Er bod ganddo lawer iawn o gydymdeimlad â Guto Harri, mae’r cyn-wleidydd yn dweud mai suddo wnaeth ei galon pan glywodd mai’r Cymro o Gaerdydd fyddai pennaeth cyfathrebu Boris Johnson.
Rydw i’n ystyried Guto Harri’n ffrind ac wedi hen sylwi ar ragfarn y Gymru Gymraeg yn ei hymateb iddo fel unigolyn ac fel un sy’n lladmerydd dros syniadau gwleidyddol nad ydynt ym mhrif ffrwd meddylfryd darllenwyr Golwg a Barn a’r Gymru ddosbarth canol a fagodd Guto fel minnau. Dyna pam y bu i mi deimlo mor gymysglyd o ddarllen ei gri o’r galon, oedd yn rhan go helaeth o’r erthygl hynod a gyhoeddwyd yn Golwg yn ddiweddar.
Yn y lle cyntaf mae Guto’n gywir wrth ddatgan bod y drafodaeth wleidyddol yng Nghymru’n gallu bod yn blentynnaidd, gydag unrhyw un nad yw’n coleddu sosialaeth gyfforddus y ‘mudiad cenedlaethol’ yn dueddol o fod yn berson ‘drwg’ sy’n haeddu dim ond dirmyg. Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg o ystyried sylw Guto y dylem ymfalchïo yn ei benodiad ef fel ‘Cymro Cymraeg gwladgarol, cydwybodol’ i swydd allweddol yng nghanol y wladwriaeth Brydeinig.
Y mae ganddo bwynt. Dyma, yn wir, un o ffaeleddau mawr y Gymru Gymraeg sydd ohoni, sef yr ysfa druenus i ymfalchïo yn llwyddiant unrhyw Gymro neu Gymraes sy’n digwydd dod i’r brig yn eu priod faes y tu hwnt i Glawdd Offa. Yn hyn o beth mae gan Guto hawl i nodi ei syndod nad yw ei lwyddiant ef i gyrraedd uchelfannau ei ddewis yrfa yn ennyn yr un math o ymfalchïo.
Ystyriwch hefyd y pwys a roddir gan y Gymru Gymraeg ar yr iaith ac ymrwymiad i’r iaith ac mae’r modd y mae Guto’n cael ei esgymuno hyd yn oed yn fwy trawiadol. Sawl gwaith, wrth holi hwn a’r llall sydd wedi llwyddo yn Lloegr, y ceir ymholiad am y plant neu’r wyrion gan Beti George ar ei rhaglen? Llith go sylweddol wedyn am lwyddiant Joni bach neu allu academaidd Jane cyn y cwestiwn mawr gan Beti, ‘Beth am y Gymraeg’? Beth sy’n dilyn yn dorcalonnus o gyson yw esgusodion ac ymdrech y cyfweledig i gyfiawnhau ei fethiant i drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf. O ystyried hyn, fe fyddai’n rhesymol disgwyl i dad o Gymro fel Guto Harri, sydd mewn priodas gymysg ieithyddol yn Llundain ac sydd wedi sicrhau bod ei blant yn rhugl yn y Gymraeg, fod yn destun gwerthfawrogiad a sylw cadarnhaol.
Ond tawel yw’r Gymru Gymraeg am ymrwymiad Guto i’r iaith – yr un tawelwch ag a geir gan yr un gynulleidfa sy’n hollol ymwybodol o nifer o ‘Gymry Cymraeg cydwybodol’ sydd wedi llwyddo dros Glawdd Offa ond heb ddangos yr un ymrwymiad i’r Gymraeg a’r hyn a gafwyd gan Guto. Tybed pam?
Yn y bôn, cocyn hitio am ei wleidyddiaeth yw Guto ac mae ganddo bob hawl i nodi bod agweddau’r Cymry Gymraeg tuag ato’n rhagrithiol. Ac eto, pan ddaeth y newyddion fod Guto wedi derbyn swydd gyda’r anfoesol Boris Johnson, fe suddodd fy nghalon. Dyma ladmerydd gwrth-Brexit, cynghorydd i’r aelodau Ceidwadol hynny oedd yn gwthio am ail bleidlais a ‘Chymro balch’ yn dewis camu i swydd lle bydd angen amddiffyn ymddygiad trahaus y Prif Weinidog dros y cyfnod clo a’i ddefnydd o ‘gelwyddau mawr’ yn nhraddodiad Trump a Cummings megis ei sylwadau am Keir Starmer a Jimmy Savile. Dewis Guto yw sefyll gyda Phrif Weinidog sy’n canu clodydd sofraniaeth Brydeinig gan ymosod ar hawliau senedd Cymru a’r Alban. Hawliau a enillwyd wedi ‘pleidlais y bobl’ – ond wrth gwrs, i’r Prif Weinidog hwn y bobl sy’n cyfrif yw pobl Lloegr, nid etholwyr Cymru.
Ydi wir, mae’n rhyfedd o beth gweld Guto, sydd â phob hawl i gyfeirio at ragrith cenedlaetholwyr Cymreig, yn dewis gweithio gyda chenedlaetholwr Seisnig sydd â dim ond un achos yn agos i’w galon, sef ef ei hun. Dyna pam na allaf, fwy na’r mwyafrif o sylwebyddion sydd dan y lach gan Guto, groesawu penodiad y ‘Cymro Cymraeg gwladgarol, cydwybodol’ hwn i’w swydd newydd.