Llythyr at y Prif Weinidog yn Llundain

Darllen am ddim

Annwyl Boris,

Cyfarchion o Iwerddon! Go brin dy fod yn fy nghofio i. Dydan ni ddim yn hen ffrindiau o bell ffordd. Ond mae ein llwybrau wedi croesi yn y gorffennol, ac yn fwy diweddar hefyd.

Mi ydw i, wrth gwrs, yn cofio dy berfformiadau bwrlésg mewn cynadleddau newyddion ym Mrwsel, pan fyddai John Major, neu Douglas Hurd, neu uwch-swyddog o’r Comisiwn, yn ochneidio cyn ateb dy gwestiynau, gan wybod yn iawn y byddai fersiwn gartwnaidd os nad cwbl anghywir o’r stori yn ymddangos drannoeth ar dudalennau ewro-sgeptig y Telegraph. Dwi hefyd yn dy gofio yn crwydro o gwmpas y lle yn cymryd arnat nad oedd gen ti unrhyw glem beth oedd yn digwydd. Un tro, pan aethon ni i gyd fel haid o newyddiadurwyr o Frwsel i Calais ar gyfer streic pysgotwyr, mi roeddet ti’n mynd rownd y porthladd, yn gofyn i mi a phawb arall am feiro a phapur ac unrhyw nodiadau sbâr. Roeddet ti dy hun uwchlaw pethau diflas fel casglu ffeithiau ar gyfer stori newyddion.

O bosib dy fod ti’n cofio’r amser ym Mrwsel pan ofynnaist ti imi ddysgu ychydig o eiriau Cymraeg iti adeg etholiad cyffredinol 1997. Roeddet ti wedi cael dy ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Ne Clwyd – yr etholaeth lle mae fy rhieni yn byw. Doeddet ti ddim yn gwybod hynny wrth gwrs: digwydd bod mai fi oedd yr unig berson o gwmpas oedd yn siarad Cymraeg, ac felly am eiliad gallaswn fod o ddefnydd iti.

Rŵan, roeddwn i wastad yn barod i roi benthyg beiro, a rhoi help llaw i’m cyd-newyddiadurwyr ym Mrwsel. (Fi oedd angen eu help nhw yn amlach na pheidio.) Fel arfer, dwi’n fwy na bodlon dysgu peth Cymraeg i unrhyw un sydd â diddordeb. Ac, wrth gwrs, mae’n arferiad gan y pleidiau gwleidyddol anfon cyw-ymgeiswyr i fwrw prentisiaeth mewn etholaeth ddieithr, anobeithiol (rhywbeth a fyddai’n gwbl annerbyniol yn Iwerddon, gyda llaw, lle mae disgwyl i wleidyddion hanu o’r etholaethau).

Ond roedd y syniad dy fod ti – a oedd yn gwybod y nesaf peth i ddim am Gymru, ac yn malio llai – am gael dy ystyried fel cynrychiolydd addas i drigolion Glynceiriog, Acrefair a Rhosllannerchrugog yn hollol hurt. Felly, ‘na’ oedd fy ateb. Angharedig efallai, ond doeddwn i ddim isio chwarae rhan, pa mor fychan bynnag, yn dy yrfa wleidyddol. Dwi ddim yn meddwl bod fy niffyg cyfraniad wedi gwneud unrhyw wahaniaeth – achos fe ddaru rhywun arall ddysgu cwpl o eiriau iti beth bynnag.

Er gwaethaf dy ymdrechion â’r heniaith, ‘na’ oedd ateb etholwyr De Clwyd hefyd – dipyn o ryddhad iti, dwi’n siŵr. Mi ges di’r cyfle wedyn i sefyll yn etholaeth neis, ddiogel Henley, ac ennill sedd a oedd fwy o lawer at dy ddant.

Pan oeddwn i ym Mrwsel, mi wnes i weld hefyd yr ochr ohonot ti mae pobl yn ei hoffi: rwyt ti’n gallu bod yn lot o hwyl, ac yn ddigri, a does dim dwywaith amdani – rwyt ti’n glyfar. Ac yn uchelgeisiol iawn, iawn.

A dyma ti rŵan, wedi cyrraedd y pinacl. Uchelgais dy fywyd. Y bathodyn Blue Peter gorau oll: rwyt ti’n Brif Weinidog. Imperator.

Felly, beth wyt ti’n mynd i’w wneud? Alli di bellach ddim osgoi cyfrifoldeb. Rwyt ti’n un o’r bobl sydd fwyaf cyfrifol am Brexit – a’r helynt y mae hynny’n ei achosi yn Iwerddon, heb sôn am yr effaith ar Gymru. Felly mi ddylet ti, yn enw pob rheswm, wynebu realiti’r sefyllfa, a cheisio dod o hyd i atebion.

Dwyt ti ddim wedi bod yn orawyddus i ymweld â Dulyn ers iti gael dy ethol yn arweinydd. Yn wir, mi gymerodd hi bron wythnos iti godi’r ffôn i siarad â’r Taoiseach. (Fel arfer, dyna un o’r galwadau cyntaf mae Prif Weinidog newydd yn eu gwneud). Mi fuest ti ym Melffast, mi wn, lle gwnest ti fwynhau cinio efo Arlene Foster, arweinydd y DUP, a bore cyfan yng nghwmni’r DUP a Sinn Féin.

Dy ymweliad dwytha â Dulyn, hyd y gwn i, oedd ym mis Ionawr, pan gefaist ffi o €58,000 am araith 25 munud mewn cynhadledd fusnes o’r enw Pendulum. Fe ges i gysylltiad anuniongyrchol efo ti ar y pryd. Roeddwn i’n gyfrifol am newyddion teledu RTÉ y noson honno, ac yn awyddus i dy gael yn westai, am dy fod yn ‘box office’, ac am fod ein cynulleidfa yn haeddu dy glywed yn ateb cwestiynau am Brexit – yn enwedig sut yn union mae osgoi ffin ar ynys Iwerddon, unwaith y bydd Prydain yn gadael yr undeb tollau.

Yn ôl dy staff, fyddet ti ddim ar gael. Doedd dy gytundeb â threfnwyr Pendulum, medden nhw, ddim yn caniatáu iti wneud cyfweliad teledu. Fe anfonais i e-bost at rywun dwi’n ei adnabod sy’n dy adnabod di yn dda iawn i ofyn iti’n bersonol a fyddet ti ar gael i esbonio manteision Brexit i bobl Iwerddon. Daeth yr ateb yn ôl gen ti: ‘swerve’. Doeddet ti ddim isio dod i mewn i ffau’r llewod.

Ond yn anffodus i ti, roedd trefnwyr Pendulum, mewn gwirionedd, yn gweld pethau dipyn yn wahanol. Roedden nhw isio gwerth eu harian – ac os oeddet ti am bocedu’r €58,000 roedd yn rhaid iti ymddangos ar newyddion RTÉ. Dwyt ti ddim yn un am golli cyfle i wneud pres: diwedd dy gân yw’r geiniog, ac felly y bu. Wrth gwrs, ddaeth dim goleuni o’r cyfweliad – dim ond rhyw nonsens ynglŷn â faint o gaws mae Prydain yn ei brynu gan Iwerddon.

A sôn am hynny, dwi’n gwybod dy fod yn hoff o gaws. Un cosyn adnabyddus a blasus o Iwerddon ydy Gubbeen, sy’n cael ei wneud yng Ngorllewin Corc, ddim ymhell o dref Skibbereen. Dwi ddim yn siŵr a wyt ti erioed wedi bod yno, ond mae gan Skibbereen le arbennig yn hanes newyddiaduriaeth oherwydd y papur lleol, y Skibbereen Eagle.

Yn 1898 fe gyhoeddodd y golygydd, Frederick Potter (a oedd yn Gymro, gyda llaw), erthygl yn rhybuddio Tsar Rwsia fod y Skibbereen Eagle yn cadw llygad arno fo, ‘and all such despotic enemies – whether at home or abroad – of human progression and man’s natural rights which undoubtedly include a nation’s right to self-government. “Truth”, “Liberty”, “Justice” and the “Land for the People” are the solid foundations on which the Eagle’s policy is based’. Rhybudd oedd hyn ynglŷn ag ymdrechion Rwsia i ehangu ei phŵer yn y Dwyrain Pell.

Roedd y syniad fod y papur bach hwn yng Ngorllewin Corc yn cadw llygad ar Tsar Rwsia yn destun cryn ddifyrrwch i bapurau newydd llawer pwysicach ledled Ewrop – a daeth ‘llygad y Skibbereen Eagle’ yn enwog.

Felly, dyma fi, Boris, yn sgwennu atat yn ysbryd y Skibbereen Eagle. Mae BARN yn cadw llygad arnat ti.

Dwi yn gobeithio y byddi di (fel rwyt ti wedi gwneud o’r blaen) yn newid dy diwn. Dwi ddim yn meddwl dy fod ti, yn y bôn, yn Frexitiwr caled i’r un graddau â Rees-Mogg. Dwi ddim yn meddwl bod dyn fel ti, sy’n nabod dy Cicero, Horas a Plato, yn gallu credu go iawn yn yr holl anwireddau eithafol, peryglus hyn.

Dwi’n gobeithio bod ’na, tu ôl i’r ddelwedd liwgar, ddi-hid, gnewyllyn o berson difrif sy’n gwybod pan fo’r jôc drosodd.

Ave atque vale,

Bethan

Bethan Kilfoil
Medi 2019