y Gymraeg, nid ffurflenni. Wrth reswm, nid oes neb yn sôn am economi’r broydd Cymraeg heddiw. Ni fyddai hynny’n gydnaws â’r neo-ryddfrydiaeth sy’n canoli popeth yng Nghaerdydd. Ond i’r rhai ohonom sy’n credu yn nyfodol y Gymraeg fel iaith fyw, gweddïwn yn daer y caiff swydd y Comisiynydd ei diddymu.

Simon Brooks
Ebrill 2018