Ar ymweliad ag Iwerddon mae Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cael ei syfrdanu gan lewyrch a hyder y Weriniaeth – yn wahanol i Brydain a Chymru a aeth ar gyfeiliorn yn llwyr.
Bwriad y golofn hon ydi ceisio taflu goleuni newydd ar ddigwyddiadau gwleidyddol yng Nghymru a’r wladwriaeth yr ydym yn trigo ynddi. Y rhagdybiaeth sy’n sail i’r cyfan yw’r posibilrwydd fod yna ryw ddarn o ddata ystadegol newydd, rhyw fewnwelediad o’r tu ôl i’r llenni, neu efallai ryw ddadl anghyfarwydd – hynny yw, y math o bethau sy’n dod i sylw ysgolhaig fel eich colofnydd – a all ein galluogi ni i gyd i wneud ychydig mwy o synnwyr o’r cyfan. Ar ddiwrnod da, mae yna hyd yn oed fodd credu y gall meithrin gwell dealltwriaeth, ymhen hir a hwyr, agor y drws at well dyfodol hefyd.
Y mis hwn, fodd bynnag, rwy’n ofni mai’r cyfan sydd gennyf i’w gynnig yw ebychiad o rwystredigaeth.
Dim ots pa mor ddiddorol yw’r dramâu beunyddiol sy’n nodweddu ein gwleidyddiaeth a pha mor lliwgar ac weithiau galluog yw rhai o’r dramatis personae, y peryg sy’n codi o ganolbwyntio ein sylw arnyn nhw yw ein bod yn colli golwg ar yr hanfodion hynny sydd yn y pen draw yn bwysicach o lawer.
O ledu ein golygon ychydig, mae’n eglur fod Cymru wedi ei chlymu wrth drefn wleidyddol ac economaidd sydd wedi colli ei ffordd yn gyfan gwbl. Oni bai fod rhywbeth yn newid – ac nid oes unrhyw argoel o hynny yn unman, ar y lefel Brydeinig nac yma yng Nghymru – y canlyniad fydd tynghedu ein plant a phlant ein plant i fyw mewn gwlad sydd nid yn unig yn gynyddol ddi-raen, ond sydd o’r herwydd yn ysglyfaeth hawdd i dueddiadau gwaethaf ein hoes. Gwlad lle mae poblyddiaeth fas, hunanoldeb rhemp a nostalgia hunangyfiawn yn cyfuno i wenwyno trafodaeth a diwylliant gwleidyddol.
Tro i Iwerddon tua dechrau mis Mawrth sydd wedi ysgogi’r meddyliau sobreiddiol hyn.
Fel un sydd bellach wedi cyrraedd canol ei bumdegau, yr wyf wedi byw gyda dau ddarlun cwbl gyferbyniol o’n cymdogion i’r gorllewin. Y darlun gwreiddiol oedd y darlun traddodiadol hwnnw o Iwerddon geidwadol a thlawd. Rwy’n cofio’n fyw iawn y sioc a deimlais ar drip teuluol i Ddulyn rywdro tua diwedd y 1970au wrth weld pobl yn cardota ar y stryd yng nghanol y brifddinas – rhywbeth a oedd bryd hynny’n ddiarth iawn, iawn ar ynys Prydain. Yn economaidd, o leiaf, rhybudd ac nid gwers a gynigid gan Iwerddon bryd hynny.
Erbyn diwedd y 1990au roedd y rhod wedi troi. Cymaint oedd ffyniant y ‘Celtic Tiger’ nes bod gen i ddwy gyfnither oedd wedi symud i Iwerddon i weithio. Dyma’r cyfnod pan oedd y llong gyntaf allan o borthladd Gaergybi ar fore Llun yn llawn o Fonwysion yn teithio i’r gwaith yn Nulyn am yr wythnos.
Wrth gwrs, erbyn 2008 roedd yr hwch wedi mynd trwy’r siop a’r llif o weithwyr o Gaergybi i Ddulyn wedi peidio. Rhaid cyfaddef fy mod wedi colli golwg ar bethau ar ôl hynny. Dim ond yng nghyd-destun Brexit yr ydw i wedi meddwl o ddifrif am economi a chymdeithas Iwerddon gyfoes yn y cyfamser, a hynny’n bennaf o safbwynt yr effeithiau negyddol ar fasnach trwy’r porthladdoedd Cymreig yn hytrach na ffyniant (neu beidio) Iwerddon ei hun.
O ganlyniad, roedd teithio draw i Galway i ddarlithio ychydig wythnosau’n ôl yn agoriad llygaid. Bobl bach, maen nhw ymhell bell ar y blaen i ni!
Er mai tawel iawn oedd y llong o Gaergybi – mae effaith Brexit yn amlwg iawn – mae porthladd Dulyn yn ffynnu. Felly hefyd, yn ôl pob golwg, yr ardal fasnachol sydd wedi ei hadeiladu’n gymharol ddiweddar rhwng y porthladd a chanol y ddinas. Ond y syndod mwyaf oedd Galway ei hun.
Dyma ddinas ar ymylon y wladwriaeth. Fersiwn Iwerddon o Aberystwyth. Eto, o safbwynt graen a safon yr isadeiledd, y gofodau cyhoeddus, ac yn wir y tai preifat a’r siopau, nid oes unrhyw le yng Nghymru – ac yn sicr ddigon nid Aberystwyth nac unrhyw fan arall ar ein harfordir gorllewinol – yn gallu cymharu. Hyd yn oed os ydi’r hinsawdd yn wahanol iawn yn Galway, mae’r safon byw a welir yno – ynghyd â’r hyder tawel yn y dyfodol sydd yr un mor amlwg – yn atgoffa dyn o’r math o awyrgylch a geir mewn llefydd megis Denmarc, yr Almaen neu Awstria. Mae Gweriniaeth Iwerddon bellach yn wlad y rhinweddau bwrgeisiol Ewropeaidd.
Wrth gwrs, mae’r rhinweddau hynny’n mynd law yn llaw â phroblemau dyrys, ac a bod yn deg nid oedd unrhyw un o’r bobl y gwnes i daro arnynt yn ceisio celu hynny. Yn fwyaf amlwg, mae’r argyfwng tai yn Nulyn gynddrwg, a methiant alaethus y pleidiau gwleidyddol traddodiadol i fynd i’r afael ag o mor amlwg, nes bygwth gafael y ddwy blaid fawr draddodiadol – Fianna Fáil a Fine Gael – ar rym.
Eto i gyd, o safbwynt Cymreig, nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl y byddwn yn dewis eu problemau nhw dros ein problemau ni. Nid yn unig mae incwm y pen lawer iawn, iawn yn uwch yn Iwerddon nag ydyw yng Nghymru, ond mae’r gyfundrefn drethi a budd-daliadau Gwyddelig yn llawer iawn mwy llwyddiannus yn lleddfu anghydraddoldeb incwm. Mewn gair, os ydych yn dlawd, yna byddwch yn dlawd yn Iwerddon nid yma.
Afraid dweud bod lefelau twf economaidd lawer iawn yn uwch yn Iwerddon hefyd, gyda llewyrch economaidd a chymdeithasol hirdymor yn cael ei warantu gan gyfundrefn addysg hynod lwyddiannus a safonol – cyfundrefn addysg sydd o’r bôn i’r brig yn ein gadael ni yng Nghymru yn y cysgodion. Ac os oes yna unrhyw un ar ôl sy’n parhau i’w cysuro eu hunain trwy ramantu ynglŷn â rhinweddau honedig y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rwy’n awgrymu eich bod yn cymryd golwg ar y rhestrau aros yn y Weriniaeth a’u cymharu hefo’n rhai ni.
Wrth i Iwerddon symud yn gyflym yn ei blaen, mae’r Deyrnas Unedig yn llithro yn ôl.
Mae’r ystadegau swyddogol yn cadarnhau’r graddau y mae’n heconomi wedi ei llesteirio gan gyfuniad o bolisïau cyni George Osborne ac wedyn Brexit. Nid yw lefel incwm cyfartalog aelwydydd ym Mhrydain wedi tyfu (mewn termau real) ers pymtheng mlynedd. Nid oes ychwaith unrhyw strategaeth synhwyrol er mwyn newid hynny. Yn wir, mewn gwlad lle mae rhethreg a ffantasi ôl-imperialaidd yn tra-arglwyddiaethu dros realiti, mae’n debygol y gwelwn fwy o weithredu hunan-niweidiol. Wedi’r cyfan, mae’r llywodraeth Brydeinig bellach wrthi’n arwyddo cytundebau masnach rhyngwladol gan wybod eu bod yn niweidiol i lefydd fel Cymru, a hynny dim ond er mwyn gallu rwdlan wrth y ffyddloniaid am rinweddau ‘Global Britain’.
A’r tu hwnt i’r ynysoedd goludog hynny lle triga’r elît bychan sy’n rhedeg prif sefydliadau’r wladwriaeth, dyma wlad sydd hefyd y gynyddol ddi-raen a di-lun. Gwlad lythrennol fudr. Gwlad lle nad oes bron ddim byd yn gweithio’n iawn ac yn sicr ddim byd yn gweithio’r tro cyntaf. Ac os ydych yn disgwyl yn eiddgar am newid llywodraeth yn Llundain i’n hachub ni oll, gaf i awgrymu’n garedig eich bod yn talu mwy o sylw i’r hyn y mae Syr Keir Starmer a’i ddarpar Ganghellor Rachel Reeves yn ei ddweud mewn areithiau a chyfweliadau? Newid pwyslais yn hytrach na newid cyfeiriad sylfaenol a fwriedir gan Lafur.
Os ydi hynny’n ddigon i chi, wel bid a fo am hynny. Ond os ydych yn mentro draw dros Fôr Iwerddon i wlad a oedd gwta hanner canrif yn ôl yn sylweddol dlotach a llai breintiedig na Chymru, fe welwch fod llawer iawn mwy a gwell yn bosibl.