Fory, fory, hen blant bach

Darllen am ddim

Meddyliau am newid hinsawdd

Rydw i’n poeni’n ddifrifol am ddyfodol y blaned – cymaint, yn wir, nes ’mod i’n colli blewyn o gwsg ambell noson; ambell bnawn hefyd. Poenaf oherwydd effeithiau newid hinsawdd, cynhesu byd-eang, colli bio-amrywiaeth, colli bywyd gwyllt, a difodiant cyffredinol. A dweud y gwir, rydw i bron yn niwrotig am y sefyllfa. Ac nid y fi yw’r unig un. Dyna ichi’r eneth un ar bymtheg oed ’na o Sweden, Greta Thunberg, sydd wedi tanio dychymyg a chynhyrfu cydwybod miloedd ar filoedd o bobl ar draws y byd gyda’i hareithiau emosiynol apocalyptaidd am beryglon peidio â newid ein ffordd o fyw. Mae’n wir nad yw hi wedi swyno Trump, na Putin, na Bolsonaro, gyda’r cyntaf, yn nodweddiadol, yn dweud pethau pur annifyr amdani. Daw’r geiriau ‘mul’ a ‘chic’ i’r meddwl. Yr un yw agwedd fulaidd Boris at fudiad Gwrthryfel Difodiant, a sefydlwyd gan ddilynwyr Greta. Ond dyna natur llawer o wleidyddion y dydd; heddiw sy’n bwysig iddynt, hynny a llwyddiant plaid, a llwyddiant personol yn fwy fyth; ni faliant fawr ddim am fory.

Ond nid felly fi. Mae llun Greta gennyf, yn hawlio lle o barch rhwng lluniau Gandhi a Martin Luther King, a’r tu blaen i lun taid Bwlch, fy arwyr eraill.

Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf, newid sy’n cael ei yrru gan ddynoliaeth yn rhyddhau gormod o garbon i’r amgylchedd. Mae hynny’n cynhesu’r blaned, gan ddadmer rhew’r pegynau a chwyddo’r moroedd. Mae cytundeb cyffredinol y bydd lefelau’r môr, erbyn diwedd y ganrif hon, wedi codi digon i foddi llawer rhan o’r byd, gan gynnwys ardaloedd yma yng Nghymru. Diolch i’r nefoedd, fe fydd y tŷ ’ma yn ddiogel. Byddai raid i’r môr godi dros 600 troedfedd i fygwth y drws ffrynt. Mae hynny’n gysur.

Gŵyr pawb bellach mai’r hyn sy’n arwain at gynhesu byd-eang yw llosgi tanwydd ffosil – glo, nwy ac olew – yn bennaf i greu trydan, cynhesu tai, a gyrru peiriannau o bob math. Os ydym am osgoi llawer o sgileffeithiau’r cynhesu, rhaid inni leihau allyriadau carbon yn sylweddol ac yn fuan. Ond sut? Mae’n rhaid imi wrth drydan; onid yw popeth yn y ty ’ma’n cael ei yrru ganddo, a’r rheini’n bethau hollol hanfodol i’m byw bach? Mae’r mil trugareddau sy’n cael eu gwefru ym mhob soced drydan yn y tŷ yn bethau na allaf fyw hebddynt. Felly rhaid dal i gynhyrchu trydan, ond nid efo glo a nwy: tanwydd ffosil, ylwch! Nid efo ynni niwclear, ychwaith: mae gen i ofn hwnnw am fy mywyd. Melinau gwynt: on’d ydyn nhw’n bethau hyll, yn anharddu bryniau ein gwlad? Swnllyd hefyd. Dydyn nhw ddim yn ddel ar y môr chwaith. Na, dim melinau! Ynni o’r haul, ’ta – y paneli mawr ’na sy’n ymddangos ar doeau ym mhobman. Ond nid fy nho i; beryg iddyn nhw ei sigo, heb sôn am fod yn hyll. Ynni’r môr, ’ta – ond meddyliwch am y chwalfa amgylcheddol y gallai cynlluniau megis morglawdd Abertawe ei hachosi. Yr unig ateb, felly, yw i bawb ddefnyddio llai o drydan. Ac rydw i eisoes wedi dechrau cyfrannu – dydw i ddim, bellach, yn defnyddio’r soced drydan sydd y tu ôl i’r cwpwrdd yn y sied. Wrth gwrs, mae’n rhaid i eraill arbed mwy, yn enwedig mewn gwledydd eraill, pell i ffwrdd. Yn amlwg, does arnyn nhw ddim angen yr holl offer trydan sy’n hanfodol i mi.

Moduron, wedyn, yn gollwng allyriadau i’r amgylchedd. Dylai pawb fynd am gerbyd trydan. Wedi dweud hynny, fyddai car trydan yn da i ddim i mi (onid ydwyf yn ceisio lleihau fy nefnydd o drydan?). Ac mae’n rhaid imi gael car – dydi’r bysys sy’n mynd o’r pentref yma bob hanner awr ddim yn mynd i’r union le y byddaf i am fynd iddo. A rhaid inni gael dau gar, wrth reswm, oherwydd ambell dro mae fy ngwraig a minnau am fynd i wahanol lefydd. Ond eithriad ydym ni; byddai’n hawdd iawn i bawb arall gyfyngu ar eu defnydd o geir.

A dyna ichi awyrennau. Wyddech chi fod un awyren, ar daith fer, yn cynhyrchu cymaint o allyriadau carbon ag a wna unigolyn cyffredin mewn blwyddyn? Mae holl awyrennau’r byd yn cynhyrchu dros ugain gwaith mwy o garbon nag a wna holl boblogaeth y byd. Rywsut, rhaid inni gyfyngu ar yr holl deithiau awyrennau hyn. Rydw i’n gwneud fy rhan, oherwydd dim ond rhyw bedair gwaith y flwyddyn y byddaf i’n hedfan dramor ar wyliau. Treiffls, chwedl y dramodydd!

Welsoch chi’r holl danau yna yn y fforestydd trofannol yr haf hwn? Roedd llawer o’r rhain wedi’u cynnau’n fwriadol er mwyn clirio tiroedd ar gyfer ffermio ac ati. Nid yn unig byddai colli’r fforestydd trofannol yn drasiedi, ond byddid hefyd yn colli’r coed sy’n sugno’r carbon o’r amgylchedd a byddai hynny’n cyflymu cynhesu byd-eang. Rydw i’n caru coed. Roedd gen i hanner dwsin o rai mawrion yn yr ardd yma, ac roedd hi’n loes calon imi orfod eu cwympo am eu bod yn cadw’r haul oddi ar y lawnt a’r fainc bren lle byddaf yn torheulo.

Mae plastig, yn awr, wedi mynd yn broblem enfawr, gyda thunelli ar dunelli ohono yn cyrraedd ein moroedd ac yn gorchuddio ein tir. Mae’n mygu, maglu a thagu adar, creaduriaid a physgod, ac mae meicro-blastig yn llenwi’r gadwyn fwyd, ac yn lladd. Ond nid fy mhlastig i. Rydw i’n ailgylchu’n ddeddfol bob tamaid ohono sy’n dod i’r tŷ; mae bocsaid mawr glas ohono yn mynd oddi yma bob wythnos. Does gen i ddim obadeia i ble mae’n mynd, ond rydw i’n gwneud fy rhan!

Ydi wir, mae hi’n unfed awr ar ddeg ar y blaned, os nad yn nes at hanner nos. Os ydym am unrhyw fath o ddyfodol i’n plant a phlant ein plant, mae’n rhaid inni dorchi llewys a mynd i’r afael â’r llu o wahanol broblemau amgylcheddol dyrys sy’n ein hwynebu. Mae’n rhaid inni aberthu ein byw cysurus. Fe allwn fynd ymlaen ac ymlaen, yn manylu ar y peryglon i’r blaned, ar ddifodiant anifeiliaid mawr a bach, ar chwalu bioamrywiaeth, ond, yn anffodus, fedra i ddim ar hyn o bryd. Mae’n rhaid imi gefnogi protestwyr Gwrthryfel Difodiant trwy eu gwylio ar un o’r tri theledu sydd yn y tŷ. Wedyn mae’r hogan bach Greta ’na’n siarad, a rhaid gwrando ar honno. Efallai yr af i hepian ychydig wedyn, i wneud iawn am y cwsg y gallwn ei golli heno yn poeni am fory.

Dafydd Fôn Williams
Tachwedd 2019