Gormod o fathemateg nid yw dda

Cartŵn o fachgen ysgol mewn cwch fach yn mesur uchder goleudy
Dei Fôn sy’n dweud

Ar dro’r flwyddyn, a’r byd i gyd yn gwegian, y wlad yn crymu dan feichiau’r argyfwng costau byw, gwasanaethau cyhoeddus yn dadfeilio o’n cwmpas a gweithwyr yn gorfod gweithredu’n ddiwydiannol i geisio cadw’r blaidd o’r drws, fe benderfynodd y prif weinidog, Rishi Sunak, yn ei ddoethineb, wneud y cyhoeddiad pwysig y dylai mathemateg fod yn orfodol i bawb hyd 18 oed. Amserol iawn yntê, yr ateb i’r holl broblemau, rhowch fwy o syms i’r taclau i’w cadw nhw’n brysur. Ond Lloegr ydi fan’na, meddech. Ia siŵr iawn, ond rhag ofn i’r pwerau yn y Bae feddwl bod syniad Sunak yn apelio, hoffwn ofyn tri chwestiwn sylfaenol. Pam? Beth? Sut?

Pam, yn gyntaf.

Rŵan, does neb yn dadlau nad ydi mathemateg, neu’n fwy cywir, sgiliau rhifedd, yn hollol hanfodol. Ond, wrth ystyried brên-wêf Sunak, rhaid gofyn pa elfen hanfodol o’r maes sydd heb ei chyflwyno yn ystod y deuddeng mlynedd o addysg orfodol fel bod rhaid cael dwy flynedd arall i wneud hynny?

Dafydd Fôn Williams
Mawrth 2023